Cymryd rhan
Ydych chi'n rhannu ein cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd i fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yng Nghymru?
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybod sut gallwch chi gefnogi ein cenhadaeth
Ffyrdd o gefnogi ein cenhadaeth
Gwirfoddoli
Mae ein gwirfoddolwyr yn ganolog ymhob peth a wnawn. Gallwch chi ein cefnogi ni drwy godi ymwybyddiaeth, codi arian a rhannu eich stori, a chymryd rhan mewn grwpiau ffocws, arolygon ac ymchwil
Gweithio gyda ni
Ydych chi'n rhan o sefydliad, busnes neu dîm ymchwil sydd â diddordeb mewn gwella mynediad at wasanaethau iechyd menywod yng Nghymru, a sut maen nhw'n cael eu dylunio? Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.
Cyllid a rhoddion
Does dim bwys faint y gallwch fforddio ei roi, mae pob rhodd yn cefnogi ein gwaith pwysig yn cael gwared ar anghydraddoldebau iechyd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau menywod yng Nghymru.
Ydych chi eisiau clywed safbwyntiau cleifion o'n cymuned?
Mae profiad bywyd yn ganolog i'n holl waith. Rydym ni'n darparu hyfforddiant, sgyrsiau, cyflwyniadau a grwpiau ffocws i addysgu busnesau a sefydliadau ar faterion iechyd menywod, ac rydym ni'n ei gwneud hi'n haws i'r cyhoedd a chleifion gymryd rhan a chyd-gynhyrchu.