Dathlu Cynhwysiant mewn Ymchwil yng Nghymru, Dadl yn Senedd Cymru ar Anghydraddoldeb Iechyd Menywod mewn Ardaloedd Gwledig, Symposiwm Iechyd Menywod, Prifysgol Bangor, Fforwm Ymarferwyr Ymgysylltu Gogledd Cymru, ac Endometriosis UK: Byw gydag Endometriosis
Dathlu Cynhwysiant mewn Ymchwil yng Nghymru
Roedd Debbie, Cyfarwyddwr FTWW, a Willow, ein Cadeirydd, yn falch iawn o fynychu digwyddiad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn Senedd Cymru ar 18 Medi, i ddathlu cynhwysiant mewn ymchwil yng Nghymru.
Yn ogystal â chynrychioli FTWW, roedd Debbie a Willow hefyd yn cynrychioli Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, sydd newydd gael ei sefydlu, fel partneriaid Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a'r Cyhoedd yn y trydydd sector.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i gysylltu â rhanddeiliaid allweddol, ac archwilio sut y gallwn greu cyfleoedd mwy cynhwysol i bobl gymryd rhan mewn ymchwil i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Credwn ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar gydgynhyrchu a sicrhau bod lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml yn cael eu cynnwys, yn cael eu galluogi i arwain ar bynciau ymchwil, a hefyd yn cael eu gwerthfawrogi fel partneriaid teg.
Mae llawer i'w wneud gan fod Cymru bron ar waelod y rhestrau o ran disgwyliad oes iach yn y byd gorllewinol. Bydd ymchwil iechyd, a gweithredu ar sail ei ganfyddiadau, yn hanfodol i wella sefyllfa Cymru a bywydau dinasyddion.
Dadl yn Senedd Cymru ar Anghydraddoldeb Iechyd Menywod mewn Ardaloedd Gwledig
Roedd Willow a Debbie hefyd yn bresennol mewn trafodaeth yn Senedd Cymru dan arweiniad Cefin Campbell AS (yn y llun uchod), o’r enw "Pontio’r Bwlch Mewn Ardaloedd Gwledig: Iechyd Menywod yng Nghymru’. Fe glywson nhw sut mae menywod a chleifion mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at y gofal iechyd gorau posibl ar gyfer cyflyrau fel endometriosis ac adenomyosis – profiadau rydyn ni'n clywed amdanynt yn aml yn ein cymuned.
Rhoddwyd sicrwydd gan Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant (sydd hefyd yn gyfrifol am y Cynllun Iechyd Menywod) bod sgyrsiau'n parhau gyda Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru ynghylch mynediad at ofal endometriosis arbenigol.
Siaradodd Debbie a Willow â Cefin a'r Gweinidog wedyn am ddatblygu Canolfannau Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd, a'r rôl y bydd Hybiau'n ei chwarae o ran gwella mynediad amserol at wasanaethau, a chyfathrebu rhwng cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rydyn ni yn FTWW yn edrych ymlaen at barhau â’r drafodaeth.
Gallwch wylio'r ddadl yma (dan y teitl Dadl Fer, 18:26).
Symposiwm Iechyd Menywod, Prifysgol Bangor
Ar ran FTWW, rhoddodd Isabel a Debbie brif gyflwyniad yn Symposiwm Iechyd Menywod Blynyddol Coleg Meddygaeth ac Iechyd Prifysgol Bangor.
Wrth drafod y pwnc 'Cydgynhyrchu Ymchwil Iechyd ar gyfer Effaith ar Bolisi, Ymarfer, a Bywydau Menywod', fe wnaethant ddisgrifio pwysigrwydd clywed lleisiau menywod wrth i ni ddatblygu ymchwil iechyd a gofal, a dylunio a darparu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth Cymru. Mae FTWW yn credu bod cydgynhyrchu o'r math hwn yn hanfodol os ydyn ni am sicrhau bod gofal iechyd yn diwallu holl anghenion cleifion ac nad yw'n rhoi rhai grwpiau dan anfantais.
Fforwm Ymarferwyr Ymgysylltu Gogledd Cymru
Rhoddodd Isabel gyflwyniad i Fforwm Ymarferwyr Ymgysylltu Gogledd Cymru ddydd Mawrth 16 Medi, mewn digwyddiad hybrid yn benodol ar gyfer Cynllun Iechyd Menywod a'i flaenoriaethau. Roedd staff y GIG a sefydliadau'r trydydd sector yn bresennol yn y cyfarfod, ac roedd yn gyfle i rannu heriau cyffredin, tynnu sylw at bryderon, a thrafod yr arferion gorau.
Endometriosis UK: Byw gydag Endometriosis

Roedd Cydlynydd Ymgysylltu FTWW, Dee, a Rachel, Hyrwyddwr Gwirfoddolwyr Endometriosis, yn falch iawn o ymuno â'n ffrindiau Endometriosis UK yn eu digwyddiad Byw gydag Endometriosis yng Nghaerdydd ar 27 Medi. Buont yn siarad â'r rhai a oedd yn bresennol ac yn rhannu adnoddau gan FTWW, Endometriosis Cymru, a sefydliadau partner, gan gynnwys y Prosiect Iechyd Mislif.
Roedd yn ddiwrnod yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol ac undod â chleifion, ac roedd yn wych gweld cynifer o wynebau cyfarwydd! Diolch Endo UK am ein croesawu ni!