Gan ein ffrindiau yn Nhîm ESTEEM:
Annwyl Gymuned Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Rydym wrthi’n cynnal prosiect i ddatblygu dull i fesur y costau sy'n gysylltiedig â symptomau'r menopos. Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r prosiect yn rhan o dreial ESTEEM, sy'n edrych ar y defnydd o destosteron pan gaiff ei ychwanegu at therapi amnewid hormonau (HRT).
Nid yw'r ffyrdd presennol o fesur costau yn dal llawer o'r gwasanaethau y gallai'r rhai sy'n profi symptomau'r menopos fod yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae angen eich help arnom i ddatblygu'r mesur newydd hwn. Rydym yn gwahodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu am fenywod sy'n profi symptomau'r menopos i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein i ddweud wrthym pa adnoddau gofal iechyd (er enghraifft, apwyntiadau meddyg teulu, profion gwaed, cwnsela) sy'n gysylltiedig â symptomau'r menopos ac adnoddau ehangach (er enghraifft, amser i ffwrdd o'r gwaith, costau personol ar gyfer therapïau amgen).
Rydym am ddysgu pa rai o'r eitemau hyn yw'r pwysicaf i'w cynnwys yn y mesur newydd hwn a fydd yn cael ei ddefnyddio yn nhreial ESTEEM ac a fydd ar gael i ymchwilwyr eraill sy'n gweithio ym maes ymchwil i'r menopos.
I gymryd rhan yn y prosiect, cliciwch yma.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Martina Svobodova, Canolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd
esteem@cardiff.ac.uk.