Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) yn chwilio am

Cydlynydd Gwirfoddolwyr a Chymuned

Mae'r swydd hon bellach wedi cau, a byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd erbyn diwedd mis Medi.

Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) yn chwilio am Gydlynydd Gwirfoddolwyr a Chymuned yn llawn-amser! Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cryfhau gweithgarwch cymunedol drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol ac aelodau o'r cyhoedd, gan gynyddu ein cyrhaeddiad a nifer y gwirfoddolwyr. Byddant yn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi a'u paratoi i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Mae'r swydd lawn-amser hon wedi'i lleoli gartref ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, a bydd angen teithio i ddigwyddiadau a chyfarfodydd o bryd i'w gilydd, felly byddai trwydded yrru a char yn fantais.

Rydym yn elusen fach ond grymus lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Efallai y byddwch yn ymwneud â gwaith hwyluso digwyddiad cyd-gynhyrchu ar-lein un diwrnod, ac yn siarad yn y Senedd y diwrnod nesaf, felly mae sgiliau cyfathrebu rhagorol yn hanfodol. Ar hyn o bryd mae gennym dros 90 o wirfoddolwyr cofrestredig a rhan allweddol o'r rôl fydd datblygu ein rhaglen wirfoddoli.  Fel tîm bach, byddwch hefyd yn cefnogi ein Cydlynydd Ymgysylltu sy’n gweithio’n rhan-amser, felly bydd digon o gyfle i ddangos eich sgiliau creadigol hefyd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg, neu’r parodrwydd i ddysgu, yn ddymunol. Mae hi’n bosibl y byddwn hefyd yn ystyried oriau rhan-amser, neu rannu swydd ar gyfer yr ymgeiswyr addas. Nodwch yn eich cais os yw hyn yn berthnasol i chi.

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a darparu geirdaon cyn i unrhyw gynnig cyflogaeth gael ei wneud.

Os oes angen i chi wneud cais mewn fformat amgen neu hygyrch, anfonwch e-bost at admin@ftww.org.uk

Ein tîm

Ni fyddai FTWW yn bodoli heb ein tîm ymroddgar o staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr.

cyCymraeg