{"id":251359,"date":"2025-07-29T14:24:14","date_gmt":"2025-07-29T13:24:14","guid":{"rendered":"https:\/\/ftww.org.uk\/?p=251359"},"modified":"2025-08-02T09:32:52","modified_gmt":"2025-08-02T08:32:52","slug":"disability-pride-and-womens-health","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/","title":{"rendered":"Balchder Anabledd ac Iechyd Menywod"},"content":{"rendered":"<p><img decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-251360 alignleft\" src=\"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1-300x251.png\" alt=\"Illustration of diverse women in front of the Disability Pride flag with the FTWW logo above text reading 'Disability Pride &amp; Women's Health.'\" width=\"300\" height=\"251\" \/>Mae hi\u2019n Fis Balchder Anabledd ym mis Gorffennaf, ac yma yn FTWW rydyn ni wir yn credu bod anabledd yn rhywbeth i fod yn \u2018falch\u2019 ohono. Os nad ydych chi wedi darllen <a href=\"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/2023\/07\/31\/disability-pride-is-disability-something-to-be-proud-of-we-say-yes-and-heres-why\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>ein blog blaenorol<\/strong><\/a> am hyn, byddem yn argymell eich bod chi\u2019n gwneud hynny cyn i chi ddarllen hwn!<\/p>\n<p>Nid dathliad yn unig yw Mis Balchder Anabledd, mae hefyd yn brotest, ac mae hyn wedi cael ei ddangos ledled y DU dros y misoedd diwethaf i wrthwynebu Cynigion Diwygio Lles Llywodraeth y DU. Rydyn ni eisiau defnyddio'r blog hwn i dynnu sylw at rai o'r rhwystrau anablu sy\u2019n wynebu\u2019r rhai yn ein cymuned \u2013 yn enwedig o ran iechyd \u2013 yn ogystal \u00e2'r camau rydyn ni'n eu cymryd gyda'n cymuned a'n gwasanaethau iechyd i helpu i wella pethau ar gyfer 'iechyd menywod' ledled Cymru.<\/p>\n<p>Fel aelod o sefydliad pobl anabl Anabledd Cymru, fe wnaethom gyfrannu at eu hymateb i ymgynghoriad diwygio lles Llywodraeth y DU \u2013 a oedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen brys am gydgynhyrchu*; pe bai pobl anabl wedi bod yn bartneriaid cyfartal wrth ddylunio'r diwygiadau o'r cychwyn cyntaf, mae'n debygol iawn na fyddai'r cynigion wedi wynebu'r trallod a'r gwrthwynebiad a fynegwyd gan gynifer ar draws sawl rhan o gymdeithas. Fel eiriolwyr hirsefydlog dros gyd-gynhyrchu, rydyn ni\u2019n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn dysgu o hyn ac yn ymrwymo i gyd-gynhyrchu go iawn yn y dyfodol.<\/p>\n<p>We are particularly concerned at the impact proposed changes to future eligibility for Personal Independence Payment (PIP) and the health element of Universal Credit may have on women and people assigned female at birth (AFAB)**.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y Swyddfa Ystadegau Gwladol, <a href=\"https:\/\/ageing-better.org.uk\/news\/women-spending-more-years-with-disabling-illness\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>mae menywod yn debygol o brofi llai o flynyddoedd o fod \u2018heb anabledd' na dynion<\/strong><\/a>, yn fwy tebygol o fod yn byw gyda phroblem iechyd, ac yn fwy tebygol o gael eu cyfyngu o ran gweithgareddau o ganlyniad.<\/p>\n<p>Bydd llawer o fenywod anabl yn dibynnu ar gymorth ychwanegol gan y wladwriaeth, fel Taliadau Annibyniaeth Personol, i helpu i dalu am y costau ychwanegol sy'n deillio o fod yn anabl; <a href=\"https:\/\/www.scope.org.uk\/campaigns\/disability-price-tag\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>mae canfyddiadau diweddaraf Scope<\/strong><\/a> yn dangos bod angen \u00a31,095 yn ychwanegol ar \u201caelwydydd anabl\u201d bob mis. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr aelwydydd hyn yn cael yr un safon byw ag aelwydydd nad ydynt yn anabl. Dros y pum mlynedd nesaf, disgwylir gweld cynnydd mewn chwyddiant a\u2019r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag anabledd, gan gyrraedd \u00a31,224 y mis erbyn blwyddyn ariannol 2029-2030.\u201d<\/p>\n<p>Gall rhai o'r costau ychwanegol hyn fod ar ffurf ymyriadau therapiwtig (nad ydynt ar gael yn aml drwy\u2019r GIG) i alluogi pobl i aros yn ddigon iach i aros mewn gwaith. Mae llawer o'n haelodau'n gorfod talu\u2019n breifat am gwnsela, atchwanegiadau, ffisiotherapi a dyfeisiau fel peiriannau TENS, felly rydyn ni\u2019n ei chael hi'n anodd gweld sut y gall y newidiadau arfaethedig i gymhwysedd fod yn gymhelliant i weithio, pan fydd yn fudd sydd eisoes yn gwneud yr union beth y bwriadwyd iddo ei wneud: helpu menywod i gadw eu hannibyniaeth a, lle bo'n bosibl, aros mewn gwaith, neu i gael gwaith.<\/p>\n<p>Nid oes amheuaeth y bydd toriadau arfaethedig i fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd yn cael effaith anghymesur ar fenywod, ond maen nhw'n wynebu rhwystrau ychwanegol o ran eu gofal iechyd hefyd \u2013 a dyna pam mae FTWW yn bodoli.<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n cydnabod y gellid dadlau mai'r rhwystr mwyaf sy'n anablu pobl yn ein cymuned yw diffyg ymwybyddiaeth; gan nad yw cynifer o fenywod sy\u2019n byw gyda phroblemau iechyd hirdymor - sy\u2019n aml yn rhai cronig ac anweladwy - yn ystyried eu hunain fel pobl anabl \u2018nodweddiadol\u2019, a heb fod yn wybodol o'r hawliau cysylltiedig o dan <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/definition-of-disability-under-equality-act-2010\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Ddeddf Cydraddoldeb 2010<\/strong><\/a>, mae hyn yn golygu nad ydynt yn gallu cael gafael ar y cyngor a\u2019r cymorth y mae ganddynt hawl iddynt, sy\u2019n cynnwys addasiadau rhesymol yn y gweithle a gwasanaethau gofal cymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae FTWW yn wir yn cefnogi'r model cymdeithasol o anabledd, sy\u2019n canolbwyntio ar sut mae rhwystrau cymdeithasol (fel trafnidiaeth gyhoeddus anhygyrch, oedi cyn cael diagnosis, rhestr aros hir y GIG, ac adeiladau cyhoeddus anhygyrch) yn ein 'anablu\u2019 ni. Mae\u2019r model yn wahanol i'r model meddygol o anabledd, sy\u2019n tueddu i ystyried pobl yn anabl oherwydd eu salwch neu amhariad\/amhariadau, yn hytrach nag oherwydd agweddau hanesyddol a chymdeithasol.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, mae'n werth nodi, yn ogystal \u00e2'r rhwystrau cymdeithasol, bod llawer o bobl \u00e2 salwch cronig yn anabl oherwydd eu problemau a'u symptomau iechyd, ac felly o bosibl yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y model cymdeithasol \u2013 rhywbeth mae pob un ohonom yn FTWW yn gallu uniaethu ag ef oherwydd ein profiadau bywyd ein hunain. O ganlyniad, ein nod yw sicrhau bod profiadau'r rhai sydd \u00e2 salwch cronig a \/ neu salwch hirdymor yn cael eu cynnwys a'u clywed ym mudiad y model cymdeithasol.<\/p>\n<p>Fel llawer yn ein cymuned, rwy'n teimlo fy mod i'n 'casglu' amhariadau a phroblemau iechyd cronig; cefais fy ngeni gydag un, daeth un arall ar \u00f4l i mi gael anaf i'r pen, ac mae\u2019r gweddill wedi dod yn ddiweddarach mewn bywyd. Er bod fy iechyd yn fy anablu'n fawr, rwy\u2019n cefnogi'r model cymdeithasol oherwydd bod llawer o\u2019m problemau iechyd wedi'u hachosi gan oedi hir cyn cael diagnosis, diffyg mynediad at y gofal sydd ei angen arnaf, a\u2019r ffaith nad oes gwasanaethau iechyd yn bodoli ar gyfer ambell salwch sydd gennyf.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2'r holl rwystrau a grybwyllwyd yn flaenorol, rwyf wedi cael fy anablu ymhellach gan ragfarn feddygol; lle tybiwyd, gan nad ydw i\u2019n berson str\u00eat ac felly\u2019n berson anfoesol, bod fy symptomau parhaus \u2018yn gysylltiedig ag STD\u2019; diffyg mynediad at y system iechyd; rhagfarn systemig sydd yn rhy aml yn gweld problemau gynaecolegol yn cael eu priodoli\u2019n anghywir fel stereoteipiau rhywedd (\u2018menyw ydych chi, felly mae\u2019n rhaid eich chi\u2019n dioddef o bryder \/ straen\u2019); gwahaniaethu (gan gynnwys mewn gweithleoedd a lleoliadau gofal iechyd blaenorol lle gwrthodwyd addasiadau rhesymol ar fy nghyfer), ac agweddau negyddol yn gyffredinol tuag at bobl anabl a\u2019r hyn y gallwn ei wneud: yn syml, pe bai\u2019r gwasanaethau iechyd wedi diwallu fy anghenion pan ddechreuais i chwilio am ofal am y tro cyntaf yn 1999, a phe bai\u2019r rhwystrau cymdetihasol yn cael eu chwalu, mae\u2019n bosibl na fyddwn i wedi bod mor anabl ag ydw i nawr. Mae fy mhrofiad i\u2019n debyg iawn i brofiadau menywod eraill ledled Cymru.