Mae adroddiad newydd wedi canfod bod gofal menopos yn dal i fethu bodloni anghenion rhai o'r bobl sydd fwyaf ar gyrion cymdeithas. Fe wnaeth y Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) ar y menopos gasglu tystiolaeth hollbwysig a oedd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n wynebu menywod a phobl o gymunedau sydd ar y cyrion - a'r hyn sydd angen ei newid er mwyn i bawb allu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnynt.
Fe wnaeth y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar y menopos wahodd menywod a phobl o'r cymunedau canlynol: menywod a phobl anabl a niwrowahanol, lleiafrifoedd ethnig yn y DU, pobl sy'n wynebu tlodi a cham-drin domestig, a menywod a phobl mewn carchardai, i rannu eu profiadau o geisio cael cymorth gyda’r menopos.
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod llawer o fenywod a phobl o gymunedau sydd ar y cyrion yn cael eu gadael i ymdopi â'r menopos heb allu cael gafael ar ofal iechyd sy'n ddiwylliannol berthnasol, gwybodaeth ddibynadwy, nac adnoddau sy'n benodol i'w cymuned.