Adenomyosis
Mae adenomyosis yn effeithio ar o leiaf 1 ymhob 10 o fenywod a phobl ag wterws – sef o leiaf 158,660 o gleifion yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, does dim llawer o bobl wedi clywed amdano – hyd yn oed y rhai sy'n byw â'r cyflwr.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am adenomyosis a'n gwaith i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cyflwr iechyd hwn.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw adenomyosis?
- Mae adenomyosis yn digwydd pan fo leinin yr wterws (y groth) yn dechrau tyfu i mewn i gyhyr mur y groth. Gall hyn effeithio ar y groth i gyd neu ar un rhan ohoni.
- Mae'n cael ei ddiagnosio'n amlach mewn menywod dros 30 oed, ond gall effeithio ar unrhyw un sydd ag wterws.
- Gall y symptomau gynnwys mislif trwm a phoenus iawn, teimlad chwyddedig a theimlo'n drwm a llawn yn y bol, poen yn y cefn, poen yn rhan uchaf y coesau, blinder a rhyw poenus. Mae symptomau fel y rhain yn gallu cael effaith fawr ar fywyd bob dydd, a dylech chi ofyn am gyngor a chymorth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi'n eu cael.
Mae adenomyosis i'w weld yn aml ochr yn ochr ag Endometriosis a ffibroidau, a gallant rannu symptomau tebyg. Fel cyflyrau gynecolegol eraill, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod adenomyosis arnynt eu maent yn cael diagnosis anghywir weithiau, ac mae oedi o hyd cyn cael diagnosis.
Mae rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaethau ar gyfer Adenomyosis i'w gweld ar wefan GIG Cymru yma.
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw codi ymwybyddiaeth am y cyflwr hwn, sy'n gyffredin ond nad yw'n cael ei ddeall lawer
Mae adenomyosis yn effeithio ar o leiaf 1 ymhob 10 o fenywod a phobl ag wterws – sef o leiaf 158,660 o gleifion yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, does dim llawer o bobl wedi clywed amdano – hyd yn oed y rhai sy'n byw â'r cyflwr.
Yn hanesyddol hefyd mae prinder hyfforddiant a chysylltiad â'r cyflwr ymysg meddygon – a hyd yn oed y rhai sy'n hyfforddi i fod yn gynaecolegwyr. Ynghyd â phrinder ymchwil a data am faterion iechyd sy'n effeithio'n bennaf neu'n unig ar fenywod, gan gyfrannu at brinder gwybodaeth ddibynadwy.
Drwy godi ymwybyddiaeth am adenomyosis, gallwn ni helpu i hybu gwelliannau o ran diagnosis a thriniaeth ar gyfer y cyflwr yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae pobl ag adenomyosis yn aml yn profi oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth
Yn gyntaf, mae prinder ymwybyddiaeth o adenomyosis yn golygu bod pobl yn cymryd mwy o amser i chwilio am gymorth, a hynny am nifer o resymau:
- Yn aml, mae symptomau cyflyrau gynecolegol yn rhai sy'n anodd eu trafod, sy'n cael eu hystyried yn normal ac yn 'rhan o fod yn fenyw'.
- Dydy addysg am lesiant mislifol ddim bob amser yn dweud beth sy'n cael ei ystyried yn normal a beth ddylai fod yn destun archwiliad.
Wrth chwilio am gymorth, bydd llawer o'r rhai sy'n byw ag adenomyosis yn wynebu rhwystrau mawr:
- Efallai y bydd eu symptomau'n cael eu normaleiddio neu eu diystyru gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd heb gael hyfforddiant ar adenomyosis, neu'n cael eu priodoli i gyflyrau eraill fel endometriosis, sydd hefyd yn wynebu oedi hir cyn diagnosis.
- Bydd y rhai sy'n cael archwiliad am endometriosis neu faterion gynecolegol eraill yn aml yn cael neges nad oes 'dim wedi'i ganfod' yn ystod profion a llawdriniaethau diagnostig, ac yna byddan nhw'n cael eu rhyddhau – ar yr un pryd â byw â symptomau gwanhaol adenomyosis.
- Er bod sganiau'n gallu canfod adenomyosis weithiau, yr unig ffordd o ddiagnosio'r clefyd yn iawn yw drwy gynnal profiad ar yr wterws ar ôl hysterectomi. Dyma'r unig iachâd pendant ar gyfer y cyflwr.