<\/p>\n<p>Gofynnwyd i mi'n ddiweddar pam nad ydw i'n postio rhyw lawer am un o\u2019m problemau iechyd yn ystod ei fis ymwybyddiaeth. Mae yna nifer o resymau dros hyn: Rwy'n credu y dylai codi ymwybyddiaeth, gweithredu ac eirioli fod yn bethau y dylem ni fod yn eu gwneud drwy gydol y flwyddyn; dydw i ddim eisiau ail-drawmateiddio fy hun, a sylweddolais y byddai\u2019n rhaid i mi neilltuo pedwar mis cyfan yn olynol ar gyfer misoedd ymwybyddiaeth dim ond rhai o'm problemau iechyd. Nid yw hyn yn bosibl i rywun fel fi sy\u2019n byw gyda chyflyrau sy\u2019n cyfyngu ar eich egni, gorfod cadw swydd ran-amser, mwynhau hob\u00efau, a \u2018byw\u2019 yn gyffredinol! Ond y rheswm mwyaf yw'r ffaith nad yw llawer o'r rhwystrau rydyn ni\u2019n eu hwynebu yn ein gofal iechyd yn gyfyngedig i un broblem iechyd.<\/p>\n<p>Roedd adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru yn y trydydd sector, a gafodd ei gydgynhyrchu a'i gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Iechyd Menywod yn \u00f4l yn 2022, yn tynnu sylw at bedair thema allweddol sy'n cael effaith niweidiol ar iechyd menywod:<\/p>\n<ol>\n<li>Diffyg mynediad at wasanaethau arbenigol<\/li>\n<li>Yr angen i wella\u2019r dull o gasglu data<\/li>\n<li>Cymorth ar gyfer cydgynhyrchu cynaliadwy<\/li>\n<li>Gwell hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal<\/li>\n<\/ol>\n<p class=\"translation-block\">Llwyddodd y Gynghrair i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i Gynllun deng mlynedd <a href=\"https:\/\/perfformiadagwella.gig.cymru\/swyddogaethau\/rhwydweithiau-a-chynllunio\/iechyd-menywod\/cynllun-iechyd-menywod-cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" role=\"link\"><strong>GIG Cymru ar gyfer Iechyd Menywod<\/strong><\/a>, ac mae\u2019r gwaith bellach yn mynd rhagddo. Fel Cadeirydd y Gynghrair, mae FTWW yn gweithio gyda'r Llywodraeth a GIG Cymru i sicrhau bod cydgynhyrchu wrth galon y gwaith o ddylunio a chyflawni'r cynllun.<\/p>\n<p>Ond nid dyna\u2019i diwedd hi.  Fel elusen sy'n cael ei harwain gan gleifion, roedden ni\u2019n falch iawn o gyhoeddi '<a href=\"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/2025\/05\/28\/read-our-manifesto-our-right-to-health-and-wellbeing-in-wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Ein Hawl Menywod i Iechyd a Llesiant yng Nghymru', sef ein maniffesto ar gyfer 2026-2030<\/strong><\/a>, a gafodd ei gydgynhyrchu\u2019n llawn \u00e2\u2019n haelodau ym mis Mai eleni.<\/p>\n<p>Mae'r maniffesto yn nodi'r materion presennol sy'n wynebu gofal iechyd menywod yng Nghymru, ynghyd \u00e2'n galwadau i Lywodraeth nesaf Cymru ar sut i fynd i'r afael \u00e2 nhw, gan dynnu sylw at chwe ffordd o wireddu hawl menywod i iechyd a llesiant yng Nghymru:<\/p>\n<ul>\n<li>Buddsoddiad parhaus mewn ymchwil i faterion a chyflyrau iechyd sy'n effeithio ar fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod adeg eu geni<\/li>\n<li>Iechyd mislif, cyflyrau gynaecolegol, a'r menopos fel blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi a gwella ansawdd mewn gofal sylfaenol yng Nghymru<\/li>\n<li>Lleihau rhestrau aros GIG Cymru<\/li>\n<li>Hyfforddiant a buddsoddiad mewn nyrsys arbenigol a gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd ar gyfer cyflyrau \u2018iechyd menywod\u2019 mewn gofal sylfaenol ac eilaidd<\/li>\n<li>Gwreiddio arweinyddiaeth iechyd menywod a chydgynhyrchu gyda chleifion a'r trydydd sector ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru<\/li>\n<li>Siarter Cleifion GIG Cymru wedi'i chydgynhyrchu<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os gall Llywodraeth nesaf Cymru weithredu'r cynigion hyn, gyda chydgynhyrchu yn ganolog iddynt, rydyn ni\u2019n sicr y gall profiadau llawer o fenywod o gael eu hanablu gan wasanaethau iechyd droi\u2019n rhywbeth sy\u2019n perthyn i'r gorffennol.<\/p>\n<p>Pan ystyriwn fod <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/staff-gyflogir-yn-uniongyrchol-gan-y-gig-ar-30-medi-2024-html\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>77% o weithlu'r GIG yng Nghymru yn fenywod<\/strong><\/a>, mae\u2019n amlwg nad cleifion yn unig fyddai\u2019n elwa o wasanaethau iechyd gwell, ond staff gwerthfawr y GIG hefyd. Dim ond drwy gydweithio fel partneriaid go iawn y gallwn wneud pethau'n well i bawb.