
Roeddem yn falch iawn o fod yn bresennol yn lansiad Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (WHRW) ar 17 Rhagfyr. I nodi pen-blwydd cyntaf Cynllun Iechyd Menywod nodedig Cymru, cyfarfu'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, â staff, ymchwilwyr a'r cymunedau sy'n cydweithio â nhw yn SPARC Prifysgol Caerdydd.
Gan gynrychioli FTWW fel Cyd-arweinwyr Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Chleifion (y Trydydd Sector), roedd Sylfaenydd a Chyfarwyddwr ein Helusen, Debbie, yn un o'r siaradwyr, a bu’n hyrwyddo cydgynhyrchu a pha mor bwysig yw llais y claf mewn ymchwil a gofal iechyd.
Dywedodd Debbie, sydd hefyd yn gadeirydd Clymblaid Iechyd Menywod Cymru:
"Mae ymchwil i faterion iechyd y mae menywod yn eu hwynebu yn ystod cwrs eu bywyd yn hanfodol. Drwy weithio ar y cyd, mewn partneriaeth â menywod a chymunedau, mae gennym gyfle gwych i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella’r dewis o driniaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael.
"Rydyn ni’n edrych ymlaen at helpu i greu mwy o gyfleoedd i gyfranogi i’r rheini sydd â phrofiad bywyd, er nad yw eu lleisiau o bosibl wedi cael gwrandawiad o’r blaen."
Rhannwyd prosiectau ymchwil hefyd fel rhan o'r lansiad, ac roedd FTWW yn falch o fod yn rhan o boster a roddai fanylion y prosiect Drawing Out, lle'r oedd cyfranogwyr yn creu testun a delweddau gweledol i gyfleu effaith eu hamrywiol bryderon iechyd a rhannu eu profiadau â'i gilydd.
Fe wnaeth y rhai a oedd yn bresennol hefyd achub ar y cyfle i wneud eu marc ar y Cwilt EveryWoman, a ddarparwyd yn garedig gan Beth Morris Workshops a Gŵyl Everywoman, gan gymryd eu tro i ychwanegu llythyren i ysgrifennu 'Women's Health Research Wales'.
Mae FTWW a chyd-aelodau Clymblaid Iechyd Menywod Cymru yn falch dros ben o weld y ganolfan Cymru gyfan ar waith, ac edrychwn ymlaen at ennyn cyfranogiad y cymunedau a’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn ei hymchwil i’r dyfodol - cadwch lygad am ddiweddariadau a chyfleoedd!