Stori Carina H
Cefais ddiagnosis o ffibroidau yn 2017. Ar y pryd roeddwn i wedi derbyn bod fy mislifoedd trwm yn rhywbeth arferol, ond roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o’i le oherwydd roeddwn i’n gallu teimlo lwmpyn yn ddwfn yn fy abdomen. Ar y dechrau, dim ond pan roedd fy mislif yn agosáu roeddwn i’n gallu ei deimlo ond, dros amser, daeth fy symptomau’n waeth o lawer.
Ar yr adegau gwaethaf, fyddwn i ddim yn gadael fy nghartref pan oeddwn i ar fy mislif oherwydd byddai’n rhaid i mi fod yn agos at dŷ bach.
Byddwn i'n newid fy amddiffyniad mislif hyd at bob 20-30 munud trwy gydol y dydd a hefyd yn y nos. Cafodd hyn effaith fawr ar fy nghwsg. Byddwn i’n gwisgo cwpan lleuad, pad hylendid brethyn, a phants mislif i ddelio â'r gwaed roeddwn i’n ei golli, ond byddwn i’n dal i gael gollyngiadau’n aml.
Yn ffodus, oherwydd y lwmpyn a symptomau a oedd yn peri pryder, cefais fy atgyfeirio, fy ngweld a'm diagnosio’n eithaf cyflym. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf nad yw ffibroidau’n unrhyw beth i boeni amdano mewn gwirionedd, gan nad ydynt yn ganseraidd. Cefais wybod bod ffibroidau’n fwy amlwg mewn pobl o gefndiroedd Affro-Caribïaidd, ond ni roddwyd unrhyw reswm am hyn. Dywedwyd wrthyf hefyd mai hysterectomi oedd y ffordd fwyaf cyffredin o weithredu ond, gan fy mod i eisiau cael plant, cafodd hyn ei ohirio. Yn lle hynny, cefais fy rhoi ar feddyginiaeth am 3 mis, ond ni helpodd hyn. Cefais fy anfon am MRI ym mis Tachwedd 2017 a dysgais mewn apwyntiad meddyg teulu ym mis Mawrth 2018 ’mod i wedi cael fy rhyddhau heb unrhyw apwyntiad dilynol neu ganlyniadau MRI. Dyma'r cyntaf o lawer o ddigwyddiadau lle bu'n rhaid i mi eirioli drosof fy hun er mwyn cael mynediad at y gofal iechyd yr oedd ei angen arna’ i.
Gwnaeth fy llawdriniaeth gyntaf ym mis Hydref 2020 dynnu ffibroid bach o fewn ceudod y groth. Roedd y weithdrefn hon wedi cael ei chanslo a'i haildrefnu o'r blaen, a dim ond ar ôl i mi godi pryder y cafodd ei gwneud. Erbyn 2022, roedd fy symptomau’n amlycach o lawer ac yn cynnwys poen cefn a chlun dyddiol, lwmpyn gweladwy a stumog chwyddedig anffurfiedig, colli llawer o waed, anemia, anymataliaeth, anhawster anadlu, a gorbryder cynyddol. Cefais ail lawdriniaeth, myomectomi agored (lle mae ffibroidau mwy yn cael eu tynnu trwy doriad mawr yn yr abdomen) a dynnodd 11 o ffibroidau eraill, gyda’r 3 mwyaf tua’r un maint ag oren bach.
Unwaith eto, digwyddodd y llawdriniaeth hon ar ôl i mi gwrso clinigwyr a chyflwyno cwynion PALS dro ar ôl tro. Bob tro roeddwn i'n ffonio i ofyn, roeddwn i’n cael gwybod nad oeddwn i'n flaenoriaeth. Roedd hyn yn dorcalonnus, ac roedd fy iechyd meddwl yn isel iawn. Roeddwn i'n berson hollol wahanol yn ystod y cyfnod hwn ac o dan straen anhygoel, a waethygodd fy symptomau. Roeddwn i'n poeni’n fawr am oedi oherwydd y terfyn oedran ar gyfer cymorth ffrwythlondeb. Roedd yn rhaid i mi ffonio ac e-bostio'r adrannau gynaecoleg a'r clinig ffrwythlondeb i esbonio gan nad oedd y ddau’n cyfathrebu â’i gilydd. Pe na bawn i wedi bod yn ceisio beichiogi, byddwn i wedi aros yn llawer hirach am fy llawdriniaeth ffibroid.
Mae bron i 3 blynedd wedi pasio ers fy myomectomi agored erbyn hyn, ac mae'r ffibroidau sy'n weddill wedi tyfu, gyda'r mwyaf tua 4cm. Awgrymwyd hefyd fod gen i adenomyosis, sy'n achosi chwyddo a phoen.
Roeddwn i eisiau rhannu fy stori a bod yn Bencampwr FTWW ar gyfer Ffibroidau, gan ei fod yn gyflwr gynaecolegol anhygoel o gyffredin sydd bron bob amser yn cael ei anwybyddu. Os nad yw pobl wedi dioddef gyda ffibroidau, does ganddyn nhw ddim syniad beth ydyn nhw, na’r effaith y gallant ei chael ar gorff ac ansawdd bywyd person. Mae'n drist gweld cyn lleied o ymchwil sydd wedi'i wneud ar ffibroidau a chyn lleied o help mae’r gweithwyr proffesiynol wedi'i roi i mi ers i mi gael diagnosis. Mae popeth rwy'n ei wybod o ganlyniad i oriau o ymchwil, sgyrsiau ag eraill, a chefnogaeth ar-lein. Rwy'n awyddus i newid hyn i'r holl bobl ifanc a ddaw ar fy ôl i, a rhoi'r hyder sydd ei angen arnynt i eirioli drostynt eu hunain.