Fair Treatment for the Women of Wales | Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Ymgyrchu
Yn ogystal â galw am gydraddoldeb iechyd i fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, rydym ni hefyd, yn gyffredinol, yn canolbwyntio ar nifer gynyddol o faterion iechyd menywod, fel endometriosis, y menopos, PMDD a mwy...
Cydraddoldeb iechyd i fenywod
Cynghrair Iechyd Menywod Cymru
Mae FTWW yn gyd-gadeirydd Cynghrair #IechydMenywodCymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r flaenoriaeth i ofal iechyd menywod
Lleisiau Gynecoleg
Mae Lleisiau Gynecolegol yn sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn gwasanaethau ar gyfer materion gynecolegol yn cael cyfle i ymwneud yn aml a gwrando ar brofiadau cleifion.
Meysydd ac adnoddau penodol ar gyfer materion iechyd
Mae FTWW yn canolbwyntio ar amrywiaeth eang o faterion iechyd er mwyn sicrhau bod modd cael mynediad cyfartal at y gofal iechyd gorau i fenywod yng Nghymru. Darllenwch fwy am ein gwaith a chael gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer materion iechyd penodol.
Menopos
Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!
Endometriosis
Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Awtoimiwnaidd
Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.
Pam mae angen i ni ganolbwyntio ar gydraddoldeb iechyd i fenywod?
1.
Oherwydd mae ‘iechyd menywod’ yn cael ei normaleiddio, ei ddiystyru, neu ei orchuddio â chywilydd a thabŵ – yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â gynecoleg – sy'n golygu bod menywod yn aml yn oedi cyn chwilio am gymorth, ac yn aml nid yw lleoliadau addysg a'r gweithle yn darparu ar gyfer materion iechyd menywod.
2.
Oherwydd mae bwlch iechyd rhwng y rhywiau a'r rhyweddau; nid oedd pobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn cael eu cynnwys fel mater o drefn mewn treialon meddygon tan yr 1990au, sy'n golygu bod llawer o lwybrau meddygol wedi cael eu profi ar ddynion yn unig ac nid ydynt yn rhoi ystyriaeth i'r amrywiadau yng nghyrff menywod.
3.
Oherwydd yn hanesyddol mae 'iechyd menywod' heb gael arian ac ymchwil digonol. Y canlyniad yw bod materion iechyd sy'n effeithio'n unig neu'n bennaf arnom ni yn aml yn wynebu diffyg ymchwil, data a buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd a thriniaethau priodol. Gall hyn achosi i'n hiechyd ddirywio fwy.
4.
Oherwydd mae cyflyrau sy'n effeithio ar y ddau ryw yn cael eu trin – a'u diagnosio – ar sail y model gwrywaidd. Mae hyn yn golygu bod gwahanol symptomau y gallai'r symptomau sydd gan fenywod gael eu hanwybyddu neu eu diystyru (e.e. clefyd y galon / trawiad ar y galon – sy'n lladd MWY o fenywod na dynion bob blwyddyn, neu awtistiaeth).
5.
Oherwydd mae camwahaniaethu a chasineb at fenywod yn bodoli; er enghraifft o ran poen a mynd i'r ysbyty mewn argyfwng oherwydd poen, mae menywod yn aros mwy o amser na dynion am ddulliau lleddfu poen, ac maen nhw'n fwy tebygol o gael tawelyddion yn eu lle. Mae hyn yn awgrymu bod poen menywod yn tueddu i gael ei hystyried, yn bennaf, fel rhywbeth sy'n gysylltiedig fwy â straen a phryder na phoen gwirioneddol. Ac er bod straen a phryder yn faterion gwirioneddol sy'n gallu effeithio ar unrhyw un, poen menywod a merched sy'n aml yn tueddu i gael ei briodoli i reswm seicolegol, gyda menywod yn fwy tebygol o gael eu stereoteipio fel 'gwan', 'melodramatig', neu'n dychmygu eu symptomau.