Rydym wrth ein bodd yn mynychu gŵyl eleni ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf ym Mhafiliwn Grange yng Nghaerdydd, gan ddathlu popeth sy'n ymwneud â mislif, genedigaeth, y menopos - a phopeth rhyngddynt!
Bydd Dee ar banel ochr yn ochr â chydweithwyr o EYST, BAWSO, a Mothers Matter, yn trafod ‘Cymuned yw'r Feddyginiaeth Goll: Sut mae’r trydydd sector yn llenwi’r bylchau a adawyd ar ôl.’ Bydd gwirfoddolwyr FTWW hefyd yn bresennol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth wrth fwrdd FTWW.
Mae panelwyr eraill yn cynnwys Rhieni ac Athrawon dros Balestina, y bardd Taylor Edmonds, a Rhieni Cwiar Caerdydd, a bydd cyfres o weithdai gan gynnwys Ioga, Qi Gong, Ioga Nidra, cadw dyddiadur, a chwarae synhwyraidd babanod.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni - dim ond £15 yw pris y tocynnau am ddiwrnod cyfan o sgyrsiau, gweithdai a dosbarthiadau, a gall pobl dan 18 oed fynychu am ddim!!
Gallwch hefyd rannu tudalen y digwyddiad ar Facebook gyda ffrindiau a theulu yma.