Polisi Preifatrwydd

Rydym ni'n parchu eich preifatrwydd pan fyddwn ni'n delio á gwybodaeth bersonol sy'n cael ei chasglu gan ein sefydliad

Mae'r Polisi Preifatrwydd yn berthnasol i wybodaeth yr ydym ni (Triniaeth Deg i Fenywod Cymru - FTWW) yn ei chasglu am unigolion sy'n ymwneud â'r sefydliad. Mae'n esbonio pa wybodaeth bersonol sy'n cael ei chasglu gennym a sut rydym ni'n ei defnyddio. 

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau am yr hysbysiad hwn, mae croeso i chi gysylltu á ni yn info@ftww.org.uk.

1. Y data personol sy'n cael brosesu gennym

Mae'r tabl isod yn esbonio'r mathau o ddata sy'n cael ei gasglu gennym a beth yw'r sail cyfreithiol, o dan y ddeddfwriaeth diogelu data bresennol, ar gyfer prosesu'r data hwnnw. 

PwrpasData (elfennau allweddol)Sail
Holi am ein sefydliad a'i waithEnw, e-bost, negesBuddiannau cyfreithlon – mae'n rhaid i ni ddarllen a storio eich neges er mwyn i ni allu ymateb yn ffordd y byddech yn ei disgwyl.
Tanysgrifio i gael gwybodaeth ar e-bost am ein gwaithEnw, e-bostCydsyniad – rydych chi wedi rhoi eich cydsyniad gweithredol i dderbyn negeseuon e-bost a gwybodaeth am ein gwaith, gan gynnwys newyddion a cheisiadau codi arian. 
Gwneud rhodd ariannolEnw, e- bost, cyfeiriad, gwybodaeth ar gyfer taliadauBuddiannau cyfreithlon – mae angen yr wybodaeht hon er mwyn i ni gwblhau eich bwriad i roi arian a'ch disgwyliad i dderbyn neges yn cadarnhau hynny.
Cofrestru fel gwirfoddolwrEnw, e-bostCydsyniad – rydych chi wedi rhoi eich cydsyniad gweithredol.
Gweithredu'r wefanGweithgarwch ar y wefan a gesglir drwy gwcis

Buddiannau cyfreithlon

– mae angen i ni storio ychydig o wybodaeth, fel arfer drwy gwcis, i wneud iddi weithredu fel y byddech yn ei ddisgwyl.

 

2. Sut rydym ni'n defnyddio eich data

Byddwn ni'n defnyddio eich data mewn ffordd sy'n briodol o ystyried y sail y cafodd y data ei gasglu ar ei gyfer yn unig, fel y nodir yn y tabl ar frig y polisi hwn. 

Er enghraifft, efallai y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:

  • ateb ymholiadau y byddwch yn eu hanfon atom;
  • delio â rhoddion neu drafodion eraill y byddwch yn eu cychwyn; 
  • pan fyddwch chi wedi cytuno'n benodol i hyn, anfon gohebiaeth marchnata atoch dros e-bost am ein gwaith ac allai fod o ddiddordeb i chi, yn ein barn ni, gan gynnwys newyddion a cheisiadau codi arian.

3. Pryd byddwn ni'n rhannu eich data

Byddwn ni'n trosglwyddo eich data i drydydd partïon yn yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • rydych chi wedi rhoi eich cydsyniad penodol i ni drosglwyddo data i drydydd parti a enwir; 
  • rydym ni'n defnyddio trydydd parti dim ond ar gyfer prosesu data ar ein rhan ac mae gennym gytundeb prosesu data gyda'r trydydd parti sy'n cyflawni ein hymrwymiadau cyfreithiol o ran defnyddio proseswyr data trydydd parti; neu
  • mae'n rhaid i ni rannu eich data o dan y gyfraith. 

Hefyd, byddwn ni'n trosglwyddo data i drydydd partïon y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd dim ond pan fo mesurau diogelu priodol yn bodoli fel y diffinnir gan Erthygl 6 y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Cynnwys wedi'i fewnosod:

Gallai erthyglau ar y wefan hon fod â chynnwys wedi'i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau ac ati). Mae cynnwys wedi'i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn union yr un fath â phetai'r ymwelydd wedi ymweld â'r wefan arall.

Gallai'r gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, mewnosod dulliau olrhain ychwanegol gan drydydd partïon, a monitro sut rydych chi'n rhyngweithio â'r cynnwys hwnnw os oes gennych chi gyfrif a'ch bod wedi mewngofnodi i'r wefan honno.

4. Am faint o amser y byddwn ni'n cadw eich data

Rydym ni'n cymryd egwyddorion lleihau a symud data o ddifri ac mae gennym ni bolisïau mewnol ar gyfer sicrhau y byddwn ni'n gofyn am y lefel isaf o ddata at y diben cysylltiedig yn unig ac y byddwn ni'n dileu'r data hwnnw yn brydlon pan na fydd ei angen mwyach. 

Pan fydd data'n cael ei gasglu ar sail cydsyniad, byddwn ni'n gofyn am adnewyddu cydsyniad bob tair blynedd o leiaf. 

5. Hawliau sydd gennych chi dros eich data

Mae gennych chi amrywiaeth o hawliau dros eich data, gan gynnwys y canlynol:

  • Pan fydd prosesu data yn seiliedig ar gydsyniad, gallech ddiddymu'r cydsyniad hwn unrhyw bryd a byddwn ni'n ei gwneud hi mor hawdd á phosibl i chi wneud hyn (er enghraifft drwy roi dolenni 'datdanysgrifio' ar waelod ein holl negeseuon e-bost marchnata). 
  • Mae gennych chi hawl i ofyn am gael cywiro a/neu ddileu eich gwybodaeth. 
  • Mae gennych chi hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth. 
  • Mae gennych chi hawl i gyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n teimlo bod eich hawliau wedi cael eu torri. 

Mae crynodeb llawn o'r hawliau cyfreithiol am eich data i'w weld ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth yn y fan yma: https://ico.org.uk/

Os ydych chi eisiau cael mynediad at yr hawliau sydd yn y rhestr uchod neu hawliau cyfreithiol eraill sydd gennych dros eich data o dan y ddeddfwriaeth gyfredol, cysylltwch á ni. 

Sylwch y bydd dibynnu ar rai o'r hawliau hyn, megis yr hawl i ddileu eich data, yn ei gwneud hi'n amhosibl i ni barhau i ddarparu rhai gwasanaethau i chi. Fodd bynnag, pan fo modd byddwn ni'n wastad yn ceisio caniatáu'r mynediad mwyaf at eich hawliau ar yr un pryd á darparu cynifer o wasanaethau â phosibl i chi. 

6. Cwcis ac olrhain defnydd

Cwci yw ffeil fach o lythrennau a rhifau sy'n cael ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur pa fyddwch chi'n ymweld á gwefan. Caiff cwcis eu defnyddio gan lawer o wefannau a gall wneud llawer o bethau, e.e. cofio eich dewisiadau, cofnodi beth rydych chi wedi'u rhoi yn eich basged siopa, a chyfrif faint o bobl sy'n edrych ar wefan.

Pan fo cwcis yn cael eu defnyddio i gasglu data personol, rydym ni'n rhestru'r pwrpasau hyn yn adran 1 uchod, ynghyd â data personol arall a gesglir gennym. Serch hynny, rydym ni hefyd yn defnyddio cwcis sydd ddim yn casglu gwybodaeth bersonol ond sydd yn ein helpu ni i gasglu gwybodaeth ddienw ynglŷn â sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan. Rydym ni'n defnyddio Google Analytics ar gyfer hyn. Mae Google Analytics yn cynhyrchu gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth arall am y defnydd o'r wefan drwy ddefnyddio cwcis, sy'n cael eu storio ar gyfrifiaduron defnyddwyr. Nid oes modd adnabod neb o'r wybodaeth a gesglir gan Google Analytics. Caiff y data ei gasglu'n ddienw, ei storio gan Google a'i ddefnyddio gennym ni i lunio adroddiadau am y defnydd o'r wefan. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael yn http://www.google.com/privacypolicy.html.

7. Addasiadau

Gallwn addasu'r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd a byddwn ni'n cyhoeddi'r fersiwn fwyaf cyfredol ar ein gwefan. Os bydd addasiad yn lleihau eich hawliau'n fawr, byddwn ni'n hysbysu pobl y mae eu data personol gennym ac y mae hyn yn effeithio arnynt.

Please note: this site is protected by reCAPTCHA and the Google Polisi Preifatrwydd a Terms of Service apply.

cyCymraeg