PCOS (Syndrom Ofarïau Polysystig)
Er bod PCOS yn gyflwr iechyd cyffredin iawn, nid oes dealltwriaeth lawn o'r hyn sy'n ei achosi a'r ffyrdd gorau o'i drin. Mae angen rhagor o ymchwil i wella profiadau a chanlyniadau cleifion.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am PCOS a'n gwaith i wella mynediad at ofal iechyd ar gyfer y mater iechyd hwn.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw PCOS (syndrom ofarïau polysystig)
- Mae PCOS yn effeithio ar 1 ymhob 8 o fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn y DU
- Yng Nghymru, mae tua 200,000 o bobl yn byw â PCOS, ond ni fydd llawer ohonynt yn cael diagnosis ffurfiol.
- Mae PCOS yn effeithio ar wahanol ethnigrwydd ar gyfraddau gwahanol, ac mae'n fwy tebygol o effeithio ar fenywod o Dde-ddwyrain Asia.
- Gall PCOS ymgyflwyno mewn nifer o ffyrdd yn ystod oes, ac arwain at gyflyrau iechyd hirdymor eraill, fel diabetes.
- Anhwylder endocrinaidd yw PCOS, ond mae'n cael effeithiau iechyd hirdymor a metabolig gydol oes, fel risgiau cardiofasgwlaidd a chlefyd iau brasterog.
Gall PCOS gyflwyno mewn nifer o ffyrdd ar wahanol adegau o fywyd. Rhai o symptomau cyffredin PCOS yw mislif afreolaidd, gormod o flew ar yr wyneb a'r corff, gwrthsefyll inswlin, gormod o bwysau, gwallt yn teneuo oherwydd lefelau uwch o hormonau dynol (a ddisgrifir weithiau fel moelni patrwm gwrywaidd).
Yn ôl GIG Cymru, mae PCOS yn cael ei ddiagnosio fel arfer drwy brawf hormonau, ac weithiau drwy sgan uwchsain, sy'n gallu dangos a oes gennych fwy nag un syst ar eich ofarïau.
Nid yw'n anghyffredin i fenywod ddatblygu systiau o gwmpas eu hofarïau yn ystod eu hoes, ac nid yw systiau bob amser yn golygu bod PCOS arnoch. Bydd clinigwyr yn edrych ar eich symptomau a chanlyniadau profion, yn ogystal â maint, natur a nifer y systiau i weld a yw diagnosis o PCOS yn briodol.
Yng Nghymru, gallai triniaeth ar gyfer PCOS gael ei reoli gan eich meddyg teulu neu efallai y cewch eich atgyfeirio at arbenigwr. Efallai y bydd yr arbenigwr yn gynecolegydd (rhywun sy'n arbenigo ar drin cyflyrau'r system atgenhedlol fenywaidd) neu'n endocrinolegydd (rhywun sy'n arbenigo ar drin problemau hormonaidd). Serch hynny, mae'r rhestrau aros ar gyfer y ddau arbenigedd yn hir.
Bydd cynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion PCOS yn amrywio o un unigolyn i'r llall oherwydd mae'r cyflwr yn amrywio o ran sut mae'n cyflwyno, beth yw'r symptomau a pha gyd-forbidrwydd sydd hefyd. Mae'n bwysig fod y gofal mor gyd-gysylltiedig a chyfannol â phosibl.
Mae rhai arbenigwyr yn credu mai enw'r cyflwr (Syndrom Ofarïau Polysystig) yw un rheswm pam mae llawer o fenywod yn disgrifio oedi hir cyn cael diagnosis, gan fod symptomau sy'n gysylltiedig â chyflyrau gynecolegol nad ydynt yn ganser yn tueddu i gael eu normaleiddio neu beidio â chael eu cymryd o ddifri.
Mae rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaethau PCOS ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw codi ymwybyddiaeth o PCOS, chwalu'r mythau, a sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â'r gofal gorau ar gyfer y cyflwr hwn.
Er bod PCOS yn gyflwr iechyd cyffredin iawn, nid oes dealltwriaeth lawn o'r hyn sy'n ei achosi a'r ffyrdd gorau o'i drin. Mae angen rhagor o ymchwil a buddsoddiad er mwyn gwella'r profiadau a'r canlyniadau i gleifion. Mae'n bwysig iawn fod y cyflwr hwn yn cael ei flaenoriaethu gan lywodraethau, ymchwilwyr a darparwyr gofal iechyd, oherwydd gall gael canlyniadau hirdymor difrifol i iechyd menywod, sy'n golygu costau sylweddol i wasanaethau iechyd, yr economi – ac i'r menywod eu hunain.
Cynyddu y mae nifer y menywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni y mae PCOS yn effeithio arnynt ledled y DU, ac nid yw Cymru'n wahanol.
Nid yw'n glir a yw'r cynnydd yn y niferoedd sy'n byw â PCOS wedi digwydd oherwydd gwelliant wrth ddiagnosio neu am reswm arall – mae angen rhagor o ymchwil er mwyn deall yn well pa mor gyffredin ydyw a beth yw ei effeithiau.
Mae cleifion yn wynebu rhwystrau rhag cael eu hatgyfeirio at ofal eilaidd o ofal sylfaenol, yn rhannol am nad yw symptomau PCOS yn cael eu cydnabod yn eang. Mae'r gofal sydd ar gael yn amrywio o un bwrdd iechyd i'r llall, ac nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu gwasanaethu'n dda.
Mae'r cyd-forbidrwydd sy'n bodoli gyda PCOS hefyd yn cynyddu, ac nid oes dealltwriaeth dda o'r cysylltiadau sydd rhwng y dda. Mae'r rhain yn cynnwys Diabetes Math 2 a Chlefyd Cardiofasgwlaidd.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
Gweld PCOS yn cael ei flaenoriaethu yng Nghymru, gan ei fod yn mynd yn fwyfwy cyffredin, y goblygiadau hirdymor i iechyd, a'r costau.
Codi ymwybyddiaeth o PCOS, ei symptomau, ei risgiau, a sut i'w reoli, ymysg y cyhoedd, cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Chwalu mythau am PCOS, gan egluro nad yw'r un peth â systiau ofarïaidd, a sicrhau bod gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn eang yn ddwyieithog.
Gwella'r mynediad at y gofal cydgysylltiedig gorau fel bod cleifion sydd â mwy nag un mater iechyd yn deillio o'r anhwylder yn gallu cael y profiad a'r canlyniadau gorau.
Sicrhau bod PCOS yn cael ei drin yn gyfannol yn hytrach na chanolbwyntio ar iechyd atgenhedlol yn unig. Serch hynny, gan fod y cyflwr yn aml yn arwain at broblemau gyda ffrwythlondeb, mae angen mynd i'r afael â'r rhain yn brydlon a gyda chymorth priodol i'r rhai sydd eisiau rhagor o aelodau i'w teulu.
Gweld rhagor o fuddsoddiad mewn ymchwil i PCOS yng Nghymru, a rhagor o gyllid at atal, triniaethau ac iachâd.
Ein hyrwyddwr Rachel P

"Rwy'n cefnogi ymgyrch FTWW am PCOS oherwydd mae'n teimlo fel cyflwr meddygol sy'n cael ei gamddeall yn fawr. Fel llawer o faterion iechyd eraill, mae'r symptomau a'r goblygiadau iechyd hirdymor sy'n gysylltiedig â PCOS yn aml yn cael eu bychanu, neu'n waeth, yn cael eu camddiagnosio'n llwyr.
Rhaid codi mwy o ymwybyddiaeth am y cyflwr er mwyn cefnogi menywod sy'n dioddef, ond hefyd er mwyn tynnu sylw at yr angen i gael gwell addysg a dealltwriaeth o'r cyflwr i gleifion a gweithwyr clinigol proffesiynol.
Mae llawer o ragdybiaethau am symptomau cysylltiedig PCOS, er enghraifft magu pwysau neu ordewdra, acne, tyfu gormod o flew ac ati. Ond i mi ac i lawer o rai eraill, rwy'n dychmygu, doedd y symptomau hyn ddim yn berthnasol ac rwy'n credu bod y stereoteip o gysylltu PCOS a'r symptomau "cyffredin" hyn yn arwain at oedi hir cyn cael diagnosis.
Mae angen gwneud mwy i gael dull mwy cynhwysol o brofi a diagnosio PCOS a pheidio â seilio'r diagnosis ar un symptom yn unig."
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i wella bywydau pobl sy'n byw â PCOS. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Rydym ni'n cefnogi aelodau a gwirfoddolwyr FTWW i rannu eu profiadau o PCOS gyda'r cyfryngau er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr a'i effaith. Gweler yr enghraifft hon ar wefan y BBC.
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
Rydym ni'n mynd i gyfarfodydd gyda Rhaglen Gofal wedi'i Gynllunio Gweithrediaeth GIG Cymru, lle rydym ni'n cael cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r angen am ofal cydgysylltiedig ar gyfer cyflyrau fel PCOS, a phwysigrwydd bod ysbytai'n casglu data ar Brofiadau a Chanlyniadau Cleifion i ddysgu rhagor a gwella'r gofal.
Rydym ni'n cwrdd yn rheolaidd â Thîm Polisi Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Strategol Clinigol GIG Cymru ar gyfer Iechyd Menywod i sicrhau bod PCOS yn cael ei flaenoriaethu ar y lefelau uchaf.
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
- Rydym ni wedi sicrhau bod tystiolaeth am PCOS yn cael sylw yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru cyn cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru.
- Mae FTWW yn gweithio gydag elusen PCOS Verity a Phrifysgol Caerdydd ar Bartneriaeth Gosod Blaenoriaethau Ymchwil Cynghrair James Lind sy'n ceisio canfod y materion mwyaf dybryd, yr ansicrwydd a'r meysydd lle mae angen ymchwil ar gyfer cleifion PCOS ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru.
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn
As part of BBC Radio Wales’ coverage of the petition to UK Parliament calling for statutory menstrual leave for people with endometriosis and adenomyosis, FTWW Engagement Coordinator, Dee, spoke to BBC Radio Wales about the importance of ensuring that disabled and chronically ill women and people registered female at birth – and their employers – are aware of existing legislation that can protect their employment rights and help them thrive in the workplace.
Ydych chi'm cymryd HRT ac yn dal i brofi symptomau menopos?
Rydym wrthi’n cynnal prosiect i ddatblygu dull i fesur y costau sy'n gysylltiedig â symptomau'r menopos. Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r prosiect yn rhan o dreial ESTEEM, sy'n edrych ar y defnydd o destosteron pan gaiff ei ychwanegu at therapi amnewid hormonau (HRT).
Eich Cyfle i Ddysgu Mwy am y Menopos yn y Gweithle!
[:en] We are delighted that FTWW Menopause Champions, Lisa and Lara, will be participating at Policy Insight Wales Menopause in the Workplace Wales Conference on April 24th at the Cardiff Marriott. They will be discussing topics like the importance of workplace...
Storïau am PCOS
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Verity PCOS
Mae Verity yn grŵp hunan-gymorth i bobl sydd â syndrom ofarïau polysystig (PCOS)
Taflen ddwyieithog FTWW ar PCOS
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen