Ein tîm

Ni fyddai FTWW yn bodoli heb ein tîm ymroddgar o staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr.

Cwrdd â'r tÎm isod...

Ein staff

Debbie Shaffer, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil

Debbie is the founder of FTWW / Fair Treatment for the Women of Wales, set up in 2013 as a result of her own lengthy diagnostic delays and struggles to access specialist treatment in Wales. Sensing that this would be a widespread issue, not least because of gender stereotypes which see ‘women’s health issues’ dismissed and under-served, Debbie created the FTWW community and now registered charity, where those affected could share their experiences and come together to advocate for change.

As a disabled woman and health-service user, Debbie regularly represents patients on Welsh Government groups and wider UK clinical bodies, and is pleased to call herself a ‘critical friend’ to policy-makers.

Dee Montague-Coast, Swyddog Ymgysylltu

In 2020, Dee (she/they) left her career in Marketing and PR to follow her dream of studying an MA in Creative Writing. She then joined FTWW as Engagement Officer in 2021, having previously volunteered for the charity and benefitted from its peer support during her long battle to be diagnosed with endometriosis. She is a matchmaker, working with volunteers, stakeholders and partner organisations to ensure patient voices are heard. Dee also leads on our PR and social media activity.

Mae Dee yn parhau i wirfoddoli; mae hi'n gynrychiolydd cleifion ar gyfer ME (enseffalomyelitis myalgig) a ffibromyalgia gyda Cynghrair#IechydMenywodCymru, yn aelod o Fforwm Cleifion Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP), ac mae hi'n Gynrychiolydd Gwlad Ddatganoledig – Cymru ar Grŵp Partneriaeth Cleifion a Gofalwyr yr RCGP. Mae Dee hefyd yn fentor ar y cynllun Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal.

Mae Dee yn ffeminydd cwîar ac anabl sy'n frwd dros gynwysoldeb a thegwch. Yn ddiweddar, cafodd ragoriaeth yn ei chymhwyster MA, ac mae hi'n ysgrifennu am anabledd ac abledd, profedigaeth, colled a galar. Er ei phrofiad bywyd o hynny i gyd, mae Dee yn berson hapus a chadarnhaol sy'n ceisio newid y byd (neu o leiaf ein rhan bach ni ohono) ac mae hi'n credu bod swydd ei breuddwydion gydag FTWW yn cynnig y cyfle perffaith iddi wneud hynny.

Isabel Linton, Cydlynydd yr Elusen

Mae Isabel (hi) yn byw yng Ngwynedd, ac mae hi'n ymuno â ni o gefndir addysg, ar ôl gweithio mewn prifysgolion mewn swyddi gweinyddol ac addysgu. Yn fwyaf diweddar, bu hi'n gweithio mewn swydd gweinyddu ymchwil yn cefnogi academwyr ac ymchwilwyr PhD. Mae hi hefyd wedi gwirfoddoli gyda'r elusen Mencap ar y prosiect Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol.

Mae Isabel yn frwd dros y gwaith y mae FTWW yn ei wneud, nid yn unig oherwydd ei phrofiadau iechyd ei hun ond hefyd oherwydd profiadau iechyd pobl sy'n agos ati. Mae hi'n awyddus i gyfrannu at y gwaith sy'n cefnogi ac yn gweithio gyda chleifion.

Ein bwrdd ymddiriedolwyr

Willow Holloway, Cadeirydd

Arferai Willow fod yn weithiwr allweddol i oedolion ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi plant ac oedolion anabl, mae hi wedi cyflwyno digwyddiadau ymgynghori, gweithdai a hyfforddiant i Heddlu Gogledd Cymru, ac mae ganddi brofiad helaeth o awtistiaeth o safbwynt proffesiynol a phersonol. Ymysg rolau Willow mae Sylfaenydd y Prosiect Grymuso Menywod Awtistig , Is-gadeiryddAnabledd Cymru, a Chynrychiolydd Cymru a Chadeirydd Autistic UK.

Liz Williams, Cyd-Is-Gadeirydd

Mae Liz yn gweithio yn RNIB Cymru ar hyn o bryd, ac yn arwain ymgyrchoedd sy'n ceisio lleihau'r rhwystrau dyddiol sy'n wynebu pobl â nam ar eu golwg. Mae hyn yn cynnwys lobïo'r rhai sy'n gwneud polisïau a phenderfyniadau am bwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth iechyd ar gael yn rhwydd, yn ogystal â phwysigrwydd sicrhau nad yw'r argyfwng costau byw yn effeithio'n anghymesur ar bobl ddall a phobl â nam ar eu golwg.

"Rwy'n frwd iawn dros fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac mae'n bleser iawn gennyf ymuno ag FTWW gan fy mod yn edmygu ei ymrwymiad i gyd-gynhyrchu, ymgysylltu'n ystyrlon a sicrhau bod storïau pobl sydd â phrofiad bywyd yn ganolog i'w safbwyntiau ar bolisi.

Karen Hiu Ching Lo, Cyd-Is-Gadeirydd

Mae Karen yn gwirfoddoli gydag FTWW ers sawl blwyddyn. Symudodd i Gaerdydd i astudio meddygaeth ond bu'n dioddef gyda'i hiechyd ei hun ar yr un pryd.

Ar ôl wynebu rhwystrau, fel claf ac fel myfyriwr meddygaeth, mae hi'n benderfynol o fod yn feddyg y byddai hi eisiau ei weld – empathig, gofalgar a pharchus tuag at ei chleifion fel pobl – rhywun cydradd.  

Nod Karen yw gwella GIG Cymru ar lefel systemau, drwy gyd-gynhyrchu, sicrhau bod pryderon cleifion yn cael eu cyfleu'n effeithiol, a throsglwyddo ystyriaethau gan glinigwyr er mwyn hybu cyd-benderfyniadau a dealltwriaeth rhwng pawb.  

June Jeremy, Trysorydd

Mae cefndir June mewn Gweinyddu Cyllid yn bennaf, gan weithio yn y byd Cyflogau/Pensiynau, a chyn ymddeol roedd hi'n gweithio i elusen Addysgol Addysg Oedolion Cymru (a arferai fod yn Gymdeithas Addysg y Gweithwyr) am 20 mlynedd bron, gan wasanaethu i ddechrau fel Arsyllwr Staff ac yn fel Llywodraethwr Staff am gyfnod o wyth mlynedd. 

Ar lefel bersonol, mae June wedi profi'r anawsterau o gael diagnosis o endometriosis (dros 15 mlynedd) a phroblemau iechyd eraill, ac mae h'n edrych ymlaen at gyfrannu ei phrofiad personol / profiad gwaith i helpu FTWW i symud ymlaen wrth helpu menywod Cymru i sicrhau cydraddoldeb a mwy i'w materion iechyd. 

Alison Pritchard, Ymddiriedolwr

Mae Alison wedi gweithio yn y trydydd sector ac o'i gwmpas ers graddio yn 2009, ac ôl gwirfoddoli ar gyfer nifer o sefydliadau ac arwain y gymdeithas Codi a Rhoi ym Mhrifysgol Abertawe yn ei blwyddyn olaf. Mae hi wedi treulio'r pedair blynedd ddiwethaf yn CGGC, ac erbyn hyn yn Bennaeth Cymorth. Ei phrif brofiadau yw cyllid a chodi arian – mae hi'n gobeithio y bydd ei sgiliau a'i gwybodaeth yn y gwaith hwn yn helpu FTWW i ddatblygu cynaliadwyedd hirdymor y sefydliad.

Cafodd Alison ei denu at FTWW ar ôl darllen Invisible Women, a oedd yn crisialu'r mater o gyn lleied o ddealltwriaeth sydd o iechyd menywod (yn fyd-eang) a faint o effaith y mae'r anghydraddoldeb hwn yn ei chael ar ein bywydau bob dydd ac ar gymdeithas yn ehangach.  

Dee Dickens, Ymddiriedolwr

Mae Dee Dickens (rhagenw hi/nhw) yn dod o gefndir undeb llafur, gyda sgiliau arbennig mewn ymgyrchu, negodi a dod â phobl at ei gilydd.

Mae hi hefyd yn fenyw. Un sydd wedi cael llawer o gyflyrau iechyd ers iddynt gyrraedd y glasoed. Mae Dee yn Awtistig gydag ADHD, ac maen nhw'n frwd dros wneud pethau'n well i fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yng Nghymru ac i wneud hynny drwy gyd-gynhyrchu. Maen nhw'n dilyn yr arwyddair Dim Byd Hebom Ni, ynghyd â Byddwch yn Chi, Fe Wnaiff y Byd Addasu.

Mae Dee yn fyfyriwr PhD ac yn fardd llafar, ac mae'n edrych ymlaen at ddechrau'n iawn ar ei rôl newydd. 

Jon Stevens, Ymddiriedolwr

Mae Jon wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector drwy gydol ei yrfa. Yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi gweithio'n helaeth yn y sector Eiriolaeth, gan gefnogi unigolion ag anghenion a materion amrywiol, mewn llawer o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Ar ôl camu i fyd rheoli, mae Jon yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno nifer o brosiectau Eiriolaeth ledled Gogledd Cymru, ac mae ganddo lwyth achosion gweithredol yn darparu cymorth eiriolaeth uniongyrchol. Ar hyn o bryd, Jon yw Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru.   

Kirsty Pringle, Ymddiriedolwr

Mae Kirsty wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn ei 20 mlynedd o yrfa mewn Llywodraeth Leol yn cefnogi plant, oedolion ifanc a theuluoedd, ac mae hi wrthi'n mwynhau cyfnod mamolaeth gyda'i hefeilliaid bach yn dilyn triniaeth IVF lwyddiannus. Mae Kirsty yn Gydlynydd Digartrefedd Ieuenctid ar gyfer Powys ac mae hi'n rheoli prosiect Housing First for Youth sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc agored i niwed sydd ag anghenion cymhleth.

Mae ganddi bartneriaeth iechyd a llesiant cyfannol ac mae hi hefyd yn gweithio gyda Seicolegydd Cadarnhaol i ddarparu rhaglenni llesiant i sefydliadau, ysgolion a phrifysgolion. Daeth Kirsty i wybod am FTWW pan oedd hi'n chwilio am atebion i'w salwch ei hun ac yn credu mai'r rheswm oedd Endometriosis ac Anhwylder Sbectrwm Hypersymudedd. Gyda chymorth ac arweiniad gan y grŵp, goresgynnodd frwydrau â system gofal iechyd heriol i dderbyn y ddau ddiagnosis. Mae hi hefyd newydd dderbyn diagnosis o ADHD ac mae hi'n awyddus i gefnogi gwelliannau o ran adnabod a chefnogi pobl â chyflyrau niwroamrywiol. Daeth i wirfoddoli gydag FTWW am ei bod yn credu'n frwd yn eu gwaith a'u cenhadaeth.

Mae Kirsty yn falch iawn o fod yn aelod o'r Bwrdd i helpu FTWW i wireddu cydraddoldeb iechyd yng Nghymru.

Lucy Cone, Ymddiriedolwr

Mae Lucy yn ymgynghorydd cyfathrebu strategol a marchnata sydd wedi gweithio yn y sector gwirfoddol a'r sector preifat yng Nghymru a'r tu hwnt.

"Mae cefnogi cenhadaeth FTWW yn rhywbeth sy'n agos at fy nghalon. Fel llawer o gefnogwyr FTWW rwyf wedi dod ar draws llawer o rwystrau wrth geisio cael y gofal iechyd angenrheidiol ac rydw i eisiau helpu i sicrhau nad yw pobl eraill yn cael yr un profiad. Drwy ymuno â'r bwrdd yn FTWW rwy'n cael cyfle i gyfrannu fy amser a'm profiad i gefnogi newid y mae mawr ei angen, mewn maes rwy'n frwd drosto."

Louise Evans, Cynghorydd Cleifion

Mae gan Louise gefndir mewn Busnes a Chyllid, ac mae hi wedi teithio'r byd tra oedd yn gweithio yn y diwydiant Lletygarwch. Ers hynny, mae hi wedi dychwelyd i fro ei mebyd yng Ngogledd Cymru ac o ganlyniad i'w brwydrau personol ei hun â chyflyrau cronig mae hi'n eiriolwr brwd dros iechyd menywod.

