Iechyd meddwl amenedigol

Mae 1 ymhob 8 o fenywod neu bobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu wedyn.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am iechyd meddwl amenedigol a'n gwaith i wella mynediad at ofal iechyd ar gyfer y mater iechyd hwn.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol

Beth yw iechyd meddwl amenedigol neu iechyd meddwl mamau?

Efallai eich bod chi wedi clywed y geiriau 'iechyd meddwl amenedigol' ac 'iechyd meddwl mamau' yn cael ei ddefnyddio i olygu'r un peth. Mae'r ddau derm yn cyfeirio at iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd a hyd at ddwy flynedd ar ôl geni.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gyfarwydd â therm fel 'iselder ar ôl geni'. Yn FTWW rydym ni'n tueddu i ddefnyddio'r term ambarél 'iechyd meddwl amenedigol' oherwydd mae hynny'n cwmpasu'r amrywiaeth eang o wahanol broblemau iechyd meddwl y gellir eu cael yn ystod genedigaeth a hyd at 2 flynedd wedyn.

  • Mae materion iechyd meddwl yn aml yn dod i'r amlwg yn ystod beichiogrwydd neu wedyn, gan effeithio ar tua 1 ymhob 8 o fenywod a rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yng Nghymru.
  • Mae'r rhai â hanes blaenorol o broblemau iechyd meddwl neu anhwylderau seiciatrig yn gallu bod â mwy o risg o ddatblygu mater iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu wedyn.
  • Gall problemau iechyd meddwl amenedigol gynnwys iselder ar ôl geni, anhwylderau gorbryder, anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD), a seicosis ar ôl geni. Mae rhagor o wybodaeth am bob un o'r rhain ar gael ar wefan GIG Cymru.

Mae'n werth nodi bod beichiogrwydd a'r cyfnod ar ôl geni yn adeg sy'n llawn newidiadau – corfforol, meddyliol, a hormonaidd felly er nad yw hi'n anghyffredin i deimlo'n wahanol ar yr adeg hon fe ddylech chi ofyn am gyngor gan weithiwr proffesiynol os ydych chi neu rywun annwyl i chi yn cael trafferthion.

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaethau iechyd meddwl mamau ar gael ar wefan GIG Cymru yma.

I gael rhagor o gyngor, gallwch chi fynd i'r Gynghrair Meddwl Mamau, sy'n gallu eich cyfeirio at sefydliadau sy'n cynnig cymorth yn eich ardal chi.

Er bod problemau iechyd meddwl amenedigol yn gyffredin, dim ond yn gymharol ddiweddar y mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi dechrau sefydlu gwasanaethau iechyd meddwl i gefnogi menywod yn eu cymunedau lleol. Bydd hyn yn effeithio'n ddifrifol ar rai menywod a bydd angen iddynt gael gofal fel claf mewnol, mewn ysbyty. Ond ar hyn o bryd, dim ond un bwrdd iechyd yng Nghymru (Abertawe) sydd ag uned arbenigol mam a'i baban, lle gall menywod a'u babanod aros gyda'i gilydd wrth gael gofal neu driniaeth arbenigol.

Beth rydym ni'n galw amdano?

Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod y rhai y mae materion iechyd meddwl amenedigol yn effeithio arnynt yn gallu cael cymorth iechyd meddwl arbenigol yn brydlon ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru.

Rydym ni'n bryderus am annhegwch eang o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Ar hyn o bryd, mae menywod ar adeg pan ydynt yn fwyaf agored i niwed ac angen cymorth, sef pan maent yn feichiog neu'n fuan wedyn, yn gallu gweld eu bod yn cael eu hanfon i unrhyw le yn y DU lle mae lle ar gael mewn uned mam a'i baban. Gall hyn fod oriau i ffwrdd o'u teuluoedd a gwasanaethau cymorth lleol yn agos at eu cartrefi.

Yng Nghymru, nid oes digon o gydnabyddiaeth o'r effaith hirdymor bosibl y gallai materion iechyd meddwl amenedigol ei chael ar bobl ac o'r diffyg buddsoddiad i'r gwasanaethau sydd eu hangen i'w cefnogi.

  • Ar hyn o bryd, mae'r unig uned arbenigol ar gyfer mam a'i baban yng Nghymru i'w chael ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe. Uned cleifion mewnol yw hon, sydd â 6 ystafell unigol i famau a'u babanod tra byddant yn derbyn gofal. Os nad oes digon o le yn Abertawe, gall cleifion o Gymru orfod teithio oriau lawer i unedau pell yn Lloegr. I'r rhai y mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt, neu sydd ag anghenion ychwanegol, mae hyn yn golygu bod perygl nad ydynt yn gallu cael y math o ofal sydd ei angen arnynt er mwyn gwella'n iawn.
  • Nid yw un uned yn ddigon ar gyfer Cymru gyfan wrth gwrs, ac mae Abertawe ei hun oriau lawer i ffwrdd yn y car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus i bobl o ogledd neu ganolbarth Cymru. I fynd i'r afael â'r anghyfartaledd hwn, mae uned mam a'i baban wrthi'n cael ei hadeiladu yn Ysbyty'r Countess of Chester yng ngogledd-orllewin Lloegr, a'r dyddiad agor arfaethedig yw Hydref 2025.
  • Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrthi'n gweithio â GIG Lloegr i ddatblygu'r uned, a bydd dau o'r 6 gwely yn cael eu neilltuo'n benodol ar gyfer menywod o Ogledd Cymru. Bydd yr uned yn cynnwys gwybodaeth ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) a bydd staff Cymraeg yn cael eu cyflogi hefyd.
  • Er bod ymrwymiadau i ragor o ofal arbenigol, mae FTWW yn bryderus hefyd am y dyddiadau terfynol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol yng Nghymru. Yn fwyaf aml, disgwylir y bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn atgyfeirio menywod sydd angen cymorth at y tîm iechyd meddwl amenedigol lleol. Ond mae cymhwysedd i gael y gwasanaeth hwn yn dod i ben 6-12 mis ar ôl geni.
  • Yn anffodus, gan fod problemau iechyd meddwl yn cael eu hystyried yn tabŵ yn aml, gyda menywod a theuluoedd yn bryderus neu'n ofnus am siarad am eu trafferthion, gall hyn olygu oedi cyn chwilio am gymorth. Efallai nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn sylweddoli bod angen cymorth ar fenywod a phan fydd yr atgyfeiriad yn cael ei wneud mae'n bosibl y bydd yn cael ei wrthod am ei fod y tu hwnt i'r dyddiad terfynol.
  • Mae'r dyddiad terfynol i gael gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol 6-12 mis ar ôl geni hefyd yn golygu bod rhywun sydd heb wella digon yn ystod y cyfnod hwnnw yn cael ei drosglwyddo i wasanaethau iechyd meddwl oedolion.
  • Gall y rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl fod yn hir iawn, gyda rhai cleifion yn dweud eu bod wedi gorfod aros blynyddoedd am therapïau seicolegol. Ar adeg pan allai menywod fod â llawer o gyfrifoldeb, gan gynnwys teuluoedd ifanc, mae hyn yn peri pryder mawr. I rai, gallai olygu eu bod yn cael anawsterau iechyd meddwl am flynyddoedd lawer, gan effeithio ar eu bywydau ymhell i'r dyfodol.

Mae angen i ni wneud y canlynol:

  • Mynd i'r afael â tabŵs yn ymwneud ag iechyd meddwl yn gyffredinol, a materion iechyd meddwl amenedigol yn benodol, drwy ymgyrchoedd eang i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd.

  • Sicrhau bod yr uned Mam a'i Baban newydd yng Nghaer yn parhau ar agor i gleifion o Ogledd Cymru, a bod darpariaeth Gymraeg yn parhau i fod ar gael.

  • Gofyn i'r GIG yng Nghymru fynd ati'n barhaus i werthuso nifer y menywod sydd angen mynediad at gymorth iechyd meddwl amenedigol a'i fod yn barod i fuddsoddi mewn mwy o gymorth cymunedol ac arbenigol.

  • Parhau i gyflwyno'r achos dros fynediad mwy helaeth a haws at unedau mam a'i baban yng Nghymru, fel eu bod yn gallu cael y lefel hon o ofal heb orfod teithio am oriau, ymhell oddi wrth eu teuluoedd ar adeg pan fo'u hangen fwyaf arnynt.

  • Sicrhau bod parhad yn y gofal, rhwng gwasanaethau arbenigol a chymunedol, fel nad yw menywod yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso pan fyddan nhw'n gadael uned mam a'i baban ond eu bod yn gallu disgwyl cael cymorth lleol am gymaint o amser ag sydd angen.

  • Ailedrych ar y dyddiadau terfynol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, fel bod y cyfnod pontio i wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn llawer hirach ac yn fwy graddol i'r rhai sy'n parhau i fod angen y cymorth hwnnw.