<\/p>\n<p>Wrth i Fis Balchder Anabledd ddirwyn ddod i ben, hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad a'n balchder diffuant yn ein cymuned am eu heiriolaeth, eu cefnogaeth i'w gilydd, a'u cymhelliant i wneud pethau'n well i bawb. Rydyn ni hefyd yn annog eraill i ymuno \u00e2 ni a sicrhau bod hawliau anabledd a gwelliannau i ofal iechyd yn cael eu hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn.<\/p>\n<p class=\"translation-block\">Os hoffech chi gymryd rhan yng ngwaith FTWW, <a href=\"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/cysylltu-a-ni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" role=\"link\"><strong>mae croeso i chi gysylltu \u00e2 ni<\/strong><\/a>. Os ydych chi\u2019n glaf, rydyn ni\u2019n eich gwahodd i ymuno \u00e2\u2019n <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/groups\/ftww.wales\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" role=\"link\"><strong>gr\u0175p Facebook<\/strong><\/a> and \/ ac \/ neu i gysylltu \u00e2 ni am <a href=\"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/cymryd-rhan\/gwirfoddoli\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\" role=\"link\"><strong>wirfoddoli<\/strong><\/a>.<\/p>\n<p>*Cydgynhyrchu: Partneriaeth gyfartal lle mae pobl sydd \u00e2 phrofiad bywyd (fel cleifion) a phrofiad a gafwyd drwy addysg (fel meddygon a nyrsys) yn gweithio gyda\u2019i gilydd o'r dechrau i'r diwedd.<\/p>\n<p>**Dylid ystyried bod cyfeiriadau yn ein henw ac ar ein gwefan at \u2018fenywod\u2019 yn cynnwys merched a phobl sydd wedi'u cofrestru'n fenywod ar adeg eu geni, gan gynnwys pobl draws, anneuaidd a rhyngrywiol \u2013 mae FTWW yn eu cefnogi nhw i gyd.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>July is Disability Pride Month, and here at FTWW we truly believe that disability something to be \u2018proud\u2019 of \u2013 if you haven\u2019t read our previous blog on this, we\u2019d recommend doing so before you read this one!\u00a0<\/p>","protected":false},"author":5,"featured_media":251360,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","_price":"","_stock":"","_tribe_ticket_header":"","_tribe_default_ticket_provider":"","_tribe_ticket_capacity":"0","_ticket_start_date":"","_ticket_end_date":"","_tribe_ticket_show_description":"","_tribe_ticket_show_not_going":false,"_tribe_ticket_use_global_stock":"","_tribe_ticket_global_stock_level":"","_global_stock_mode":"","_global_stock_cap":"","_tribe_rsvp_for_event":"","_tribe_ticket_going_count":"","_tribe_ticket_not_going_count":"","_tribe_tickets_list":"[]","_tribe_ticket_has_attendee_info_fields":false,"footnotes":""},"categories":[142,486,459,506],"tags":[],"class_list":["post-251359","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-blog","category-disability","category-health-issues","category-understanding-disability"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Disability Pride and Women&#039;s Health - Fair Treatment for the Women of Wales<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"July is Disability Pride Month, and here at FTWW we truly believe that disability something to be \u2018proud\u2019 of \u2013 if you haven\u2019t read our previous blog on this, we\u2019d recommend doing so before you read this one!\u00a0\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Disability Pride and Women&#039;s Health - Fair Treatment for the Women of Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"July is Disability Pride Month, and here at FTWW we truly believe that disability something to be \u2018proud\u2019 of \u2013 if you haven\u2019t read our previous blog on this, we\u2019d recommend doing so before you read this one!