Mae Louise yn gysylltiedig ag FTWW ers iddo gael ei sefydlu, ac wedi bod yn Ymddiriedolwr ers sawl blwyddyn. Fel gwirfoddolwr mae hi wedi bod yn gyfrifol am gynnal presenoldeb yr elusen ar lein, gan helpu i drefnu digwyddiadau a gwneud sawl tasg arall dros y blynyddoedd! Mae Louise yn awyddus i ddefnyddio ei brofiadau cadarnhaol a negyddol fel claf i wneud gwahaniaeth i bobl eraill, ac i rymuso menywod i eiriol drostynt eu hunain – er mwyn cael y gofal gorau posibl. 

Ein Hyrwyddwyr Gwirfoddol

Tami Rolls, Swyddog Cyllid Gwirfoddol

Mae Tami wedi gweithio fel uwch weithiwr proffesiynol yn y maes cyllid ers 25 mlynedd a mwy, a hynny yn y DU ac UDA. Mae'r rhan fwyaf o yrfa Tami wedi bod yn y sector iechyd cyhoeddus, gan gynnwys ei rôl fel Cyfarwyddwr Cyllid Interim ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru . Mae Tami wedi bod yn aelod o Ganolfan Cydweithio ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Sefydliad Iechyd y Byd, ac mae hi newydd gwblhau Gradd Feistr mewn Iechyd Cyhoeddus. Erbyn hyn ym Mhrifysgol De Cymru, mae Tami yn rheoli contractau addysg iechyd a phrentisiaethau gyda'r heddlu.

"Rwy'n frwd dros gydraddoldeb a grymuso menywod, nid yn unig am fod gen i ddwy ferch sy'n oedolion."

Rhagor o wybodaeth am ein hyrwyddwyr gwirfoddol cyn bo hir...

Grŵp Cynghori Clinigol

Mae FTWW yn falch o sefydlu Grŵp Cynghori Clinigol a fydd yn darparu gwybodaeth glinigol i'r Bwrdd Ymddiriedolwyr a staff FTWW.

Mae'r grŵp yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn nifer o arbenigeddau gwahanol ledled Cymru, dan gadeiryddiaeth Is-Gadeirydd FTWW, Dr Karen Hiu Ching Lo.

Y tu hwnt i’w swyddi proffesiynol, mae’r aelodau’n rhannu’r un angerdd ac ymroddiad i wella profiadau a chanlyniadau iechyd cleifion yng Nghymru. Mae nifer ohonynt wedi gweithio gyda’r FTWW am flynyddoedd maith drwy gefnogi ein nod o gael gwared ar yr anghydraddoldebau iechyd y mae menywod a phobl a ddynodwyd yn fenywod adeg eu geni yn eu profi.

Bydd y Grŵp Cynghori Clinigol yn adlewyrchu blaenoriaethau cymuned FTWW o gleifion yng Nghymru gyfan, ac fe fydd ganddynt gysylltiadau at weithwyr proffesiynol mewn meysydd arbenigedd eraill wrth i themâu newydd ymddangos a datblygu dros amser.

Bydd y Grŵp yn cyfarfod unwaith bob chwarter ac yn adolygu unrhyw wybodaeth glinigol a rennir yn gyhoeddus yn unol â’u meysydd arbenigedd unigol. Bydd yr aelodau hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r Bwrdd a’r staff am faterion yn ymwneud â gofal iechyd ac unrhyw bynciau ymchwil y dylai’r sefydliad fod yn ymwybodol ohonynt.

Yn ogystal â sicrhau llywodraethiant glinigol o ansawdd i’r elusen, un o’r prif bethau fydd y Grŵp Cynghori Clinigol yn ei wneud yw sicrhau bod y FTWW yn gallu parhau i dynnu sylw at feysydd o fewn darpariaeth y gwasanaeth iechyd y gellir eu gwella, er mwyn i ni allu eirioli’n effeithiol dros gydraddoldeb i gleifion ledled Cymru.

Cofiwch nad yw Grŵp Cynghori Clinigol FTWW yn darparu cyngor clinigol i unigolion, neu amgylchiadau personol.

Dr Karen Hiu Ching Lo

Karen yw Cadeirydd Grŵp Cynghori Clinigol FTWW, ac mae’n feddyg preswyl ar raglen sylfaen arbenigol ar arweinyddiaeth a rheolaeth glinigol. Mae hi’n frwd dros greu cyfleoedd i gydweithio’n ystyrlon rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, ac yn teimlo bod y Grŵp Cynghori Clinigol yn gyfle cyffrous i wreiddio prosesau cyd-gynhyrchu a gwneud penderfyniadau ar y cyd, ac i roi llais y claf yn rhan ganolog o ofal iechyd yng Nghymru.

Mae Karen yn benderfynol o sicrhau bod y grŵp yn cefnogi cenhadaeth FTWW drwy hyrwyddo cydraddoldeb, tosturi, a gwelliant systemig ar draws gwasanaethau i fenywod a phobl a ddynodwyd yn fenywod adeg eu geni.

Angharad Jones

Miss Angharad Jones

Mae Angharad yn gynaecolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn llawdriniaethau gynaecolegol arbenigol sy’n creu archoll mor fach â phosibl, gofal endometriosis, a thrin cleifion allanol. Mae hi’n Uwch Aelod o Gyngor y Gymdeithas Brydeinig dros Endosgopi Gynaecolegol (BSGE), ac yn gweithredu fel arweinydd portffolio ar gyfer adnoddau gwybodaeth. Mae hi hefyd yn olygydd ar gylchgrawn Scope. Mae hi’n aelod gweithredol o Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (RCOG), ar ôl gwasanaethu fel aelod o'r cyngor dros Gymru.

Mae Angharad wedi cydweithio gyda FTWW ar brosiectau fel gwefan Endometriosis Cymru, ac yn edrych ymlaen at gefnogi Grŵp Cynghori Clinigol yr elusen yn y dyfodol.

Gail Pettifor-Jones

Gail Pettifor-Jones

Mae gyrfa Gail fel nyrs broffesiynol bob amser wedi bod ym maes Iechyd Menywod, ac yn fwy penodol ym maes gynaecoleg. Mae ganddi wybodaeth helaeth am y maes, yn enwedig am bynciau fel endometriosis, y menopos, ac wro-gynaecoleg

Ar hyn o bryd, mae Gail yn Gadeirydd ar Fforwm Gynaecoleg Gwasanaethau i Fenywod Gogledd Cymru ac ar Grŵp Gwella Iechyd Menywod Gwasanaethau'r Menywod (WHIG). Mae hefyd yn gyd-gadeirydd ar Fforwm Lleisiau Gynaecoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fel rhan o’r swyddi uchod, mae hi’n gweithio’n agos gyda defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys aelodau FTWW. Mae ganddi brofiad o gyd-gynhyrchu nifer o ddatblygiadau i wasanaethau yng Ngogledd Cymru, ac yn dweud ei bod ‘yn fraint cael gwahoddiad i fod yn aelod o Grŵp Cynghori Clinigol FTWW’.

Katharine Gale

Katharine Gale

Mae Katharine yn Nyrs Ymgynghorol ym maes Iechyd Menywod yng Nghanolbarth Cymru ac yn gyn-gadeirydd ar Fforwm Iechyd Menywod y Coleg Nyrsio Brenhinol. Mae hi’n gyd-gadeirydd ar y Gynghrair Iechyd Mislif ac yn nyrs gofrestredig frwdfrydig sydd hefyd wedi cymhwyso fel hysterosgopydd, sonograffyrdd, a nyrs sy’n rhagnodi. Mae Katharine wedi defnyddio ei arbenigedd clinigol a’i sgiliau ym maes iechyd menywod i wella gofal ac ymarfer proffesiynol drwy ymgysylltu’n weithredol ac yn strategol mewn materion clinigol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir, gofal iechyd, a llesiant merched a menywod yn y Deyrnas Unedig.

Mae Katherine yn hyfforddwr ardystiedig ac yn siarad yn gyhoeddus ar faterion fel y menopos ac iechyd menywod. Mae hi hefyd yn Sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr ar FluxState Ltd. Mae Katherine yn ‘falch o’r cyfle hwn i sicrhau bod fy ngwaith clinigol a’m gwaith eirioli yn cyd-fynd â’r nod rydym ni’n ei rannu, sef cryfhau lleisiau menywod a phobl a ddynodwyd yn fenywod adeg eu geni, a sicrhau bod eu profiadau nhw yn dylanwadu ar bolisi, dyluniad a darpariaeth y gwasanaeth yng Nghymru.

