Sylwch: mae'r dudalen hon wrthi'n cael ei chreu felly gallai'r wybodaeth fod yn anghywir neu'n anghyflawn
Poen yn ystod triniaethau gynecolegol
Mae mân driniaethau gynecolegol yn digwydd i filoedd o gleifion benywaidd bob blwyddyn, ond mae llawer ohonynt yn dweud bod y profiad yn boenus a thrawmatig.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am boen yn ystod mân driniaethau gynecolegol, a'n gwaith ni i wella profiadau o ofal iechyd yn y maes hwn.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw mân driniaethau gynecolegol a pham mae rheoli poen yn fater?
- Mae 'mân driniaethau gynecolegol' yn driniaethau cyffredin iawn, ac yn digwydd i filoedd o gleifion benywaidd bob blwyddyn, ond mae llawer ohonynt yn dweud bod y profiad yn boenus a thrawmatig.
- Gallant gynnwys gosod a thynnu Dyfeisiau yn y Groth (IUDs), sgrinio serfigol a thriniaeth gysylltiedig, a hysterosgopi fel claf allanol.
- Beth bynnag fo'r driniaeth, mae'n bwysig fod cleifion yn teimlo bod ganddynt yr wybodaeth angenrheidiol a'u bod yn cael y profiad gorau posibl – gan gynnwys cael rheoli eu poen yn dda.
Mae mân driniaethau gynecolegol yn ymyriadol fel arfer, a gallant gynnwys:
- Coil (dyfais yn y groth / IUD), a elwir weithiau'n 'Mirena', eu gosod a'u tynnu allan – pan fo dyfais hormonaidd fach i atal beichiogrwydd yn cael ei gosod yn y groth neu'n cael ei thynnu allan
- Hysterosgopi – triniaeth pan fo camera bach yn cael ei ddefnyddio i archwilio y tu mewn i'ch croth
- Colposgopi – triniaeth i archwilio ceg eich croth (serfics)
- LLETZ (torri’r gylchfa trawsffurfio mewn siâp cylch) – triniaeth ar gyfer celloedd serfigol annormal a welir mewn sgriniad serfigol
I gael gwybod am fân driniaeth gynecolegol, ewch i tudalennau gwybodaeth 111 y GIG. Mae rhagor o wybodaeth am fân driniaethau gynecolegol a wneir yn eich ardal chi ar gael drwy chwilio am eich bwrdd iechyd lleol yma.
Fel arfer, mae mân driniaethau gynecolegol yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cleifion allanol, fel meddygfeydd, clinigau iechyd rhywiol ac atgenhedlu, neu unedau achosion dydd mewn ysbytai. Maent yn gyffredin iawn, gyda miloedd yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Serch hynny, mae rhai cleifion yn dweud nad ydynt yn cael digon o wybodaeth ymlaen llaw i ddewis sut a ble y byddent eisiau i'r driniaeth gael ei chynnal.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod nifer fawr o fenywod sy'n cael y triniaethau hyn yn profi poen sylweddol, ac maent yn profi trawma ar eu hôl. Nid yw tawelyddion, anesthetigion, a dulliau lleddfu poen yn cael eu cynnig fel mater o drefn mewn clinigau sy'n cynnal mân driniaethau gynecolegol.
Dangoswyd bod cleifion y mae poen yn effeithio arnynt, neu sydd wedi teimlo nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifri yn y lleoliadau hyn, yn gallu bod yn gyndyn i ofyn am ofal iechyd eto yn y dyfodol. Felly, efallai fod risg nad oes neb yn ymchwilio i'w symptomau neu nad ydynt yn dechrau triniaeth yn amserol.
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw atal cleifion sy'n cael mân driniaethau gynecolegol rhag cael profiadau poenus a thrawmatig a allai eu hatal rhag gofyn am ofal iechyd yn y dyfodol.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw profiadau menywod o boen yn cael eu cymryd o ddifri mewn lleoliadau gofal iechyd, gyda menywod yn llai tebygol o gael dull lladd poen na chael eu trin mor brydlon â dynion.
