Ffrwythlondeb 

Mae problemau ffrwythlondeb yn effeithio ar tua 1 o bob 7 o gyplau, ac mae mwy na hanner yr achosion yn effeithio'n uniongyrchol ar fenywod.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am heriau ffrwythlondeb a'n gwaith i gynyddu ymwybyddiaeth a gofal iechyd ar gyfer y mater hwn.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol

Beth yw problemau ffrwythlondeb?

  • Bydd 9-15% o gyplau yng Nghymru yn cael problemau beichiogi.
  • Yn ôl GIG Cymru, nid yw anffrwythlondeb yn cael ei ddiagnosio nes bydd cwpwl wedi methu beichiogi ar ôl blwyddyn o geisio beichiogi.

Mae dau fath o anffrwythlondeb:

  • anffrwythlondeb sylfaenol – pan fo rhywun sydd erioed wedi beichiogi plentyn yn y gorffennol yn cael trafferth beichiogi
  • anffrwythlondeb eilaidd – pan fo rhywun sydd wedi cael un beichiogrwydd neu fwy yn y gorffennol ond yn cael trafferth beichiogi eto
    Treating infertility

Gall anffrwythlondeb mewn menywod gael ei achosi gan lawer o wahanol bethau. Gall hyn gynnwys problemau â'r system atgenhedlu, cyflyrau meddygol fel endometriosis, PCOS neu Glefyd Llidus y Pelfis, neu feddyginiaethau y mae rhywun yn ei gymryd. Er enghraifft, bydd tua 30 – 50% o fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni sy'n byw ag endometriosis yn profi materion gyda ffrwythlondeb. Weithiau, ni fydd y rheswm dros y materion ffrwythlondeb yn cael ei ganfod.

Mae triniaethau meddygol ar gael, yn dibynnu ar yr hyn sy'n achosi'r anffrwythlondeb. Gallai hyn gynnwys meddyginiaeth i wneud i'r ofylu ddigwydd yn fwy rheolaidd, llawdriniaeth i drwsio niwed neu broblemau gyda'r organau atgenhedlu a thriniaeth i helpu i feichiogi, fel ffrwythloniad in-vitro (IVF).

Mae rhagor o wybodaeth am anffrwythlondeb a thriniaethau ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).

Beth rydym ni'n galw amdano?

Ein nod cyffredinol yw tynnu sylw at sut mae cyflyrau gynecolegol yn gallu effeithio ar ffrwythlondeb a sicrhau bod pryderon cleifion yn cael eu cymryd o ddifri, eu bod yn cael eu cefnogi, a'u bod yn gallu cael gafael ar ofal cyd-gysylltiedig.

Mae llawer o fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn disgrifio cyflyrau iechyd hirdymor y mae triniaeth wael neu oedi cyn cael triniaeth wedi arwain at broblemau ffrwythlondeb. 

Mae llawer o gyflyrau nad ydynt yn ganser ac sy'n effeithio ar fenywod, fel endometriosis a PCOS, yn gysylltiedig â stereoteipiau rhyweddol sy'n golygu bod y rhai sy'n byw â'r cyflyrau hyn yn dweud nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifri. Gallant brofi oedi hir cyn cael diagnosis oherwydd nad yw effaith y symptomau'n cael eu cydnabod yn eang. Gall un o'r effeithiau hyn fod ar ffrwythlondeb. 

Hefyd, gall rhai cleifion gael cynnig triniaethiau meddygol neu lawfeddygol sy'n golygu nad ydyn nhw'n gallu beichiogi mwyach. Mae nifer fawr yn dweud nad ydynt yn teimlo eu bod cael digon o gwnsela neu gymorth ar gyfer y posibilrwydd o anffrwythlondeb. Maen nhw'n dweud bod anffrwythlondeb yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, gyda rhai ohonynt yn dweud bod perthynas wedi chwalu o ganlyniad i hyn.

Yng Nghymru, rhaid aros yn hir am atgyfeiriadau i wasanaethau gynecoleg, sydd weithiau'n lleihau siawns cleifion o feichiogi'n naturiol. 

  • Mae oedi cyn diagnosio a thrin cyflyrau sy'n bodoli eisoes yn gallu golygu bod rhai cleifion yng Nghymru yn nesáu at yr oedran terfynol ar gyfer gwasanaethau ffrwythlondeb ar y GIG.
  • Mae canllawiau NICE ar ffrwythlondeb yn argymell tri chylch llawn o IVF i'r rhai sy'n gymwys o dan 40 oed, ac un cylch i rai 40-42. Nid yw'r canllawiau hyn yn cael eu dilyn bob amser yng Nghymru, sy'n arwain at annhegwch rhwng cleifion yng Nghymru a chleifion mewn rhannau eraill o'r DU.
  • Nid yw llawer o fenywod yn bodloni meini prawf GIG Cymru ar gyfer triniaeth ffrwythlondeb oherwydd eu BMI (mynegai màs y corff neu'r gymhareb rhwng pwysau a thaldra) – ond nid yw hyn bob amser yn ystyried sut mae cyflyrau iechyd cronig yn gallu golygu ei bod yn anoddach colli pwysau.
  • Mae llawer o gleifion yn dweud wrth FTWW y byddent yn hoffi colli pwysau i'w helpu ar eu taith ffrwythlondeb ond nid ydynt bob amser wedi gallu cael cymorth gan eu gwasanaethau iechyd lleol i wneud hyn, er bod Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru yng Nghaerdydd yn cynnig cwrs colli pwysau wedi'i deilwra ar gyfer cleifion ffrwythlondeb.

