Eiriolaeth
Rydym ni'n trefnu i'r rhai sy'n llunio polisïau a darparwyr gwasanaethau i ddod at gleifion sy'n 'arbenigwyr drwy brofiad'. Mae hyn yn sicrhau bod lleisiau benywaidd yn cael eu clywed a'u bod yn gallu dylawadu ar newid cadarnhaol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym ni'n eiriol dros ein cymuned drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i aelodau, buddiolwyr a gwirfoddolwyr gymryd rhan a dweud eu dweud wrth ddylunio gwasanaethau iechyd, ymchwilio iddynt, eu llywodraethu a'u cynllunio. Rydym ni hefyd yn ymateb i ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a'r GIG ar ran ein haelodau.
Rydym ni hefyd yn hwyluso cyfleoedd ar y cyfryngau rhwng darparwyr newyddion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a'n haelodau, ac rydym ni'n cynnig cyrsiau hyfforddi i'n gwirfoddolwyr er mwyn rhoi'r gallu iddynt eiriol drostynt eu hunain, dros y gymuned cleifion yn ehangach, a thros FTWW ei hun.
Gwybodaeth
Rydym ni'n sicrhau bod y bobl sy'n cael cymorth gennym yn gallu cael gwybodaeth er mwyn iddynt ddeall eu cyflwr yn well a gwybod pa wasanaethau sydd angen.
Grymuso
Drwy gymorth gan gymheiriaid rydym ni'n grymuso ein haelodau i fagu hyder a gallu delio'n well â'u gofal iechyd.