- Mae triniaethau'n gyfyngedig i ddulliau atal cenhedlu hormonaidd, y coil, poenladdwyr fel cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAIDs) fel ibwproffen. Mae rhai cleifion yn cael cynnig abladiad endometraidd (pan fo leinin y groth yn cael ei ddinistrio), ond mae'n bosibl y bydd y rhai sydd ag adenomyosis ymdreiddiol dwfn yn gweld bod hyn yn gwaethygu'r symptomau.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- sicrhau bod gwybodaeth am adenomyosis ar gael yng Nghymru, gan gynnwys gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a bod modd i'r rhai sydd ei hangen gael gafael ar yr wybodaeth honno
- mynd i'r afael â'r tabŵ, y cywilydd a'r stigma sy'n gysylltiedig â chlefydau sy'n cynnwys mislifoedd poenus, sy'n gallu bod yn rhwystr rhag cael cymorth, cefnogaeth a gofal iechyd pan fo eu hangen
- annog buddsoddiad mewn hyfforddiant ac ymchwil ar bynciau fel adenomyosis gan y rhai sydd mewn sefyllfa i greu gwelliannau yn ein systemau iechyd.
Ein hyrwyddwr Donna B

"Fel llawer o aelodau eraill FTWW, rydw i wedi cael symptomau yn gysylltiedig â fy mislif ac a gafodd eu normaleiddio a'u diystyru am gymaint o amser fel fod gen i fwy o broblemau iechyd erbyn hyn.
Ymhen hir a hwyr, mi ges i ddiagnosis o endometriosis ond roedd fy symptomau'n dal yno ar ôl y llawdriniaeth, gan arwain at hysterectomi. Yn ffodus iawn roeddwn i wedi cael fy mab cyn mynd drwy'r dewis olaf hwn.
I was very lucky to be able to have my son before going through with this final option. So many others are unable to have children or have to go private to access the healthcare they need. In the home of the NHS, no one should be forced to do this.
Due to my health issues I had to leave employment and finding my way back into work is incredibly hard – largely because many employers don’t understand the impact ‘women’s health’ conditions can have.”
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Rydym ni wedi ymgyrchu dros sicrhau bod gwybodaeth am Adenomyosis ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru
- Fe wnaethom ni gynnal deiseb lwyddiannus i Senedd Cymru i 'Gyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu Adenomyosis at ei dudalennau 'A-Z o gyflyrau'
- Cafwyd sylw i hyn gan https://www.itv.com/news/wales/2024-04-22/the-health-condition-affecting-one-in-10-women-that-isnt-on-nhs-wales-website
- Gofynnodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, i staff roi hyn mewn grym cyn gynted ag y daeth i'w sylw
- Cawsom ni gefnogaeth gan Sioned Williams AS, a gododd gwestiwn yn y Senedd am yr ymgyrch, ac ysgrifennu ar y mater yn y Western Mail.
- Fe wnaethom ni sicrhau bod gwybodaeth am adenomyosis yn cael ei gynnwys ar wefan endometriosis.cymru i gydnabod y ffaith fod y ddau gyflwr yn ymddangos gyda'i gilydd yn aml mewn cleifion.
- Rydym ni wedi creu taflen ddwyieithog i godi ymwybyddiaeth am ein hygyrch ar gyfer adenomyosis.
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Rydym ni'n gweithio gyda'r Rhwydwaith Gweithredu Gynecoleg clinigol cenedlaethol yng Nghymru i wella gofal i gleifion â chyflyrau gynaecolegol nad ydynt yn ganser, fel endometriosis.
- Fe wnaethom ni gynnwys pennod ar adenomyosis yn adroddiad y Cynghrair Iechyd Menywod i Lywodraeth Cymru, gan sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys yng Nghynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru.
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn
As part of BBC Radio Wales’ coverage of the petition to UK Parliament calling for statutory menstrual leave for people with endometriosis and adenomyosis, FTWW Engagement Coordinator, Dee, spoke to BBC Radio Wales about the importance of ensuring that disabled and chronically ill women and people registered female at birth – and their employers – are aware of existing legislation that can protect their employment rights and help them thrive in the workplace.
Every Woman Festival Recap!
We'd like to say a HUGE thank you to Julie Cornish and The Every Woman Festival team for such a fantastic event in Cardiff on Saturday! It was empowering, emotive and informative; seeing so many people coming together to discuss female health, share information and...
Adenomyosis Awareness Month: Behind the Health Statistic
FTWW Volunteer, Lara, hosts the Women's Health Series of Cardiff University's 'Behind the Health Statistic', and the second episode focuses on Adenomyosis - timely as April is Adenomyosis Awareness Month! Our Engagement Officer, Dee, shares her experiences of the...
Storïau am adenomyosis
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Taflen ddwyieithog FTWW ar Adenomyosis
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen
Cyflwyno'r Achos dros Driniaeth Well ar gyfer Endometriosis yng Nghymru
Adroddiad gan FTWW
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru


