Gwirfoddoli

Dechreuodd FTWW fel cymuned yn cael ei harwain gan wirfoddolwyr ac mae'r rheini'n dal yn ganolog ymhob peth a wnawn.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y pethau y mae ein gwirfoddolwyr yn eu gwneud, a sut gallwch chithau gymryd rhan.

Cyfleoedd i wirfoddoli yn FTWW

Mae FTWW yn Fudiad Pobl Anabl, ac mae llawer o'n cefnogwyr yn rheoli problemau iechyd cymhleth a gwanychol, felly rydym ni'n deall bod amser ac egni ein gwirfoddolwyr yn gallu amrywio dros amser. Dyna pam nad ydym ni ddim yn cynnig rolau gwirfoddoli ffurfiol ar hyn o bryd. Er hynny, rydym ni'n croesawu pawb sydd eisiau gwirfoddoli i gefnogi ein cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.  

Gyda beth gallwch chi ein helpu?

Codi ymwybyddiaeth

Mae sawl ffordd o'n helpu ni i godi ymwybyddiaeth am y rhwystrau sy'n bodoli rhag cael gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys mynychu digwyddiadau, rhannu ein negeseuon cymdeithasol a chyfrannu at geisiadau'r cyfryngau.

Codi arian i FTWW

Mae'r arian a godir gan ein gwirfoddolwyr i FTWW yn ein helpu ni i ymgyrchu ac eiriol dros gleifion ledled Cymru. Os ydych chi eisiau codi arian i FTWW, cysylltwch.

Cymryd rhan mewn arolygon, grwpiau ffocws ac ymchwil

Rydym ni eisiau sicrhau bod eich barn a'ch profiad yn cael eu clywed gan y bobl sy'n gweithio i wella gofal iechyd yng Nghymru.

Rhannu eich stori

Mae profiad bywyd yn rhan ganolog o'n gwaith. Drwy rannu eich stori ar ein gwefan, byddwch chi'n helpu pobl eraill i ddeall eu hiechyd eu hunain a sut i gael y driniaeth angenrheidiol.

Sut i gymryd rhan

Bod yn wirfoddolwr

Llenwch y ffurflen fer yma i ddweud sut mae gennych chi ddiddordeb mewn helpu. 

Byddwn ni'n cysylltu â chi i roi gwybod am gyfleoedd sy'n berthnasol i chi.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Rydym ni'n roi negeseuon yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth a chyfleoedd gyda'n cefnogwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid. Dilynwch ni i gael gwybodaeth yn syth i'ch ffrwd chi, a chofiwch rannu ein cynnwys i'n helpu ni i gyrraedd mwy o bobl yng Nghymru a'r tu hwnt!

Ewch i'n cyfryngau cymdeithasol drwy glicio ar yr eiconau isod:

Cofrestrwch i gael newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf

Ydych chi eisiau clywed drwy e-bost gan FTWW am y newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd i godi arian ? Cofrestrwch nawr i ymuno â'n rhestr bostio:

Newyddion a blogiau am wirfoddolwyr

What We’ve Been Doing This Month – September

Beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud y mis yma - Medi

Celebrating Inclusivity in Research in Wales, Senedd Debate on Women’s Health Inequality in Rural Areas, Bangor University Women’s Health Symposium, North Wales Engagement Practitioners Forum, and Endometriosis UK: Living with Endometriosis Celebrating Inclusivity in...

cyCymraeg