Grymuso
Drwy gymorth gan gymheiriaid rydym ni'n grymuso ein haelodau i fagu hyder a gallu delio'n well â'u gofal iechyd.
Dechreuodd FTWW fel grŵp Facebook, ond erbyn hyn mae gennym ni bresenoldeb ar Facebook, Instagram, Twitter a LinkedIn, lle rydym ni'n rhannu gwybodaeth ac yn dod â phobl at ei gilydd.
Yn ein cymuned ar-lein, rydym ni'n lleihau'r teimlad o fod wedi ynysu ac rydym ni'n darparu lle diogel i aelodau rannu eu profiadau a'u doethineb er mwyn helpu eraill. Mae ein cymuned yn meithrin hyder yn ei haelodau, gan eu grymuso i herio'r rhwystrau sy'n eu gwneud yn anabl – gan gynnwys gofal iechyd sy'n aneffeithiol.
Rydym ni'n helpu ein haelodau i gael gwared ar y cywilydd a'r tabŵ sy'n aml yn gysylltiedig â'r cyflyrau iechyd y maen nhw'n gorfod byw â nhw, gan eu helpu i deimlo'n hyderus i siarad yn agored am eu symptomau yn eu gweithleoedd, eu mannau addysgol ac ymysg teulu a ffrindiau.
Rydym ni hefyd yn annog ein haelodau i gymryd rhan mewn prosesau gwleidyddol; ymateb i ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a'r GIG, a chysylltu â'u swyddogion etholedig i godi ymwybyddiaeth am y materion sy'n effeithio arnynt.
Gwybodaeth
Rydym ni'n sicrhau bod y bobl sy'n cael cymorth gennym yn gallu cael gwybodaeth er mwyn iddynt ddeall eu cyflwr yn well a gwybod pa wasanaethau sydd angen.
Eiriolaeth
Rydym ni'n trefnu i'r rhai sy'n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau ac arbenigwyr drwy brofiad ddod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a'u bod yn gallu dylanwadu ar newid cadarnhaol pan fydd gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu.