Cyllidwyr
Fel elusen fach ond pwerus yng Nghymru, rydym ni'n hyrwyddo anghenion iechyd a llesiant menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni ac sy'n anabl neu'n byw â phroblemau iechyd hirdymor. Rydym ni'n wastad yn ddiolchgar iawn i gyllidwyr sy'n rhannu ein huchelgais i gael gwared ar yr annhegwch iechyd y mae ein cymuned yn ei brofi.
Ar y dudalen hon, gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyllidwyr presennol a diweddar.
Cyllidwyr a grantiau presennol

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Cymru)
Llwyddodd FTWW i gael Arian gan y Loteri ar gyfer ein prosiect “Pŵer yw Gwybodaeth” i adnewyddu ein gwefan, i'w gwneud yn fwy hygyrch ac i greu adnoddau i'w lawrlwytho ar gyfer ein cymuned.
Yn ogystal â hyn, bydd ein prosiect ‘Clywch fy Iechyd’, yn gweld ein tîm, sydd newydd fynd yn fwy, yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael gan FTWW. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n gallu cynyddu ein haelodaeth a darparu mwy o weithgareddau i'n haelodau, gan gynnwys cymorth gan gymheiriaid a fforymau trafod, gweminarau ar bynciau a fu'n ddefnyddiol i'n haelodau, a chyd-gynhyrchu adnoddau ymarferol ar gyfer ein haelodau a'n gwirfoddolwyr.

Sefydliad Waterloo
Diolch i Sefydliad Waterloo, mae FTWW yn parhau i fod yn gallu sicrhau ein bod yn ymgysylltu â'n haelodau a'n gwirfoddolwyr, gan gynnwys drwy ein cylchlythyr dwyieithog misol a'r grŵp cymunedol ar-lein. Bydd y cyllid hefyd yn ein helpu ni i recriwtio, cefnogi a galluogi mwy o'n gwirfoddolwyr i gynrychioli'r elusen ac eiriol drostynt eu hunain a phobl eraill mewn amrywiaeth o fannau iechyd.

Sefydliad Esmee Fairbairn
Cymraeg i dilyn. The Esmee Fairbairn Foundation is helping FTWW continue to support women and people registered female at birth who are disabled and living with long-term health issues in Wales to address injustices and challenge discrimination.
Llywodraeth Cymru
Mae grant y ‘Rhaglen Cyllid ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant’ (2024/25) gan Lywodraeth Cymru yn werthfawr iawn ac yn cyfrannu ar rai o'n costau gweithredu craidd. Mae'r rhaglen yn cydnabod bod menywod sy'n anabl neu'n byw â materion iechyd hirdymor yn aml yn gallu profi anfanteision ychwanegol o ran eu iechyd a'u llesiant yn ehangach, felly mae'r cyllid hwn yn helpu FTWW i sicrhau bod y croestoriadedd yn cael ei ddeall yn well yn y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru.

Rosa
Cawsom arian gan Rosa fel rhan o'u 'Lleisiau o'r Rheng Flaen', i gefnogi ein gwaith ymgyrchu a dylanwadu sy'n galluogi menywod a merched i ddefnyddio eu llais i sicrhau newid.
Cyllidwyr a grantiau blaenorol
Prifysgol Caerdydd / Cyngor Ymchwil Meddygol
'Digideiddio Teclyn Adrodd Symptomau Endometriosos Cymru'

Ymddiriedolaeth Smallwood
Cawsom arian gan Ymddiriedolaeth Smallwood i gefnogi ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu.
Ydych chi'n rhannu ein cenhadaeth ac eisiau cefnogi'r elusen, naill ai drwy roi grant, cyfrannu arian neu godi arian?