PMDD (Anhwylder Disfforig Cyn Mislif)

Mae PMDD yn fath mwy difrifol o'r Syndrom Cyn Mislif (PMS) sy'n fwy cyfarwydd, a chredir ei fod yn effeithio ar 1 ymhob 20 o fenywod.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am PMDD a'n gwaith i wella mynediad at ofal iechyd ar gyfer y mater iechyd hwn.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol

What is Premenstrual Dysphoric disorder (PMDD)

  • Mae PMDD yn anhwylder hormonaidd sy'n effeithio yn ystod cylch y mislif ar fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif
  • Credir ei fod yn effeithio ar 1 ymhob 20 o fenywod yng Nghymru
  • Gall symptomau PMDD gael effaith fawr ar ansawdd bywyd rhywun

Mae PMDD yn fath mwy difrifol o'r PMS (Syndrom Cyn Mislif) sy'n fwy cyfarwydd.

Gall symptomau PMDD amrywio ond gallant gynnwys symptomau seicolegol, emosiynol a chorfforol eithafol, sy'n digwydd yn ystod cyfnod lwteal y mis (yn dechrau tua diwrnod 15 o gylch 28 diwrnod cyffredin) ac sy'n clirio pan fydd cyfnod y mislif yn cyrraedd.

Gall symptomau yn sgil newidiadau hormonaidd fod yn amrywiol a gwanychol.

Gall newidiadau mewn hwyliau amrywio o grïo i deimlo'n ddig, pigog neu sensitif, fel bod pobl yn teimlo allan o reolaeth a dan deimlad. Gall pobl â PMDD deimlo'n ddigalon, di-werth a meddwl am hunanladdiad. Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo'n bryderus neu'n mynd i banig, neu'n profi lefel isel o egni ac ymennydd niwlog sy'n effeithio ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Mae newidiadau mewn archwaeth a chwsg yn gyffredin hefyd, yn ogystal â symptomau corfforol fel teimlo'n chwyddedig, y bronnau'n dyner, poen yn y corff, neu newidiadau mewn patrwm ysgarthu.

I roi diagnosis o PMDD, bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn debygol o ofyn i gleifion olrhain eu symptomau ochr yn ochr â'r cylch misol am ddau fis yn olynol. Nid oes profion gwaed, poer na delweddu ar gyfer PMDD.

Mater personol iawn yw dewis triniaeth ar gyfer PMDD; does dim dewis unigol yn addas i bawb sydd â PMDD, ac mae'n wastad yn syniad holi eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am gyngor.

Gall y dewisiadau o driniaethau gynnwys meddyginiaethau fel cyffuriau gwrthiselder, neu ddulliau atal cenhedlu fel y bilsen, coil Mirena neu jeliau a phatsys hormonaidd. Gall newidiadau i ffordd o fyw, fel deiet ac ymarfer corff, helpu hefyd gyda symptomau PMDD, a gall therapïau siarad fel therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) fod yn ddefnyddiol i helpu gyda materion iechyd meddwl.

Triniaethau eraill yw menopos a gaiff ei ysgogi'n gemegol, ac fel y dewis olaf, llawdriniaeth i dynnu'r ofarïau ac weithiau'r groth (wterws).

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau a thriniaethau ar gyfer PMDD ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).

Os ydych chi'n teimlo eich bod ar fin gwneud niwed i chi eich hun, ffoniwch 999 am ambiwlans neu ewch yn syth i'r uned damweiniau ac argyfwng neu ffoniwch y Samariaid (ffoniwch am ddim ar 116 123).

Beth rydym ni'n galw amdano?

Ein nod cyffredinol yw gwella ymwybyddiaeth o PMDD yng Nghymru a galluogi gofal mwy cyd-gysylltiedig

Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 12 mlynedd i gael diagnosis o PMDD, gyda llawer o bobl heb ddiagnosis, neu wedi cael diagnosis anghywir. Efallai y bydd rhai pobl â PMDD yn gweld bod eu symptomau'n cael eu normaleiddio neu eu diystyru gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd heb gael eu hyfforddiant ar PMDD. Bydd cleifion PMDD yn gweld 6 gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gwahanol ar gyfartaled cyn cael eu diagnosis.

Yng Nghymru, mae diffyg ymwybyddiaeth o PMDD yn gallu arwain at oedi cyn cael diagnosis, ac anawsterau wrth gael gofal iechyd cydgysylltiedig

  • Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 87,000 o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn byw â PMDD, er nad oes ystadegau ar gael i ddweud faint ohonynt sydd wedi cael diagnosis ac yn cael triniaeth.
  • Bydd 34% o bobl sy'n byw â PMDD yn ceisio lladd eu hunain – yng Nghymru, mae hyn yn cyfateb i 29,000 o bobl
  • Mae 49% o bobl sy'n byw â PMDD wedi cynllunio i ladd eu hunain – yng Nghymru, mae hyn yn cyfateb i 42,000 o bobl
  • Mae 86% o bobl sy'n byw â PMDD wedi meddwl am niweidio eu hunain a hunanladdiad – yng Nghymru, mae hyn yn cyfateb i 75,000 o bobl
  • Mae pobl sy'n byw â PMDD â 60% yn fwy o risg o feddwl am hunanladdiad na'r rhai sydd ag anhwylder iselder mawr.
  • Mae prinder addysg am PMDD yn ysgolion Cymru, ac nid yw pynciau iechyd y mislif fel PMDD yn cael eu categoreiddio fel rhai gorfodol ar y Cwricwlwm Cenedlaethol, sy'n golygu bod cyfleoedd yn cael eu colli i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr hwn ymysg pobl iau, a rhai ohonynt ar ddechrau eu taith iechyd misol neu efallai ag anwyliaid sydd â PMDD heb ei ddiagnosio.
  • Yn y byd gofal iechyd yng Nghymru, nid yw PMDD yn fodiwl gorfodol mewn addysg israddedig nac ôl-raddedig. Mae llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael lefel isel iawn o hyfforddiant ar iechyd y mislif yn gyffredinol, sy'n golygu nad ydynt o bosibl â'r hyfforddiant na'r sgiliau i wneud y cysylltiad rhwng hormonau ac iechyd meddwl. Mae aelodau o FTWW yn dweud wrthym nad yw hi'n anghyffredin i gleifion yng Nghymru beidio â chael y gefnogaeth, y diagnosis na'r driniaeth gywir ar gyfer eu cyflwr.

Mae angen i ni wneud y canlynol:

  • sicrhau bod gwybodaeth ddwyieithog am PMDD ar gael ar wefan pob bwrdd iechyd ac ar wefan GIG Cymru.
  • annog addysg orfodol sy'n briodol i oedran am PMDD yn y cwricwlwm ar Gydberthnasau a Rhywioldeb ar gyfer Cymru (sy'n cynnwys iechyd y mislif).
  • mynd i'r afael â'r tabŵ, y cywilydd a'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd y mislif ac iechyd meddwl, sy'n gallu bod yn rhwystr rhag chwilio am gymorth, cefnogaeth a gofal iechyd.
  • annog mwy o fuddsoddiad yng Nghymru mewn hyfforddiant ac ymchwil ar PMDD a chyflyrau iechyd eraill sy'n gysylltiedig â hormonau.
  • hybu gwelliannau mewn polisi ac ymarfer gofal iechyd yn gysylltiedig â PMDD a chyflyrau eraill iechyd y mislif

Ein hyrwyddwr Laura T

 

"Rwy'n ymgyrchu ar ran FTWW oherwydd petawn i wedi bod yn ymwybodol o PMDD yn gynt, byddwn i wedi cael triniaeth yn gynt, gan wella ansawdd fy mywyd yn fawr. Ni ddylai neb orfod dioddef yn ddiangen am fod diffyg ymwybyddiaeth neu ofal iechyd annigonol. Rwy'n benderfynol o wneud pethau'n well i'r genhedlaeth nesaf — nid dim ond i bobl â PMDD, ond i bob menyw a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Rwy'n credu bod pawb yn haeddu cael mynediad at ofal iechyd priodol ac effeithiol sy'n mynd i'r afael â'u hanghenion. Mae FTWW wedi bod yn ffynhonnell werthfawr o gefnogaeth i mi fel claf, gan fy helpu i weithio fy ffordd drwy fy heriau iechyd fy hun. Yn ogystal â hynny, mae bod yn rhan o FTWW wedi rhoi synnwyr o bwrpas o'r newydd i mi. Mae wedi fy ngrymuso i fod yn rhan o rywbeth mwy na fi fy hun — ymdrech i hybu newid o bwys.

Drwy godi ymwybyddiaeth ac eiriol dros driniaeth deg, gobeithio y gallaf sicrhau nad yw pobl eraill yn wynebu'r un trafferthion â fi, a'u bod yn cael y gofal iechyd angenrheidiol y maen nhw'n ei haeddu."

Ein hyrwyddwr Becci S

 

"Yn 2022, ar ôl cael diagnosis o PMDD (Anhwylder Disfforig Cyn Mislif), dechreuais wirfoddoli gyda FTWW. Daeth yn gwbl amlwg i mi fod menywod ac unigolion a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni ac â PMDD yn wynebu darpariaeth gofal nad oedd yn gydgysylltiedig. Roedd pobl â PMDD yn cael eu rhyddhau o wasanaethau'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol heb y gefnogaeth hanfodol oedd eu hangen arnynt mewn argyfyngau. Cyflwr gynecolegol yw hyn, nid iechyd meddwl.

Des i'n angerddol dros hybu newidiadau systemig lle gallwn i er mwyn cleifion PMDD, er mwyn y rhai a oedd yn wynebu aros am gyfnod poenus o 12 mlynedd ar gyfartaledd am ddiagnosis cywir, ac er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.

Yng Nghymru, mae'n amlwg fod diffyg adnoddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, ac mae hyn yn cyfrannu at rwystrau diangen rhag cael cyngor a chymorth, ac roedd gwahaniaethau yn yr wybodaeth yr oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei chael, ac roedd hyn yn golygu bod cleifion yn aml yn gorfod brwydro am driniaethau diogel, hyd yn oed ar ôl cael diagnosis.

Dylai pawb gael cynnig gofal iechyd diogel a theg ni waeth sut mae hynny'n edrych i bob person. Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael yr offer, yr wybodaeth a'r gefnogaeth i wneud hyn, ac mae gan gleifion ran i'w chwarae. Mae FTWW wedi fy ngalluogi i fod yn rhan o'r newidiadau hyn."

Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?

Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i wella bywydau pobl sy'n byw â PMDD. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:

Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
  • Aeth hyrwyddwyr PMDD o FTWW, sef Becci a Laura, i Gynhadledd Menopos Cymry gyfan, i rannu eu profiadau bywyd o PMDD gydag amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru

  • Siaradodd Becci a Laura yng Ngŵyl Every Woman am fyw â PMDD, ac fe wnaeth Laura a Swyddog Ymgysylltu FTWW, Dee Montague, gyd-gyflwyno Gweithdy "Cynllunio ar gyfer eich Apwyntiadau Meddygol", a addaswyd wedyn ar gyfer cynulleidfa ar-lein – gweld recordiad o'r weminar.

  • Darparodd Laura, Hyrwyddwyr PMDD gyda FTWW, ei stori claf ar gyfer gweminar e-ddysgu ar PMS/PMDD gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a gyd-gynhyrchwyd gyda LTJ Hyrwyddwr Cleifion PMDD ac FTWW.

Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
  • Bu Becci, Hyrwyddwr PMDD FTWW, yn rhan o Storïau Balch o'r Mislif Llywodraeth Cymru, yn disgrifio ei thaith PMDD.

  • Rydym ni'n gweithio gyda GIG Cymru a Mind, yr elusen iechyd meddwl, i wella gwybodaeth ar-lein am PMDD i gleifion yng Nghymru
  • Fe wnaethom ni'n siŵr fod tystiolaeth am PMDD yn cael ei chynnwys yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru a bod cyflyrau fel iechyd y mislif fel PMDD yn cael sylw dyledus yng Nghynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru.
  • Rydym ni'n gweithio gyda'r Rhwydwaith Gweithredu Gynecoleg clinigol cenedlaethol yng Nghymru i wella gofal i gleifion â chyflyrau gynaecolegol nad ydynt yn ganser, fel PMDD.
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
  • Fe wnaeth Becci, Hyrwyddwr PMDD FTWW, ddeiseb lwyddiannus i Lywodraeth Cymru i gynnwys PMDD mewn addysg feddygol ôl-radd. O ganlyniad i hynny, fe wnaeth Prifysgol Caerdydd hefyd ddatblygu modiwl SSC ar PMDD i fyfyrwyr meddygol israddedig.

  • Mae Becci'n cyfrannu at waith Canolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl Cymru drwy fod yn hyrwyddwr ymchwil ar gyfer PMDD
  • Mae FTWW yn eistedd ar Fwrdd Crwn Urddas y Mislif Llywodraeth Cymru, lle mae mynd i'r afael a tabŵs a chynyddu ymwybyddiaeth o iechyd y mislif a chyflyrau iechyd y mislif yn rhan allweddol o strategaeth 'Balch o'r Mislif Cymru'.

Newyddion a blogiau cysylltiedig

Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn

Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn

As part of BBC Radio Wales’ coverage of the petition to UK Parliament calling for statutory menstrual leave for people with endometriosis and adenomyosis, FTWW Engagement Coordinator, Dee, spoke to BBC Radio Wales about the importance of ensuring that disabled and...

Hyrwyddwyr FTWW yn Cyd-gynhyrchu Gwybodaeth PMDD ar gyfer GIG Cymru

Hyrwyddwyr FTWW yn Cyd-gynhyrchu Gwybodaeth PMDD ar gyfer GIG Cymru

Thanks to the efforts and lived expertise of FTWW’s PMDD Champions, Becci and Laura, NHS Wales now offers updated and bilingual information about premenstrual dysphoric disorder and exacerbation on its 111 A-Z pages! Having bilingual information available on a trusted...

PMDD – the hidden link between hormones and mental health

PMDD – the hidden link between hormones and mental health

Episode 11 of the Piece of Mind podcast heard from FTWW member, Becci Smart, to discuss the reality of living with Premenstrual Dysphoric Disorder (PMDD) and the research currently taking place at the NCMH that's looking to learn more to improve diagnosis and...

Storïau am PMDD (Anhwylder Disfforig Cyn Mislif)

Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall

Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.

Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.

cyCymraeg