Deall anabledd

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod tua 26% o'r boblogaeth yn anabl, ond nid yw llawer o'r rheini'n gwybod eu bod yn gallu eu galw eu hunain yn anabl. 

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â deall anabledd, a'n gwaith yn y maes hwn.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol

Beth yw anabledd?

    Yn ôl Cyfraith y DU, rydych chi'n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes gennych chi amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith negyddol sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin bob dydd. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n cael trafferth â materion iechyd corfforol a meddyliol cronig.

    Yng Nghymru, rydym ni'n dilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd, sy'n esbonio sut mai rhwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agweddol sy'n gallu gwneud pobl yn anabl a'u hatal rhag cymryd rhan mewn cymdeithas, nid o reidrwydd y cyflyrau neu'r amhariadau meddygol. Nid bod hynny'n golygu nad oes angen meddyginiaethau a thriniaethau ar bobl – ond ei bod hi weithiau'n anodd cael gafael ar y rheini a bod rhwystrau fel y rheini'n cael gwneud pobl yn anabl.

    Nid yw llawer o bobl sy'n troi at FTWW am gymorth ar gyfer eu materion iechyd cronig hirdymor yn sylweddoli eu bod yn 'cael' eu galw eu hunain yn anabl, yn aml oherwydd bod llawer o stereoteipiau o sut beth yw anabledd.

    I gael rhagor o wybodaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd, lawrlwythwch y Pecyn Cymorth oddi ar Anabledd Cymru yma (saesneg yn unig).

    Beth rydym ni'n galw amdano?

    Rydym ni'n ceisio grymuso ein cymuned i ddeall yn well beth yw ystyr y term 'anabledd', dysgu am y model cymdeithasol o anabledd, gwybod beth yw eu hawliau, a bod yn 'hyderus am anabledd'.

    Yn aml, bydd aelodau FTWW yn dweud wrthym mai'r model meddygol sy'n tueddu i gael ei ddefnyddio mewn llawer o lefydd, gan gynnwys gweithleoedd a mannau clinigol. Sef pan fydd disgwyl i rywun yn sâl, neu â nam, newid eu hunain i ffitio i mewn i'r hyn sydd o'u cwmpas. Eu symptomau neu eu namau sydd 'ar fai' am nad ydynt yn gallu gwneud pethau.

    Er ei bod yn wir fod symptomau fel poen a blinder yn gallu gwneud pethau'n anodd iawn i bobl, nid yw hynny'n golygu nad oes angen newidiadau eraill yn y gymdeithas yn ehangach. Yn wir, maen nhw'n gallu helpu i wneud rhai agweddau ar fywyd yn haws ac yn fwy cynhwysol.

    Gall y model meddygol hefyd olygu, i'r rhai sydd heb nam 'gweladwy', nad yw eu symptomau a'u hanghenion yn cael eu deall bob amser nac yn cael eu cymryd o ddifri nes bydd diagnosis meddygol yn cael ei gadarnhau.

    Mae tystiolaeth yn awgrymu bod hyn yn gallu effeithio'n anghymesur ar ferched, menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, oherwydd yn aml mae oedi hir iawn cyn diagnosio'r cyflyrau iechyd y maent yn byw â nhw. Gall hyn olygu nad yw'r gofal, y gefnogaeth a'r addasiadau a allai fod yn angenrheidiol i'w helpu i gymryd rhan mewn bywyd ar gael iddynt.

    Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wreiddio'r model cymdeithasol o anabledd mewn gwasanaethau cyhoeddus yn 2022, ond – fel y mae ein haelodau yn tystio iddo – mae ffordd bell i fynd o hyd.

    I'r rhai sydd yn uniaethu fel anabl, maen nhw weithiau'n gweld nad ydy eu tystiolaeth yn cael ei pharchu. Rydym ni'n clywed gan fenywod sydd wedi cael eu herio gan bobl gan nad yw'r amhariadau sydd ganddynt yn weladwy bob amser a'u bod yn gorfod 'profi' eu bod yn anabl neu'n sâl drwy ateb llawer o gwestiynau busneslyd.

    Weithiau, ni fydd cyflogwr yn ystyried gwneud 'addasiadau rhesymol' oherwydd nid ydynt yn deall nac yn cydnabod anghenion gweithwyr sydd heb ddiagnosis meddygol ffurfiol.

    Mae'r materion hyn yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a phobl o ryweddau ar yr ymylon oherwydd nad ydynt, yn hanesyddol, wedi cael eu credu neu gael eu cymryd o ddifri pan fyddan nhw'n siarad am symptomau neu drafferthion. Weithiau, maen nhw'n cael eu diystyru fel namau personoliaethol neu salwch meddwl – ond mae aelodau o gymuned FTWW hefyd yn dweud eu bod nhw'n cael trafferth cael cymorth ar gyfer iechyd meddwl.

    Mae rhai yn dweud bod pobl o'u cwmpas wedi dweud wrthynt fod trallod meddyliol yn 'nodweddiadol o fenywod' oherwydd bod menywod yn 'fwy sensitif', yn 'gor-ymateb' neu'n 'hormonaidd'. Nid yw stereoteipiau fel hyn yn helpu a gallant atal menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni rhag cael y gofal neu'r addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnynt. I rai, gall hyn olygu eu bod nhw'n cael trafferth cael mynediad at ofal iechyd, addysg, neu waith.

    Mae angen i ni wneud y canlynol:

    • Gweld mwy o adnabyddiaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ledled y DU, yng Nghymru, ac yn ein cymuned, fel bod rhai na fyddai wedi uniaethu ag 'anabledd' o'r blaen yn gallu adnabod eu profiadau eu hunain a'u hawliau o'i mewn.

    • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd ymysg ein cymuned a'n rhwydweithiau, ond hefyd ymysg y cyrff cyhoeddus a'r rhanddeiliaid eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw.

    • Grymuso ein cymuned a'r gymdeithas yn ehangach i gofleidio'r model cymdeithasol, a rhoi hyder iddynt herio llefydd a mannau lle nad yw'n cael ei fabwysiadu

    • Sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd â phrofiad bywyd yn cael eu clywed gan y rhai sy'n llunio polisïau, byrddau iechyd, awdurdodau lleol ac ati, i sicrhau nad ydynt yn creu nac yn parhau â rhwystrau rhag menywod anabl a phobl anabl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni

    • Helpu ein cymuned a'r gymdeithas yn ehangach i wrthod stereoteipiau negyddol am anabledd, gan gynnwys sut mae rhai pobl anabl a phobl sydd â salwch cronig yn eu gweld eu hunain

    • Codi ymwybyddiaeth am y croestoriadau gofidus sy'n wynebu menywod anabl, fel risg uwch o gam-drin domestig a diffyg llochesi neu gymorth hygyrch

    • Parhau â'n brwydr dros degwch iechyd, er mwyn i bawb gael y gofal iechyd sydd ei angen arnynt, ni waeth pwy ydyn nhw na ble maen nhw'n byw.

    Mae holl ymddiriedolwyr a staff FTWW yn hyrwyddo'r Model Cymdeithasol o Anabledd ac maent yn mynychu hyfforddiant i gael gwybod y diweddaraf â'i nodau. Fel elusen sy'n cael ei arwain gan gleifion, mae cyd-gynhyrchu'n bwysig i ni, ac rydym ni'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod ein haelodau a'r gymuned ehangach yn cael cyfleoedd i fod yn rhan o'r gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau oherwydd ein bod ni'n credu yn arwyddair y mudiad anabledd, 'Dim byd amdanom ni hebom ni'! 

     

    Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?

    Rydym ni wedi gwneud gwaith ymgyrchu helaeth i godi ymwybyddiaeth o anabledd, y model cymdeithasol, ac anghyfiawnder ar sail anabledd a rhywedd. Dyma rai o'n llwyddiannau:

    Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
    • Rydym ni'n cefnogi ein hymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr ac aelodau i rannu eu profiadau, ac rydym ni'n cwrdd yn rheolaidd â newyddiadurwyr i godi ymwybyddiaeth o'r prif faterion sy'n wynebu ein cymuned

    • Rydym ni'n ysgrifennu ac yn cyhoeddi blogiau am croestoriadau rhwng anabledd, materion iechyd, a rhywedd.

    Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
    • Rydym ni'n ymateb i amrywiaeth eang o Ymgyngoriadau'r Llywodraeth a'r Senedd i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, yn enwedig y rhai sy'n byw â chyflyrau iechyd hirdymor ac nad ydynt yn cael eu gweld fel anabl fel arfer, yn cael eu clywed a'u hystyried
    • Fel cadeirydd Cynghrair Iechyd Menywod Cymru, rydym ni'n gweithio i sicrhau bod amrywiaeth o faterion iechyd ac amhariadau yn cael eu hystyried a'u cynnwys mewn pethau fel Cynllun Iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Menywod a Merched.
    Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
    • Roedden ni'n aelodau o'r grŵp llywio yn gyfrifol am gyd-gynhyrchu'r adroddiad ‘Drws ar Glo’ a oedd yn edrych ar effaith y pandemig ar bobl anabl yng Nghymru
    • Rydym ni'n aelodau o Dasglu Hawliau Anabledd Gweinidogol Llywodraeth Cymru a gweithgorau; gyda Chadeirydd FTWW, Willow Holloway, yn cadeirio'r gweithgor ar gyfer Iechyd a Llesiant
    • Rydym ni'n gweithio gyda llunwyr polisïau Llywodraeth Cymru ac ymchwilwyr mewn gweithdai i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb i bynciau fel Nod Barcud Anabledd Cymru, a Chanolfan Genedlaethol ar gyfer Byw'n Annibynnol
    • Rydym ni'n ymgysylltu ag ymchwilwyr ac academyddion i'w rhoi nhw mewn cysylltiad â'n haelodau, i geisio gwella iechyd menywod, gan wneud yn siŵr fod gweithgareddau'n hygyrch ar gyfer menywod anabl a bod eu profiadau a'u hanghenion yn cael eu hystyried mewn prosiectau ymchwil
    • Rydym ni'n aml yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau'r Senedd, fel y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ar bynciau fel y rhwystrau sy'n wynebu menywod anabl mewn cyflogaeth.

      Newyddion a blogiau cysylltiedig

      Join FTWW to Illustrate & Raise Awareness of Women’s Health Experiences!

      Ymunwch â’r FTWW er mwyn Darlunio a Chodi Ymwybyddiaeth o Brofiadau Iechyd Menywod!

      FTWW and our friends at Cardiff University will be hosting two workshops on Drawing Out Long-Term Health Issues.
      Open to women and people registered female at birth living or receiving healthcare in Wales, these workshops use step-by-step drawing exercises to help people express and share their thoughts and feelings about their health issues. You can read more about the process here.

      Disability and Employment: Nothing About Us Without Us

      Disability and Employment: Nothing About Us Without Us

      by Dee Montague-Coast (FTWW Engagement Officer) Last week, I met with my (at the time of writing, only) work colleague in-person – something so normal to many, however it was the first time I’d seen her in person since November 2019 – over a year before I began...

      Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall

      Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.

      Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.

      cyCymraeg