Ffibroidau
Mae ffibroidau’n gyffredin iawn – bydd tua dwy o bob tair menyw a pherson ag wterws yn cael ffibroidau ar ryw adeg yn eu bywydau. Gan nad yw ffibroidau’n dyfiannau sy’n ganser a chan eu bod mor gyffredin, gall eu symptomau a’u heffaith gael eu camddeall neu’u diystyru’n aml.
Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am ffibroidau ac am ein gwaith i godi ymwybyddiaeth o’r effaith y gallant ei chael ar ansawdd bywyd.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw ffibroidau?
- Mae ffibroidau yn dyfiannau nad ydynt yn ganser sy'n datblygu yn y groth (yr wterws) neu o’i hamgylch.
- Mae’r tyfiannau wedi’u gwneud o gyhyr a meinwe ffibrog, ac maent yn amrywio o ran eu maint. Gall rhai ffibroidau fod mor fach â physen, ond gallant fod mor fawr â melon.
- Bydd ffibroidau fel arfer yn ymddangos mewn pobl 30 i 50 oed. Maent yn fwy cyffredin ymhlith menywod o gefndir Affricanaidd-Caribïaidd.
Mae angen gwneud mwy o ymchwil i bennu beth sy’n achosi ffibroidau, ond maent wedi’u cysylltu â’r hormon oestrogen. Mae’n bosibl eu bod yn tyfu’n gyflymach pan fydd lefelau oestrogen yn uwch. Mae lefelau oestrogen pobl sydd dros bwysau yn dueddol o fod yn uwch, felly maent yn fwy tueddol o gael ffibroidau. Fodd bynnag, gall ffibroidau effeithio ar bobl o unrhyw bwysau, cefndir, neu oedran.
Ni fydd gan y rhan fwyaf o fenywod â ffibroidau (tua dwy o bob tair) unrhyw symptomau. Fodd bynnag, bydd gan un o bob tair symptomau, a gallant gynnwys mislif trwm a/neu boenus, poen pelfig, poen yn rhan isaf y cefn, bol chwyddedig, angen pasio dŵr yn amlach, rhwymedd, a phoen yn ystod rhyw. Weithiau, gall mislif trwm arwain at anemia diffyg haearn, cyflwr sy’n achosi blinder a gwendid eithafol. O bryd i’w gilydd, gall ffibroidau mawr iawn ei gwneud yn anodd beichiogi.
Yn anffodus, gan fod mislif trwm neu boenus yn aml yn cael ei ystyried yn ‘normal’, gall menywod oedi cyn gofyn am gymorth, neu gallant deimlo nad oes neb yn eu cymryd o ddifrif pan fyddant yn gwneud hynny. Yn yr un modd, gan fod ffibroidau’n dueddol o fod yn fwy cyffredin ymhlith y rheini sydd dros bwysau, bydd cleifion yn dweud weithiau eu bod yn ei chael yn anodd cael meddygon i ymchwilio’n iawn i’w symptomau hyd nes eu bod wedi colli pwysau. Mewn gwirionedd, hyd yn oed pan fydd pobl wedi colli pwysau, gall symptomau’u ffibroidau barhau.
O ran gwneud diagnosis, caiff ffibroidau eu canfod yn aml drwy ddefnyddio sgan uwchsain pelfig. Gall y dewisiadau o ran triniaeth amrywio o feddyginiaeth i leihau gwaedu neu boen, triniaethau fel claf allanol i drin ffibroidau bach, neu lawdriniaeth i dynnu ffibroidau mwy, rhywbeth a elwir yn ‘myomectomi’. Mewn rhai achosion, gall cleifion a’u meddygon benderfynu mai’r dewis gorau yw llawdriniaeth i dynnu’r groth (hysterectomi).
Nid yw pob triniaeth yn gweithio’n dda i bawb. Gall rhai meddyginiaethau achosi sgileffeithiau. Gall rhai triniaethau, fel hysterosgopi, fod yn boenus i gleifion, yn enwedig os na ddefnyddir mesurau da i leddfu poen. Gall llawdriniaeth fod yn effeithiol, ond mae risgiau ynghlwm wrthi – a gall ffibroidau aildyfu weithiau mewn cleifion nad yw eu croth yn cael ei thynnu.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am symptomau ffibroidau a thriniaethau ar eu cyfer drwy fynd i wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw tynnu sylw at yr effaith y gall ffibroidau ei chael ar y rheini y maent yn effeithio arnynt, a sut y gall rhagfarnau ei gwneud yn anoddach cael gafael ar gymorth weithiau.
Bydd ffibroidau’n effeithio ar ddau draean o fenywod a phobl ag wterws – mae hynny’n gyfystyr â thros filiwn o fenywod yng Nghymru yn unig! Bydd tua 300,000 o’r rheini’n cael symptomau i raddau mwy neu lai. Gan fod ffibroidau mor gyffredin, efallai mai hynny sydd i gyfrif am y ffaith nad yw’r symptomau hyn yn cael eu cymryd o ddifrif fel y dylent, hyd yn oed pan fyddant yn effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd menywod.
