
Rydyn ni wedi bod yn darparu mwy o hyfforddiant ar Urddas Mislif, gan ymdrin â phynciau fel iechyd a llesiant mislifol, tlodi mislif, y menopos, a’r effaith ar addysg a chyflogaeth. Roedden ni hefyd yn falch iawn o gyflwyno sesiwn 'Dysgu dros Ginio' â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar draws pob maes polisi i rannu canfyddiadau’r Astudiaeth 'SPPINN (Dydy Poen Mislif Difrifol Ddim yn Normal)' a gwblhawyd yn ddiweddar.
Hyfforddi
Mae Isabel, ein rheolwr elusen, a Debbie, ein sylfaenydd, wedi bod yn darparu hyfforddiant ledled y Gogledd ar Urddas Mislif. Mae’r sesiynau hyfforddi wedi ymdrin â phynciau iechyd a llesiant mislifol, gan roi trosolwg o amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys y menopos, endometriosis, ac anhwylder dysfforig cyn y mislif (PMDD). Mae’r hyfforddiant hefyd yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â thlodi mislif, addysg, a chyflogaeth. Mae'r sesiynau'n cynnwys cyfle i archwilio amrywiaeth o nwyddau mislif a'u defnydd, ystyried sefyllfaoedd yn y byd go iawn, a'r gemau rhyngweithiol, 'Play Your Pads Right', 'Sticker the Issue' a 'Quiz with Is!'.
Cawsom yr adborth yma gan rai oedd yn bresennol:
“[Y rhan fwyaf defnyddiol o’r sesiwn oedd cael] mwy o ymwybyddiaeth o urddas mislif ochr yn ochr â thlodi mislif a bod yn ymwybodol o sut i gefnogi fy nhîm ochr yn ochr ag unigolion a gefnogir”
"Gweithgareddau gwych wedi’u cyflwyno’n arbennig gan bobl llawn angerdd."
"Roedd y sesiwn yn llawn gwybodaeth ac fe wnaeth wella fy ngwybodaeth am y mislif a llesiant mislifol"
Dysgu dros Ginio

Roedd FTWW, ynghyd â Phrifysgol Caerdydd, hefyd yn falch iawn o gael gwahoddiad gan Dîm Urddas Mislif Llywodraeth Cymru i gyflwyno sesiwn 'Dysgu dros Ginio' â chydweithwyr ar draws pob maes polisi i rannu canfyddiadau'r Astudiaeth 'SPPINN (Dydy Poen Mislif Difrifol Ddim yn Normal)' a gwblhawyd yn ddiweddar.
Daeth amrywiaeth eang o dimau i ymuno â ni, ac roeddem yn falch o gael cyfle i drafod sut gall symptomau a chyflyrau iechyd mislifol effeithio ar wasanaethau iechyd, addysg, teulu, busnes, a’r economi - a sut bydd cydweithio ar draws sectorau yn hanfodol i sbarduno newid. Edrychwn ymlaen yn awr at gyflwyno gweithdy dilynol yn ddiweddarach eleni lle bydd argymhellion SPPINN yn cael eu hadolygu a lle gwneir penderfyniad ar y camau nesaf!