Gwybodaeth am FTWW
Ni yw'r unig elusen sy'n cael ei harwain gan gleifion a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer sicrhau cydraddoldeb iechyd i fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth amdanom ni, ein gweledigaeth a mwy.
Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yn elusen gofrestredig (rhif elusen gofrestredig 1191069) ers 2020. Rydym ni hefyd yn Sefydliad Pobl Anabl ac yn aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac o Anabledd Cymru.
Rydym ni'n cefnogi, yn hysbysu, yn addysgu, ac yn grymuso merched, menywod a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yng Nghymru ac sy'n byw ag amrywiaeth o faterion iechyd a heb fod yn cael triniaeth ddigonol (neu deg). Fel 'arbenigwyr drwy brofiad', rydym ni a'n tîm o wirfoddolwyr, yn eiriol dros anghenion gofal iechyd menywod yn lleol, yn genedlaethol ac ar lefel y DU.
Ein gweledigaeth
Rydym ni eisiau gweld Cymru lle mae'r hawl sydd gan bawb i iechyd a llesiant da yn cael ei barchu a'i ddarparu, gyda phawb yn gallu cael gafael ar y gofal iechyd sydd ei angen arnynt, pan mae ei angen, a hynny heb rwystrau.
Ein cenhadaeth
Cael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, i fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Strategaeth FTWW 2022-25 (saesneg yn unig)
Lawrlwythwch y ffeithlun hwn i weld ein strategaeth 3 blynedd, sy'n cynnwys ein blaenoriaethau strategol
Ein gwerthoedd
Rydym ni'n 'arbenigwyr drwy brofiad'
Fel elusen sy'n cael ei harwain gan gleifion, ac fel mudiad ar gyfer pobl anabl, mae ein holl waith yn seiliedig ar brofiad bywyd. Rydym ni'n deall pa mor bwysig yw cyd-gynhyrchu, a sut mae rhannu gwybodaeth a phrofiad ein cymuned yn gallu gwella gofal iechyd i bawb.
Rydym ni'n benderfynol ac yn ddewr
O ran cydraddoldeb iechyd, does dim cyfaddawdu. Mae ein gwirfoddolwyr, ein gweithwyr a'n hymddiriedolwyr, a'n cefnogwyr yn gweithio'n ddiflino i helpu i wella bywydau a gwyddom ein bod ni'n gallu gwneud dylanwad mawr er mai elusen fach ydym ni.
Rydym ni'n gynhwysol ac yn gefnogol
Rydym ni'n gwybod bod ffactorau fel hil, lliw, oedran, anabledd, rhyw, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, dod o gymuned ar yr ymylon neu brofi anfantais economaidd-gymdeithasol yn gallu cyfrannu at wneud i bobl deimlo nad oes 'neb yn gwrando arnynt' ynglŷn â'u hiechyd. Rydym ni'n deall hefyd fod gorgyffwrdd rhwng y materion hyn yn aml, gan greu mwy fyth o rwystrau. Ein nod yw gwrando, dysgu, cefnogi, a grymuso – a phan nad oes gennym yr arbenigedd, fe wnawn ni ein gorau i ddangos y ffordd at y cymorth.
Bodau dynol ydym ni
Mae pobl yn ganolog i'n gwaith ac rydym yn dosturiol wrth sgwrsio â'r bobl sydd eisiau cymorth. Mae hyn hefyd yn wir am ein ffordd o gynnal ein gweithgareddau.
Ein gwaith yng Nghymru
Gwybodaeth
Rydym ni'n sicrhau bod y bobl sy'n cael cymorth gennym yn gallu cael gwybodaeth er mwyn iddynt ddeall eu cyflyrau iechyd yn well a gwybod pa wasanaethau sydd angen.
Grymuso
Drwy gymorth gan gymheiriaid rydym ni'n grymuso ein haelodau i fagu hyder a gallu delio'n well â'u gofal iechyd.
Eiriolaeth
Rydym ni'n trefnu i'r rhai sy'n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau ac arbenigwyr drwy brofiad ddod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a'u bod yn gallu dylanwadu ar newid cadarnhaol pan fydd gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu.
Ein tîm

Ni fyddai FTWW yn bodoli heb ein tîm ymroddgar o staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr.
Ein dylanwad yng Nghymru
Er mai elusen fach yw FTWW, rydym ni'n cael dylanwad mawr. Drwy ddatblygu cymuned ar-lein, cael sylw mawr yn y cyfryngau a dylanwadu ar bolisïau, rydym ni'n wastad yn ceisio sicrhau cydraddoldeb iechyd i fenywod a merched yng Nghymru. Dyma ragor o wybodaeth am ein cyrhaeddiad a'n heffaith:
Gwobrau
Rachel is Young Volunteer of The Year
We are so proud of FTWW Volunteer, Rachel Joseph, who has been named ‘Young Volunteer of the Year’ Award at WCVA's Welsh Charity Awards. Rachel does so much for FTWW, and for endometriosis patients across Wales, and we would be lost without her. She picked up her...
Welsh Women’s Awards – Women Support Group of the Year
We are delighted to tell you that FTWW have won 'Women Support Group of the Year' at the The Welsh Women's Awards! Before we became a registered charity, we started out as a Facebook group, which is still going strong today. We welcome those looking for peer support,...
Jessica Nominated for Chwarae Teg Award
We are absolutely delighted that our Recurrent Miscarriage Campaign Lead, Jessica Evans, is a finalist at this year’s Chwarae Teg Womenspire awards, shortlisted in the Community Campion category. Jessica has campaigned tirelessly for families experiencing the...
Ymunwch â'n cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Beth am wirfoddoli, cyfrannu, eirioli?