Nid oes digon o ymchwil glinigol yn cael ei gwneud yn gyffredinol i faterion iechyd sy’n effeithio ar fenywod ac, o ran ffibroidau, mae hyn yn golygu nad ydym yn sicr o hyd beth sy’n eu hachosi. Heb fwy o sicrwydd o ran yr hyn sydd wrth wraidd ffibroidau, gall fod yn anodd eu hatal neu’u trin yn foddhaol.
Drwy godi ymwybyddiaeth o effaith ffibroidau ar ansawdd bywyd, gallwn annog mwy o ymchwil i’r hyn sy’n eu hachosi, ffyrdd o’u trin, a ffyrdd o’u gwella, gan wella profiadau a chanlyniadau cleifion yng Nghymru.
Yng Nghymru, rydym yn gwybod y gall pobl â ffibroidau wynebu oedi hir cyn cael diagnosis ac, os oes angen triniaeth lawfeddygol arnynt, gall fod rhaid iddynt aros yn hir i weld gynaecolegydd.
Gall llawer o’r symptomau sy’n gysylltiedig â ffibroidau, fel mislif trwm a phoenus, gael eu hystyried yn ‘normal’, yn yr un modd â’r angen i basio dŵr yn amlach, yn enwedig pan fydd menywod yn cyrraedd canol oed.
Gall rhai pobl deimlo embaras neu deimlo bod trafod y materion hyn yn ‘tabŵ’, a gall pasio dŵr yn aml fod yn destun sbort. O ganlyniad, gall gymryd yn hirach i’r rheini y mae’r symptomau hyn yn effeithio arnynt ofyn am gymorth.
Pan fyddant yn gofyn am gymorth gan ddarparwyr gofal iechyd, mae pobl sy’n byw gyda ffibroidau’n dweud wrthym y gallant wynebu rhwystrau rhag cael diagnosis cynnar a thriniaeth gynnar, gan gynnwys:
- Cael rhywun yn dweud wrthynt nad yw’r symptomau’n bethau i boeni yn eu cylch, hyd yn oed pan fydd y symptomau hynny’n effeithio ar ansawdd eu bywydau ac yn achosi problemau iechyd ehangach
- Cael rhywun yn dweud wrthynt bod eu symptomau’n gysylltiedig â’r ffaith eu bod dros bwysau, ond heb gynnig unrhyw gymorth na chynhorthwy iddynt er mwyn iddynt golli pwysau. Yn aml, gall y symptomau barhau ar ôl i’r unigolyn golli pwysau, felly gall ddioddef am gyfnod hir
- Wynebu rhagfarn mewn lleoliadau gofal iechyd, rhywbeth sy’n gallu peri i gleifion gael profiadau gwael pan fyddant yn mynd i apwyntiadau. Mae tystiolaeth yn dangos y gall menywod o liw ei chael yn anoddach cael eu symptomau wedi’u cymryd o ddifrif a’u dymuniadau wedi’u hystyried pan fyddant yn gofyn am gymorth meddygol. Mae hwn yn annhegwch y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef, yn enwedig gan fod ffibroidau’n fwy cyffredin ymhlith menywod o gefndir Affricanaidd-Caribïaidd.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- mynd i’r afael â’r gamdybiaeth, gan nad ydynt yn dyfiannau sy’n ganser, nad yw ffibroidau o bwys neu na fyddant yn achosi symptomau sy’n gallu effeithio ar iechyd a llesiant pobl
- mynd i’r afael â’r tabŵau o ran mislif trwm a phoenus a all fod yn rhwystr rhag cael gafael ar gymorth, cynhorthwy a gofal iechyd pan fydd ei angen arnom
- rhoi’r gorau i normaleiddio gollwng wrin a ‘phasio dŵr yn aml’ a rhoi’r gorau i’w wneud yn destun sbort, oherwydd gall fod yn symptom problem iechyd y mae angen ymchwilio iddi a’i thrin
- annog buddsoddi mewn ymchwil i faterion fel ffibroidau er mwyn i ni allu pennu’r hyn sydd wrth wraidd ffibroidau, eu hatal, a’u trin yn fwy effeithiol
- nodi rhagfarnau diarwybod mewn lleoliadau meddygol, eu herio a mynd i’r afael â nhw, a’r rheini’n rhagfarnau diarwybod sy’n gallu ei gwneud yn anoddach i gleifion gael mynediad at ofal iechyd amserol a phriodol
- gweld hyfforddiant ar gyfer darparwyr gofal iechyd yn cael ei ddylunio a’i ddarparu gan bobl â phrofiad bywyd o’r cyflwr er mwyn gwella profiadau cleifion.