\u00a0\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Fair Treatment for the Women of Wales\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-07-29T13:24:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-08-02T08:32:52+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"940\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"788\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Dee Montague-Coast\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Dee Montague-Coast\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Dee Montague-Coast\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0bbddfa45296130530b5b3532f49c3e5\"},\"headline\":\"Disability Pride and Women&#8217;s Health\",\"datePublished\":\"2025-07-29T13:24:14+00:00\",\"dateModified\":\"2025-08-02T08:32:52+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/\"},\"wordCount\":1551,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/07\\\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png\",\"articleSection\":[\"Blog\",\"Disability\",\"Health issues\",\"Understanding Disability\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/\",\"name\":\"Disability Pride and Women's Health - Fair Treatment for the Women of Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/07\\\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png\",\"datePublished\":\"2025-07-29T13:24:14+00:00\",\"dateModified\":\"2025-08-02T08:32:52+00:00\",\"description\":\"July is Disability Pride Month, and here at FTWW we truly believe that disability something to be \u2018proud\u2019 of \u2013 if you haven\u2019t read our previous blog on this, we\u2019d recommend doing so before you read this one!\u00a0\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/07\\\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/07\\\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png\",\"width\":940,\"height\":788,\"caption\":\"Illustration of diverse women in front of the Disability Pride flag with the FTWW logo above text reading 'Disability Pride & Women's Health.'\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/2025\\\/07\\\/29\\\/disability-pride-and-womens-health\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"\u2302\",\"item\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Disability Pride and Women&#8217;s Health\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/\",\"name\":\"Fair Treatment for the Women of Wales\",\"description\":\"Fair Treatment for the Women of Wales is the only patient-led charity in Wales dedicated to women&rsquo;s health equality\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#organization\",\"name\":\"Fair Treatment for the Women of Wales\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/FTWW-test_03.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/FTWW-test_03.png\",\"width\":275,\"height\":98,\"caption\":\"Fair Treatment for the Women of Wales\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/0bbddfa45296130530b5b3532f49c3e5\",\"name\":\"Dee Montague-Coast\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/c73f910dfca55c46d09906f847dbab764392be96d1ad015056a8bfe9041d6343?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/c73f910dfca55c46d09906f847dbab764392be96d1ad015056a8bfe9041d6343?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/c73f910dfca55c46d09906f847dbab764392be96d1ad015056a8bfe9041d6343?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Dee Montague-Coast\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/ftww.org.uk\\\/cy\\\/author\\\/dee-mc\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Disability Pride and Women's Health - Fair Treatment for the Women of Wales","description":"July is Disability Pride Month, and here at FTWW we truly believe that disability something to be \u2018proud\u2019 of \u2013 if you haven\u2019t read our previous blog on this, we\u2019d recommend doing so before you read this one!\u00a0","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Disability Pride and Women's Health - Fair Treatment for the Women of Wales","og_description":"July is Disability Pride Month, and here at FTWW we truly believe that disability something to be \u2018proud\u2019 of \u2013 if you haven\u2019t read our previous blog on this, we\u2019d recommend doing so before you read this one!