Geeta Kumar

Mrs Geeta Kumar

Mae Geeta yn Obstetregydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol ac yn arwain Gwasanaethau i Fenywod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hi hefyd yn Is-lywydd ar Ansawdd Clinigol yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae ei diddordebau clinigol yn cynnwys anhwylderau mislif a’r menopos. Fel eiriolwr ymroddedig dros leisiau menywod, mae Geeta yn cefnogi FTWW ac yn hyrwyddo gofal teg a newidiadau a arweinir gan y cleifion ym maes gofal iechyd.

Dawn Owen

Dr Dawn Owen

Mae Dawn yn aelod gwirfoddol o FTWW ers 2020, yn dilyn trawma iechyd a arweiniodd at fenopos llawfeddygol. Yn ôl Dawn, mae’r gefnogaeth a’r cyfeillgarwch mae hi wedi ei gael gan gymheiriaid, yn ogystal â’r cyfleoedd i wirfoddoli ac ymchwilio a geir gan FTWW wedi ei helpu i ail-ysgrifennu ei stori, rhywbeth oedd hi’n meddwl fyddai’n amhosibl ar ôl y llawdriniaeth.

Mae Dawn wedi cymhwyso fel Seicolegydd Clinigol ers 2003 ac yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth fel rhan o wasanaeth i gleifion mewnol yng Ngogledd Cymru. Mae hi wedi ymroi ei gyrfa i gefnogi ac eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaeth sydd ar yr ymylon neu heb eu clywed. Mae hi’n edrych ymlaen at gyfrannu ymhellach at waith FTWW fel aelod o'r Grŵp Cynghori Clinigol.

Dr Charlotte Jones

Dr Charlotte Jones

Mae Charlotte yn Feddyg Teulu yn ne Cymru ac mae ganddi brofiad helaeth o ofal cleifion ac addysg feddygol. Mae hi’n cydweithio ar ddatblygu rhaglenni addysg meddygol dylanwadol a strategaethau eirioli.

Mae gan Charlotte brofiad o arweinyddiaeth uwch ym maes ymarfer clinigol a gwleidyddiaeth feddygol, ac ers ugain mlynedd mae hi wedi bod yn llunio gwerthusiadau addysgol ac yn datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y claf i glinigwyr eu defnyddio. Nid yw’n syndod felly bod ganddi ddealltwriaeth dda o ofal iechyd proffesiynol ac anghenion cleifion, a phrofiad gwirioneddol o’r heriau sy’n wynebu’r ddarpariaeth gofal iechyd. Mae hi’n falch o allu cefnogi gwaith FTWW fel aelod o'r grŵp cynghori clinigol.

Janine Dailey

Janine Dailey

Ers symud i Orllewin Cymru yn 2006, mae Janine wedi bod yn unigolyn blaenllaw ym maes gofal ymataliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae ganddi gefndir fel Nyrs glinigol arbenigol ym maes Ymataliaeth, ac mae wedi chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid y gwasanaeth a ddarperir - yn bennaf drwy sefydlu gwasanaeth rhagnodi ymataliaeth canolog cyntaf y Bwrdd Iechyd. Ar hyn o bryd mae hi’n Nyrs Arweiniol ar gyfer Iechyd y Bledren, y Coluddyn a’r Pelfis.

Mae Janine wedi ymroi i wella bywydau unigolion sy’n profi materion iechyd sy’n ymwneud â’r bledren a’r coluddyn, ac yn ceisio cael gwared â’r stigma drwy hyrwyddo gofal agored sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ei gwaith yn grymuso pobl i reoli eu symptomau gydag urddas a hyder.

Mae hi’n cyfrannu at gynadleddau a fforymau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Fforwm Ymataliaeth Cymru Gyfan ac wrth gwrs, Bwrdd Cynghori Clinigol FTWW. Mae Janine yn arwain y ffordd at newidiadau trawsnewidiol, ac yn parhau i sbarduno arloesedd mewn modelau gofal sy’n cynnwys yr unigolyn ym mhob penderfyniad.

Mr Caleb Igbenehi

Bywgraffiad ar y ffordd yn fuan!

Bod yn wirfoddolwr

Dechreuodd FTWW fel cymuned yn cael ei harwain gan wirfoddolwyr ac mae'r rheini'n dal yn ganolog ymhob peth a wnawn.

cyCymraeg