
Mis Rhagfyr oedd Mis Hanes Anabledd, pan gynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau pwysig i ddathlu llwyddiannau pobl anabl ac i gadw’r frwydr dros hawliau pobl anabl ar flaen y gad.
Mae Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi, ac rydym yn falch iawn o rannu, fel Cadeirydd is-grŵp Iechyd a Llesiant y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, y bydd Is-gadeirydd FTWW, Willow, yn dal i chwarae ei rhan yn y gwaith o weithredu’r cynllun; mae holl gadeiryddion yr is-grwpiau wedi cael eu gwahodd i eistedd ar y Bwrdd Cynghori Allanol ar gyfer Pobl Anabl a fydd yn goruchwylio wrth i’r cynllun gael ei roi ar waith.
Fe wnaeth ein ffrindiau yn Anabledd Cymru hefyd gynnal digwyddiad lansio ar gyfer eu maniffesto, ‘O Oroesi i Ffynnu’, lle siaradodd Debbie o FTWW am bwysigrwydd cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o salwch ac anabledd ym mhob penderfyniad sy’n effeithio arnyn nhw. Gallwch ddarllen y maniffesto a gweld cerdyn ymrwymo Anabledd Cymru a fwriedir i ddwyn pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr i gyfrif cyn Etholiadau’r Senedd yn 2026 a thu hwnt, yma.
Yn olaf, fe wnaeth Harriet, sy’n un o wirfoddolwyr FTWW, ymuno â Dee, Cydlynydd Ymgysylltu FTWW, yn nigwyddiad Mis Hanes Anabledd Prifysgol Caerdydd, lle buont yn sgwrsio â’r myfyrwyr, y staff a’r mynychwyr, yn ogystal ag yn mwynhau perfformiadau gan UCAN. Cynhaliodd y panelwyr, Abi Lasebikan, yr Athro Debbie Foster, Joe Powell, a Rosaleen Moriarty-Simmonds OBE (uchod) drafodaeth bwerus ar ymgyrchu, grymuso a'r heriau sy'n wynebu pobl anabl ledled Cymru a thu hwnt.