Yn draddodiadol, mae'r modd y mae menywod yn rhoi gwybod am boen (poen belfig yn arbennig) wedi cael ei normaleiddio a'i ddiystyru, gan arwain at ddisgwyl weithiau i gleifion dioddef poen ddifrifol, gan gynnwys mewn lleoliadau clinigol ar gyfer cleifion allanol.
Gall leihau costau a rhestrau aros ar gyfer darparwyr gwasanaethau iechyd i gynnig mân driniaethau gynecolegol mewn lleoliadau gofal iechyd pan nad yw mynediad at dawelyddion mewnwythiennol ac analgesia ar gael. Serch hynny, mae angen rhagor o ymchwil i ddeall os a sut gall poen a thrawma a brofir arwain at faterion iechyd eraill, megis oedi cyn chwilio am gymorth neu bryderon iechyd meddwl.
Yng Nghymru, mae menywod yn profi poen a thrawma yn ddiangen ystod mân driniaethau gynecolegol. Er bod y triniaethau hyn yn bwysig a bod angen eu cynnal yn gyflym, mae angen gwella'r profiadau i gleifion.
Gyda rhestrau aros y GIG yn cynyddu, mae'n bwysig fod mân driniaethau gynecolegol yn cael eu cynnal mor gyflym â phosibl oherwydd, i rai cleifion, gallant ganfod a delio â materion iechyd a allai fod yn ddifrifol, fel canser. Serch hynny, mae'n bwysig nad yw'r angen i fod yn gyflym yn golygu bod cleifion yn profi poen a thrawma yn ddiangen.
- Mae cleifion yn dweud nad ydynt yn cael digon o wybodaeth cyn mân driniaethau gynecolegol ledled Cymru, a fyddai'n eu helpu nhw a'u darparwr gofal iechyd i wneud penderfyniadau gwell ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut dylai'r triniaethau gael eu cynnal, a phwy sy'n addas ar eu cyfer.
- Does dim mynediad cyson at ddulliau lleddfu poen priodol i gleifion, ac i ba raddau y gall cleifion ddewis y ffordd orau i'r driniaeth gael ei chynnal yn eu hachos nhw. Gall amseroedd aros amrywio'n fawr ledled Cymru.
- Mae cleifion ledled Cymru yn disgrifio'r gwahaniaethau o ran gallu adrodd yn ôl am eu profiadau a bod yn hyderus y bydd hyn yn cyfrannu at ofal yn y dyfodol.
- Yn aml, nid yw cleifion yn cael eu cynnwys wrth ddylunio a darparu hyfforddiant meddygol er mwyn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwasanaethau ddeall eu hanghenion yn well a diwallu eu hanghenion.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- Codi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o brofiadau cleifion o boen a thrawma yn ystod triniaethau gynecolegol
- Codi ymwybyddiaeth o'r ffaith y bydd llawer o gleifion benywaidd yn byw â chyflyrau gynecolegol poenus fel endometriosis neu adenomyosis, ac efallai y bydd rhai eraill wedi profi trawma, felly mae angen cymryd hanes trylwyr (neu 'frysbennu'), yn ogystal â dull mwy tosturiol sy'n canolbwyntio ar y claf.
- Grymuso cleifion i rannu eu storïau a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, er mwyn cyfrannu at ddysgu ac ymarfer clinigol
- Annog hyfforddwyr meddygol a chyrsiau hyfforddi yng Nghymru i gynnwys cleifion, fel bod gwell dealltwriaeth o'u profiadau a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu
- Annog GIG Cymru i edrych ar amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer darparu gwasanaethau gynecolegol, fel bod y gofal gorau sy'n canolbwyntio ar y claf yn cael lle blaenllaw
- Cefnogi buddsoddiad mewn ymchwil ar brofiadau cleifion, dulliau penderfynu ar y cyd, dyfeisiau meddygol, a dewisiadau rheoli poen, fel y gall cleifion yng Nghymru ddisgwyl derbyn y gofal gorau sydd ar gael.
Ein hyrwyddwr Lucy C

"Ar ôl profiad personol o drawma wrth osod dyfais yn y groth (IUD), roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael fy 'nibwyllo' ac yn teimlo cywilydd. Es i ar y cyfryngau cymdeithasol i holi a oedd pobl eraill wedi cael profiad tebyg, ac roeddwn i'n rhyfeddu ar yr holl storïau a gefais.
Ar ôl creu arolwg i gasglu yr unig ddata o'r maint hwn am y mater, fel y gwnes i ei ddarganfod wedyn. Fe wnes i lansio ymgyrch i fynnu ein bod ni'n cael mynediad at ddulliau lleddfu poen.
Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod, ond dim digon. Rhaid cymryd poen menywod o ddifri, a dyma ein moment 'Me Too' meddygol. Mae cleifion wedi gorfod dioddef poen am ormod o amser."
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym ni wedi cynnal ymgyrchoedd helaeth i wella bywydau'r rhai sy'n profi poen yn ystod mân driniaethau gynecolegol. Dyma amlinelliad o rai o'n llwyddiannau isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Rydym ni wedi cefnogi ein hyrwyddwyr i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd yn y cyfryngau i godi ymwybyddiaeth o boen yn ystod mân driniaethau gynecolegol. Dwy enghraifft yw'r erthygl hon ar Newyddion ITV am osod dyfais yn y groth a'r erthygl hon ar Newyddion y BBC am hysterosgopi heb anesthetig.
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Rydym ni'n gweithio'n agos â'r Gyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, sef rhan o'r Coleg Brenhinol Obstetreg a Gynecoleg (RCOG), i wella canllawiau ac ymarfer wrth osod coiliau a'u tynnu allan
- Rydym ni'n gweithio gyda Phwyllgor Gweithrediaeth Cymru yn yr RCOG a Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol Cymru ar gyfer Obstetreg a Gynecoleg i werthuso dulliau clinigwyr o osod coiliau a'u tynnu allan
- Rydym ni'n gweithio gyda Rhwydwaith Gweithredu Gynecoleg Cenedlaethol i helpu i ddatblygu hyfforddiant dan arweiniad cleifion ar gyfer hysterosgopi fel claf allanol
- Rydym ni'n bartneriaid cyhoeddus mewn cynigion ymchwil dan arweiniad Cymru i ddeall profiadau cleifion o fân driniaethau gynecolegol, a datblygu dulliau penderfynu ar y cyd a chyfathrebu'n well
- Rydym ni'n cydweithio â mudiadau eraill yn y trydydd sector i ymchwilio ac ymgyrchu dros ofal gwell mewn lleoliadau clinigol, megis gwaith Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched ar sgrinio serfigol, yr Ymgyrch yn erbyn Hysterosgopi Poenus, a Dysgu am Ddiogelwch Cleifion.
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
- Fe wnaethom ni sicrhau bod profiadau cleifion o fân driniaethau gynecolegol yn cael eu clywed gan Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Iechyd Menywod
- Fe wnaethom ni gynnwys tystiolaeth am fân driniaethau gynecolegol yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru
- Fe wnaethom ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth am angen cleifion benywaidd am ofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched cyn cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru.
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Dim canlyniadau
Nid oedd modd canfod y tudalen y gofynnwyd amdani. Ceisiwch fireinio eich chwiliad, neu defnyddiwch y panel llywio uchod i ganfod y neges.
Storïau am boen yn ystod triniaethau gynecolegol
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Taflen ddwyieithog FTWW ar poen yn ystod triniaethau gynecolegol
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru
Hysterosgopi i Gleifion Allanol (Green-top Guideline No. 59) - Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynecolegwyr
“Nod y canllawiau yw darparu gwybodaeth gyfoes sy'n seiliedig ar dystiolaeth i glinigwyr am hysterosgopi i gleifion allanol, gan gyfeirio'n benodol at leihau poen a rhoi'r profiad gorau posibl i'r fenyw neu'r person."
Cyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol
Gwybodaeth am Sgrinio Serfigol - GIG Cymru
5 Munud Pwysig - Ymgyrch Sefydliad y Merched
Hysteroscopy Action
Dysgu am Ddiogelwch Cleifion - yr Hwb
Gwybodaeth am hysterosgopi