\u00a0","og_url":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/","og_site_name":"Fair Treatment for the Women of Wales","article_published_time":"2025-07-29T13:24:14+00:00","article_modified_time":"2025-08-02T08:32:52+00:00","og_image":[{"width":940,"height":788,"url":"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png","type":"image\/png"}],"author":"Dee Montague-Coast","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Dee Montague-Coast","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/"},"author":{"name":"Dee Montague-Coast","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#\/schema\/person\/0bbddfa45296130530b5b3532f49c3e5"},"headline":"Disability Pride and Women&#8217;s Health","datePublished":"2025-07-29T13:24:14+00:00","dateModified":"2025-08-02T08:32:52+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/"},"wordCount":1551,"publisher":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png","articleSection":["Blog","Disability","Health issues","Understanding Disability"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/","url":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/","name":"Disability Pride and Women's Health - Fair Treatment for the Women of Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png","datePublished":"2025-07-29T13:24:14+00:00","dateModified":"2025-08-02T08:32:52+00:00","description":"July is Disability Pride Month, and here at FTWW we truly believe that disability something to be \u2018proud\u2019 of \u2013 if you haven\u2019t read our previous blog on this, we\u2019d recommend doing so before you read this one!\u00a0","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/#primaryimage","url":"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png","contentUrl":"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Disability-Pride-and-Womens-Health-Blog-1.png","width":940,"height":788,"caption":"Illustration of diverse women in front of the Disability Pride flag with the FTWW logo above text reading 'Disability Pride & Women's Health.'"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/2025\/07\/29\/disability-pride-and-womens-health\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"\u2302","item":"https:\/\/ftww.org.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Disability Pride and Women&#8217;s Health"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#website","url":"https:\/\/ftww.org.uk\/","name":"Triniaeth Deg i Fenywod Cymru","description":"Fair Treatment for the Women of Wales is the only patient-led charity in Wales dedicated to women&rsquo;s health equality","publisher":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ftww.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#organization","name":"Triniaeth Deg i Fenywod Cymru","url":"https:\/\/ftww.org.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/FTWW-test_03.png","contentUrl":"https:\/\/ftww.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/FTWW-test_03.png","width":275,"height":98,"caption":"Fair Treatment for the Women of Wales"},"image":{"@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/ftww.org.uk\/#\/schema\/person\/0bbddfa45296130530b5b3532f49c3e5","name":"Dee Montague-Coast","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/c73f910dfca55c46d09906f847dbab764392be96d1ad015056a8bfe9041d6343?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/c73f910dfca55c46d09906f847dbab764392be96d1ad015056a8bfe9041d6343?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/c73f910dfca55c46d09906f847dbab764392be96d1ad015056a8bfe9041d6343?s=96&d=mm&r=g","caption":"Dee Montague-Coast"},"url":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/author\/dee-mc\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/251359","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=251359"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/251359\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":251361,"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/251359\/revisions\/251361"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/251360"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=251359"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=251359"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ftww.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=251359"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}