Cyd-gynhyrchu
Beth yw 'cyd-gynhyrchu' a pham mae'n bwysig i ni yn FTWW?
Cip...
- Cyd-gynhyrchu yw pan fo gweithwyr meddygol proffesiynol a phobl sydd â phrofiad bywyd (sy'n aml yn ddefnyddwyr gwasanaethau) yn gweithio gyda'i gilydd i ganfod atebion i heriau mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau
- Yng Nghymru, nid oes gofyniad cyfreithiol i weithio â dinasyddion wrth ddylunio a darparu gwasanaethau iechyd
- Mae FTWW yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn cael eu cynnwys – neu'n cyd-gynhyrchu – yn enwedig mewn 'gwasanaethau iechyd menywod', fel mamolaeth a gynecoleg
Pam mae cyd-gynhyrchu yn bwysig i FTWW
Cafodd FTWW ei sefydlu i ddod â chleifion yng Nghymru at ei gilydd i rannu ein barn a'n heriau wrth gael gafael ar y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnom. Mae hyn yn parhau'n rhan greiddiol o'n gwaith.
Rydym ni'n credu'n gryf mewn sianelu'r profiadau hyn mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i'n hiechyd a'n bywydau, fel bod yr annhegwch iechyd sy'n wynebu menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn gallu cael ei ddeall, ei drin a'i atal yn y dyfodol.
Gwyddom mai'r unig bryd y bydd hyn yn digwydd yw pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol, sef llywodraethau, byrddau iechyd, clinigwyr, academwyr, addysgwyr, cyflogwyr ac ati. Mae'n bwysig iawn i ni fod pobl sydd â phrofiad bywyd, sydd â thoreth o wybodaeth ac arbenigedd yn sgil hynny, yn chwarae rhan gyfartal yn y gwaith o wneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys dylunio a gwerthuso'r gwasanaethau a gawn. Cyd-gynhyrchu yw'r enw ar hyn.
Yn gryno, cyd-gynhyrchu yw pan fo gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth â phobl sydd â phrofiad bywyd, i ddatblygu atebion i heriau mewn gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Gallwch chi ddarllen rhagor am gyd-gynhyrchu a beth mae hynny yn ei olygu ar wefan Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru. yma (saesneg yn unig).
Cyd-gynhyrchu mewn gofal iechyd yng Nghymru
Mae egwyddorion cyd-gynhyrchu wedi'u gwreiddio yn rhai o ddeddfwriaeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol and the Social Services and Wellbeing Act. Er hynny, ar hyn o bryd, o ran dylunio a darparu gwasanaethau iechyd, nid oes yr un math o ofyniad cyfreithiol i weithio gyda dinasyddion.
Gan nad oes deddfwriaeth, mae FTWW yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn cael eu cynnwys – neu'n cyd-gynhyrchu – ar lawr gwlad, yn GIG Cymru ac yn ein 7 bwrdd iechyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn gwasanaethau a elwir yn aml yn 'wasanaethau iechyd menywod', fel mamolaeth a gynecoleg, oherwydd bod tystiolaeth yn ddiweddar i ddangos bod peidio â gwrando ar leisiau menywod yn gallu arwain at niwed, er enghraifft yn yr Adolygiad Annibynnol o Ddiogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Julia Cumberlege, o'r enw “First Do No Harm”.
Yn amlwg, fe wyddom nad yw iechyd menywod yn bodoli o fewn gwasanaethau mamolaeth a gynecoleg yn unig felly rydym ni'n parhau i godi ymwybyddaeth ac yn cefnogi ein haelodau i gyfrannu at y gwaith o ddylunio gwasanaethau iechyd eraill hefyd, yn enwedig wrth i GIG Cymru greu Cynllun 10 mlynedd ar gyfer Iechyd Menywod. Gallwch chi ddarllen mwy am y Cynllun yma (saesneg yn unig). Un o'r prif argymhellion oedd bod y Cynllun yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda'r cyhoedd a'r cleifion. Mae'r argymhelliad yn cael ei ailadrodd yn Adroddiad Darganfod GIG Cymru 'Iechyd Menywod yng Nghymru', sy'n seiliedig ar bron i 4000 o ymatebion i arolwg. Mae'r adroddiad yn disgrifio sut mai'r brif flaenoriaeth i fenywod, ni waeth beth yw'r materion iechyd sydd ganddynt, yw bod rhywun yn gwrando arnynt wrth iddynt gael gofal iechyd.
Enghreifftiau o gyd-gynhyrchu
Yn y cyfamser, un enghraifft dda o pryd y mae FTWW yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod cleifion yn cyfrannu at y broses o ddylunio, darparu a gwerthuso gofal iechyd yw yng Ngogledd Cymru, yng Nghyfarwydiaeth Menywod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle rydym ni wedi helpu i sefydlu'r Fforwm Lleisiau Gynecoleg. Mae Lleisiau Gynecoleg Gogledd Cymru yn ffordd bwerus iawn i gleifion rhannu eu profiadau a'u barn, a gweithio gyda chlinigwyr a rheolwyr i ddatblygu gwybodaeth a dulliau o ddarparu gofal sy'n diwallu ein hanghenion. Mae Lleisiau Gynecoleg wedi cael ei gynnig fel model o arferion da yn Adroddiad Gweithlu Coleg Brenhinol yr Obsetregwyr 2022 (tudalen 64), ac yn fwy diweddar, yn e-fwletin Iechyd Cyhoeddus Cymru Gorffennaf 2024 yma. Ein cenhadaeth yw helpu i sefydlu fforwm Lleisiau Gynecoleg ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