Ein hyrwyddwr Nia F

 

"Cefais ddiagnosis o Seicosis ar ôl Geni, sy'n gallu digwydd cyn y geni neu wedyn ac sy'n gymhlethdod iechyd meddwl difrifol yn gysylltiedig â beichiogrwydd.

Cefais fy nerbyn i uned Mam a'i Baban ym Manceinion ac roeddwn i'n teimlo bod angen y gwasanaeth hanfodol hwn ar gyfer Gogledd Cymru.

Mae FTWW wedi fy nghefnogi i a'r ddeiseb a wnes i'r Senedd i gael uned Mam a'i Baban yng Ngogledd Cymru a gwasanaeth yn y Gymraeg."

Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?

Rydym ni wedi cynnal gweithgareddau ymgyrchu helaeth i wella bywydau pobl sy'n profi materion iechyd meddwl amenedigol. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:

 Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian

  • Mae stori a phrofiadau Nia wedi cael eu rhannu sawl gwaith yn y cyfryngau ac wedi cael eu trafod yn y Senedd.

  • Yn fwyaf diweddar, cyfrannodd Nia at stori gan BBC Cymru am y ganolfan newydd yma (saesneg yn unig)

Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd

  • Roedd y ddeiseb i'r Senedd gan Nia wedi cael bron i 8000 o lofnodion, a chafodd gyhoeddusrwydd eang a chefnogaeth gan FTWW

  • Buom yn gweithio gyda Nia, a Gwasanaethau Mamolaeth Betsi Cadwaladr a'r tîm Iechyd Meddwl ar gynigion ar gyfer yr Uned Mam a'i Baban yng Nghaer, gan gynnwys gwneud yn siŵr fod anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith yn cael eu diwallu, a bod parhad yn y gofal rhwng y ganolfan arbenigol newydd a chymorth cymunedol.

  • Daethom â'r grŵp ffocws at ei gilydd i edrych ar argraffiadau artist o'r uned Mam a'i Baban newydd ar gyfer Gogledd Cymru ac i wneud argymhellion ynglŷn â sut y gellid ei dylunio i ddiwallu anghenion menywod ag anghenion ac amhariadau amrywiol.

  • Fe wnaethom yn siŵr fod iechyd meddwl amenedigol yn cael ei drafod mewn grŵp ffocws gyda thîm Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Ngogledd Cymru fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ei Strategaeth hirdymor ar gyfer y cyfnod Cyn-beichiogi.

Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr

  • Rydym ni wedi gweithio gyda Phrif Swyddog Bydwreigiaeth Llywodraeth Cymru a'r Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Mamolaeth ar eu Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol, a fydd yn cefnogi byrddau iechyd i wreiddio lleisiau menywod wrth ddatblygu a gwerthuso gofal mamolaeth ledled Cymru. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr fod iechyd meddwl amenedigol a gofal sy'n ystyriol o drawma yn cael eu hystyried.
  • Fe wnaethom ni gynnwys tystiolaeth am iechyd meddwl amenedigol yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru.

Newyddion a blogiau cysylltiedig

Eich Cyfle i Ddysgu Mwy am y Menopos yn y Gweithle!

Eich Cyfle i Ddysgu Mwy am y Menopos yn y Gweithle!

[:en] We are delighted that FTWW Menopause Champions, Lisa and Lara, will be participating at Policy Insight Wales Menopause in the Workplace Wales Conference on April 24th at the Cardiff Marriott. They will be discussing topics like the importance of workplace...

Cynnal Cynhadledd Menopos Cymru Gyfan yn Wrecsam!

Cynnal Cynhadledd Menopos Cymru Gyfan yn Wrecsam!

And we were delighted to be asked to organise patient speakers for the event. Our thanks go to Laura, Becci, and Carla (pictured, above), FTWW volunteers who each gave hugely powerful and knowledgeable talks on the symptoms of Premenstrual Dysphoric Disorder (PMDD)...

Menopause Mandate: Dawn attends House of Lords event

Menopause Mandate: Dawn attends House of Lords event

Dawn Owen (just off centre right, holding a FTWW leaflet), one of FTWW’s fantastic volunteers and Menopause Champions, was this month invited to the House of Lords for the launch of the All-Party Parliamentary Group’s launch of a UK Menopause Manifesto. The Manifesto...

Storïau am iechyd meddwl mamau

Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall

Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.

Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.

cyCymraeg