Ein hyrwyddwr Carina H

"Cefais ddiagnosis o ffibroidau 8 mlynedd yn ôl. Ar y pryd roeddwn i wedi derbyn bod fy mislifoedd trwm yn rhywbeth arferol, ond roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o’i le oherwydd roeddwn i’n gallu teimlo lwmpyn yn ddwfn yn fy abdomen.
Byddwn i'n newid fy amddiffyniad mislif bob 20-30 munud trwy gydol y dydd a hefyd yn y nos. Cafodd hyn effaith fawr ar fy nghwsg. Byddwn i’n gwisgo cwpan lleuad, pad hylendid brethyn, a phants mislif i ddelio â'r gwaed roeddwn i’n ei golli, ond byddwn i’n dal i gael gollyngiadau’n aml.
Cefais wybod bod ffibroidau’n fwy amlwg mewn pobl o gefndiroedd Affro-Caribïaidd, ond ni roddwyd unrhyw reswm am hyn. Dywedwyd wrthyf hefyd mai hysterectomi oedd y ffordd fwyaf cyffredin o weithredu ond gan fy mod i eisiau cael plant, cafodd hyn ei ohirio.
Dros amser, gwaethygodd fy symptomau, gan gynnwys poen cefn a chlun dyddiol, lwmpyn gweladwy a stumog chwyddedig anffurfiedig, colli llawer o waed, anemia, anymataliaeth, anhawster anadlu, a gorbryder cynyddol. Cefais lawdriniaeth a dynnodd 11 o ffibroidau - roedd y 3 mwyaf tua’r un maint ag oren bach.
Rydw i wedi gorfod hunan-eirioli dros y gofal iechyd rydw i wedi'i gael, gan gynnwys cael fy ngorfodi i wneud cwynion oherwydd diffyg cyfathrebu neu ofal cydlynol. Mae oedi a chanslo wedi achosi llawer o straen a gofid i mi. Am y rhesymau hyn, rwy'n falch o fod yn Bencampwr Ffibroidau FTWW, fel y gallaf godi ymwybyddiaeth o'r effaith y gall y cyflwr hwn ei chael ar gorff ac ansawdd bywyd person. Rwy'n siomedig gyda’r diffyg cymorth sy’n cael ei gynnig gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd i bobl sydd â’r cyflwr hwn ac eisiau newid hyn i’r rhai a ddaw ar f’ôl.
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym wrthi’n datblygu ein hymgyrch o ran ffibroidau, ond amlinellir rhai o’r pethau a gyflawnwyd gennym hyd yma yn y maes hwn isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Rydym wedi creu taflen ddwyieithog i godi ymwybyddiaeth o’n hymgyrch ffibroidau
- Bu i ni sicrhau bod straeon ein haelodau a gwybodaeth am ffibroidau yn rhan o’r sylw a roddwyd gan y cyfryngau ledled Cymru i’r rhestrau aros cynyddol ar gyfer gwasanaethau gynaecolegol
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Bu i ni sicrhau bod profiadau cleifion o geisio cael mynediad at ofal iechyd ar gyfer ffibroidau wedi’i gynnwys yn ein hymateb i ymgynghoriad GIG Cymru ynghylch ei broses ‘Gweithio i Wella’, gan helpu i osod sail ar gyfer y ffordd yr ymchwilir i bryderon a chwynion ynghylch gwasanaethau’r GIG
- Rydym yn cydweithio â’r Rhwydwaith Gweithredu Gynaecolegol clinigol cenedlaethol yng Nghymru i wella’r gofal a ddarperir i gleifion â phroblemau gynaecolegol nad ydynt yn gysylltiedig â chanser, fel ffibroidau
- Rydym yn ymwneud â’r gwaith o gydgynhyrchu Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru sy’n rhoi sylw i ffibroidau yn un o’i wyth maes blaenoriaeth, ‘Iechyd Mislifol’ (tudalen 50).‘Menstrual Health’ (p50)
Newyddion a blogiau cysylltiedig
FTWW yn cyflwyno yng Nghynhadledd Flynyddol Cymru Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr
We were thrilled to be invited to the Royal College of Obstetricians and Gynaecologists (RCOG) Wales Annual Conference with around 100 obstetricians and gynaecologists across Wales on 7th November, to present alongside Cardiff University's Dr Robyn Jackowich and...
Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn
As part of BBC Radio Wales’ coverage of the petition to UK Parliament calling for statutory menstrual leave for people with endometriosis and adenomyosis, FTWW Engagement Coordinator, Dee, spoke to BBC Radio Wales about the importance of ensuring that disabled and...
Period Proud Launched
"That's one of the reasons why I'm talking about it now, as I don't want anyone else to go through this" - FTWW Volunteer Dee Dickens We are delighted that the Welsh Government has launched Period Proud, an intersectional plan that FTWW and volunteers - including Dee...
Storïau am ffibroidau
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Taflen ddwyieithog FTWW am ffibroidau
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru


