Stori Becci
Roedd PMDD yn dwyn 18 diwrnod y mis o fy mywyd oddi arnaf. Roedd 60% o fy mlwyddyn yn cael ei dreulio gyda fy hormonau a fy ymennydd mewn brwydr yn erbyn ei gilydd, a fy nghorff oedd maes y gad. Am ddeg diwrnod y mis, roeddwn i'n cael bod yn fi, ond doedd hynny ddim yn golygu bod yn rhydd; roedd yn golygu byw dan gwmwl o gywilydd, euogrwydd ac ofn.
Roeddwn i'n codi'r darnau ar ôl pob mislif, ac yn sefydlu cynlluniau ar gyfer y mislif nesaf, ac yn meddwl tybed beth allwn i ei wneud i fy nghadw fy hun a fy nheulu yn ddiogel.
Am 18 mlynedd. aeth y frwydr dros gymorth ac atebion yn ei blaen.
Dechreuais fy mislif pan oeddwn i'n 14 oed, ac roedd yn amlwg i fy mam ar unwaith fod rhywbeth yn wahanol. Am bythefnos bob mis, byddai fy iechyd meddwl yn dirywio'n sydyn, gan ryddhau rhyw endid ar y byd o'm cwmpas a oedd yn byw yn ddwfn y tu mewn i mi. Ddiwrnod neu ddau ar ôl i fy mislif ddechrau, roeddwn i'n cael fy rhyddhau o'i afael, ac yn troi'n ôl yn Becci unwaith eto.
Prin oedd yr addysg yn yr ysgol ar iechyd y mislif. Roedd PMS, yr un lle rydych chi ychydig yn ddagreuol, yn bwyta llwyth o fwyd, ac yn cael ychydig o boen bol, yn rhan o'r daith tuag at fod yn fenyw. Doedd neb yn siarad am y math o PMS sy'n gwneud i chi gerdded ar raff denau rhwng bywyd a marwolaeth bob mis.
Erbyn i mi fod yn 16 oed, roeddwn i wedi cael fy niystyru gan nifer di-ri o weithwyr gofal iechyd proffesiynol; wedi cael y label o berson ifanc o gartref wedi chwalu, ag iselder, gorbryder, wedi cael gwybod mai "Dim ond PMS ydy o," ac nad oeddwn i'n gallu ymdopi cystal â fy nghyfoedion. Bob mis, âi'r mislif yn ei flaen. Y gwylltineb, yr hunan-gasineb, teimlo ar goll, gwybod mai'r cwbl y gallwn ei wneud oedd niweidio fy hun i deimlo rhywbeth heblaw gwacter.
Yn 2008, es yn feichiog a chael cip ar naw mis o fywyd yn rhydd o artaith y mislif. 9 mis o normalrwydd o fewn fy nghyrraedd, ond a gafodd ei gipio'n greulon oddi arnaf o fewn chwe mis i enedigaeth fy mab. Y tro hwn, dywedodd y meddygon mai iselder ar ôl geni oedd arnaf. Chwalodd perthnasoedd, roedd y teulu'n ceisio peidio â tharfu arnaf, yn ofni dweud neu wneud y peth anghywir yn y bythefnos hunllefus honno pan oeddwn i'n edrych fel fi ond heb fod yn fi.
Erbyn 2012, yn dal i frwydro â'r diafol y mislif, cefais wybod bod gennyf anhwylder personoliaethol, anhwylder straen cymhleth ar ôl trawma, ac anhwylder deubegynnol.
A finnau ar lawer o feddyginiaeth, roeddwn i'n gwegian ar yr ymyl rhwng bywyd a marwolaeth yn ystod y cyfnod cyn y mislif ac roeddwn i fel sombi ar ddwy droed ar ôl i'r mislif ddechrau.
Y cwbl oedd ei angen oedd un meddyg teulu yn 2019, a ofynnodd un cwestiwn syml, i adnabod y cysylltiad rhwng fy hormonau a fy iechyd meddwl. 18 mlynedd o frwydro, camddiagnosis, a thriniaethau anniogel. 18 mlynedd heb wybod a fyddwn i'n goroesi o'r naill fis i'r llall. Erbyn hyn, rwyf mewn menopos cemegol, yn ffynnu ac yn braenaru'r tir ar gyfer sicrhau dyfodol gwell i'r cenedlaethau i ddod.