Mae angen i ni wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod diagnosis cynharach ar gyfer cyflyrau gynecolegol a chyflyrau iechyd eraill sy'n effeithio ar ffrwythlondeb.
    Yn ddelfrydol, dylai cleifion gael gwybod beth sy'n achosi eu problemau ffrwythlondeb a thrin hynny cyn gynted â phosibl oherwydd, i rai ohonynt, byddai hyn yn gwella'r siawns o feichiogi, naill ai'n naturiol neu o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb.

  • Sicrhau bod gofal cyd-gysylltiedig di-dor ar gael ar gyfer y rhai a allai fod yn profi anffrwythlondeb o ganlyniad i gyflyrau sydd ganddynt eisoes, gan gynnwys galluogi mynediad fel arfer at wasanaethau ychwanegol yn nes at adref, fel cymorth i reoli pwysau ac ar gyfer iechyd meddwl, fel rhan o becyn cyfannol o ofal.

  • Sicrhau bod pob claf yn gallu ac yn cael eu grymuso i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth am driniaeth ar gyfer eu materion iechyd.
    Mae hyn yn galluogi cleifion i ddweud a yw ffrwythlondeb yn flaenoriaeth iddyn nhw ai peidio, ac i gael eu dewisiadau i gael eu parchu a'u cefnogi.

  • Sicrhau bod canllawiau ar sail tystiolaeth yn cael eu dilyn yng Nghymru, gan fynd i'r afael â loteri cod post ar gyfer y gofal gorau a mathau eraill o annhegwch.

Ein hyrwyddwr Emma Williams-Tully

 

"Rwy'n ymgyrchu dros y mater hwn am fy mod wedi cael endometriosis difrifol, ac adenomyosis o'r blaen, pan oedd fy ffrwythlondeb wedi'i beryglu'n ddifrifol hyd at y posibilrwydd o fethu â chae plant. Bues i'n ffodus iawn ein bod wedi gallu cael ei merch, ond mae cynifer o bobl yn methu. Mae angen tynnu sylw at gymhlethdod cyflyrau gynecolegol nad ydynt yn ganser, ac mae angen gwella'r gofal, gan gynnwys pan mae'n effeithio ar ffrwythlondeb.

Ar ran FTWW, fe wnes i fynychu digwyddiad ugain mlwyddiant y Fertility Network UK yn Llundain yn ddiweddar, lle cwrddais i â phobl anhygoel sydd wedi rhannu eu storïau ysbrydoledig. Ni ddylai brwydro â'ch ffrwythlondeb fod yn tabŵ. Ni ddylai neb deimlo eu bod ar eu pen eu hunain."

Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?

Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i wella bywydau pobl sy'n cael trafferth â materion ffrwythlondeb. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:

Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
  • Rydym ni'n cefnogi ein haelodau a'n gwirfoddolwyr i sicrhau bod eu storïau'n cael eu clywed am bynciau sy'n gysylltiedig â thrafferthion ffrwythlondeb. Mae rhai enghreifftiau o storïau gan ein cymuned yn y cyfryngau ar gael ar wefan y BBC yma ac yma.
  • Rydym ni wedi cyd-gynhyrchu gweminar gyda Fertility Network UK Cymru am ddewis cleifion mewn mannau ffrwythlondeb a gofal iechyd cysylltiedig, a sut i fynegi pryderon os nad ydych chi'n fodlon â'r gofal a gynigir. yma (saesneg yn unig).
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
  • Rydym ni'n helpu i hwyluso cyfarfodydd Lleisiau Gynecoleg Gogledd Cymru gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), sy'n cynnwys cefnogi gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau a chynlluniau am lwybrau Ffrwythlondeb
  • Rydym ni wedi gweithio gyda BIPBC ar ei strategaeth arloesol ar gyfer y cyfnod Cyn Beichiogi, sy'n cynnwys cyfeiriadau at effaith cyflyrau iechyd cronig a'r angen am wybodaeth a chefnogaeth
  • Rydym ni'n cydweithio â mudiadau'r trydydd sector fel Fertility Network UK i godi ymwybyddiaeth o brofiadau pobl, annhegwch mewn gofal, a'r arferion gorau.
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
  • Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ei fframwaith ymgysylltu amenedigol, sy'n cynnwys cyfleoedd i fenywod a defnyddwyr gwasanaethau rannu eu profiadau a dweud eu dweud ar ddatblygiad gwasanaethau
  • Rydym ni'n cwrdd yn rheolaidd â Thîm Polisi Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Strategol Clinigol GIG Cymru ar gyfer Iechyd Menywod i godi ymwybyddiaeth am faterion yn ymwneud â chyflyrau cronig a ffrwythlondeb
  • Rydym ni wedi cynnwys tystiolaeth am ffrwythlondeb yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru
  • Rydym ni wedi sicrhau bod rheoli ffrwythlondeb yn cael sylw yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched gan Lywodraeth Cymru cyn cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru.

    Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall

    Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.

    Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.

    cyCymraeg