Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod
Mae FTWW yn falch o chwarae rôl bwysig wrth gyd-arwain cyfraniad a chysylltiad cleifion a'r cyhoedd â chanolfan ymchwil iechyd menywod gyntaf Cymru.

Mae Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (WHRW) yn ganolfan ymchwil Cymru gyfan sy'n benodol ar gyfer iechyd menywod. Caiff ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) o dan gyfarwyddyd yr Athro Jacky Boivin ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar hyn o bryd mae'n cael ei ariannu am 5 mlynedd, o 2025.
Beth yw rôl FTWW?
Bydd FTWW yn chwarae rhan bwysig yng ngwaith y ganolfan fel cyd-arweinwyr y trydydd sector 'Cyfraniad a Chysylltiad â’r Cyhoedd a Chleifion’. Byddwn yn helpu i sicrhau bod prosiectau'n cynnwys elusennau a grwpiau, a bod lleisiau menywod eu hunain yn cael eu clywed yn y ffordd y mae'r ganolfan yn cael ei rhedeg a'r gweithgareddau y mae'n eu cynnal.
Am WHRW
Mae WHRW yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i iechyd menywod, rhywbeth y mae FTWW wedi helpu i'w sicrhau drwy ein gwaith yn eiriol dros gleifion a’n gwaith gyda sefydliadau eraill yng Nghlymblaid Iechyd Menywod Cymru y trydydd sector.
Mae Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru, a gyhoeddwyd ddiwedd 2024, yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil wrth helpu i fynd i'r afael â diffyg dealltwriaeth eang o faterion iechyd sy'n effeithio'n benodol, yn anghymesur neu'n wahanol ar fenywod, merched a phobl sydd wedi'u cofrestru'n fenywod adeg eu geni.
Nod WHRW yw:
- Datblygu prosiectau ymchwil sy'n edrych ar faterion sy'n gysylltiedig ag iechyd ar draws bywydau menywod a'u heffeithiau ehangach i wella profiadau a llesiant.
- Datblygu partneriaethau rhwng academyddion a diwydiant i helpu i greu triniaethau ac adnoddau sy'n gweithio'n well i fenywod
- Gweithio ar y cyd â'r trydydd sector, y GIG a llunwyr polisi, fel bod prosiectau ymchwil yn adlewyrchu anghenion menywod ac y gellir eu gweithredu yn ymarferol
- Helpu darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ddeall ac ystyried rhyw a rhywedd yn well yn y gwasanaethau y maen nhw’n eu datblygu
- Sicrhau bod mwy o bobl yn deall iechyd menywod yn well a sut i ymchwilio iddo
Bydd ymchwil WHRW yn canolbwyntio ar bedair thema neu faes:
- Sut y gellir cynnal a gwella iechyd ar wahanol gyfnodau o fywyd
- Cyflyrau sy’n dechrau’n gynnar a chyflyrau gydol oes
- Cyflyrau y mae stigma yn perthyn iddynt a rhai prin
- Grwpiau menywod na ddarperir gwasanaeth ddigonol iddynt a sut y gallant fod dan anfantais o ran datblygu a thrin clefydau a mynediad at ofal iechyd
I gael gwybod mwy, ewch i wefan WHRW lle byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gyfleoedd i gymryd rhan yn y prosiectau a’r gweithgareddau amrywiol.
Newyddion am WHRW
Lansio Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru
We were absolutely thrilled to attend the launch of Women’s Health Research Wales (WHRW) on 17 December. To mark the first anniversary of the landmark Women's Health Plan for Wales, First Minister Eluned Morgan and Minister for Mental Health and Wellbeing Sarah Murphy...
Want to work with us?
If you’d like to get in touch with FTWW about a research idea or have work underway for which you’d like our support, we’d love to hear from you
