Fair Treatment for the Women of Wales  |  Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Cyfleoedd gwaith

Ydych chi'n rhannu ein cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd i fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yng Nghymru?

Ar y dudalen hon, gallwch chi gael gwybodaeth am cyfleoedd gwaith yn FTWW

Cydlynydd Cyfathrebu

Mae hon yn swydd amser llawn 37.5 awr yr wythnos â chyflog o £30,000 ynghyd â £312 y flwyddyn o dâl gweithio gartref
Ariennir y swydd tan 30 Medi 2027 i ddechrau, ac mae posibilrwydd o estyniad
Mae’r swydd hon yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf llwyddiannus o 3 mis

Mae FTWW yn chwilio am Gydlynydd Cyfathrebu! Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ac yn tyfu platfform ar-lein y sefydliad, gan gynnwys rhannu gwybodaeth, adnoddau, a chyfeirio, o fewn cymuned rithwir FTWW sy’n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid i bobl ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt.

Mae hon yn swydd amser llawn (ystyrir 0.8 FTE ar gyfer yr ymgeisydd iawn), wedi’i lleoli gartref yng Nghymru, â theithio achlysurol i ddigwyddiadau a chyfarfodydd, felly byddai trwydded yrru a mynediad at gar yn fanteisiol. Rydym yn gweithio’n hyblyg, ond yr oriau gwaith craidd yw rhwng 10am a 4pm, a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ambell gyda’r nos a phenwythnos, yn ôl y galw.

Gwybodaeth bellach a sut i wneud cais yma: Communications Coordinator / Cydlynydd Cyfathrebu | FTWW (Fair Treatment for the Women of Wales) | CharityJob

Ein tîm

Ni fyddai FTWW yn bodoli heb ein tîm ymroddgar o staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr.

cyCymraeg