Fel y bydd dilynwyr FTWW yn gwybod mae’n siŵr, FTWW yw cyd-arweinydd y trydydd sector ar Gynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd ac Ymgysylltu (PPIE) o fewn Ymchwil Iechyd Menywod Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o allu rhannu'r cyfle gwych hwn i ymuno â Grŵp Cynghori’r Ganolfan ar Gynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd ac Ymgysylltu, sy’n berffaith i’r rheini sydd â diddordeb brwd mewn iechyd menywod:
Mae Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yn recriwtio aelodau ar gyfer Grŵp Cynghori Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI). Bydd aelodau'n gweithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr, clinigwyr, a chyfranwyr cyhoeddus i gefnogi cyfranogiad ystyrlon cynnwys y cleifion a'r cyhoedd ar draws gweithgareddau'r WHRW, a chefnogi ymgorffori dulliau PPI o ansawdd uchel o fewn ymchwil iechyd menywod.
Mae cyfrifoldebau'r rôl yn cynnwys cyfrannu cyngor ar flaenoriaethau ymchwil, llywodraethu, a chyfeiriad yn y dyfodol o safbwynt y cyhoedd a phrofiad bywyd. Bydd aelodau hefyd yn cefnogi cryfhau llais cyhoeddus, cynhwysiant ac atebolrwydd Ymchwil Iechyd Menywod Cymru. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i gyfrannu at ymchwil iechyd menywod, dylanwadu ar benderfyniadau, a chwarae rhan weithredol wrth lunio cyfranogiad ystyrlon gan gleifion a’r cyhoedd o fewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rôl a'r cyfrifoldebau, gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y swydd ar wefan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru fan hyn. yma (saesneg yn unig).
I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol i contact@whrw.uk erbyn 9 Gorffennaf.