Stori Donna

Donna
Enw: Donna
Lleoliad: Cymru
"Mae cael fy ngadael yn anabl gan lawdriniaeth a ddisgrifiwyd i mi fel 'Safon Aur' wedi difetha fy mywyd."

Rydw i wedi bod yn byw gydag anaf sy'n gysylltiedig â rhwyll ers i mi gael triniaeth syml i helpu gydag anymataliaeth pledren ysgafn tua 20 mlynedd yn ôl. Cafodd TVT (tâp traws-weiniol) ei osod, a oedd wedi'i wneud o ddeunydd plastig neu 'rwyll', ac mae’n tua 1cm o led a 20-30cm o hyd.

Mae'r rhwyll i fod i gefnogi'r bledren ond, yn fy achos i, torrodd trwy fy wal weiniol 3 gwaith, gan fy ngadael i mewn poen ofnadwy bob tro - fel cael eich torri gan wydr o’r tu mewn. Mae'n gwneud pob eiliad yn arteithiol ac yn achosi poen pelfig sylweddol i mi, a phoen a gwendid yn fy nghoesau a'm cefn.

Rydw i wedi cael sawl llawdriniaeth oherwydd y rhwyll. I mi, y gwaethaf oedd un llawdriniaeth fawr yn cynnwys hysterectomi, tynnu’r rhwyll, a chael sling mewnol wedi'i wneud o’m meinwe fy hun i ddisodli'r rhwyll. Gan nad oes unrhyw wasanaethau tynnu rhwyll penodol ar gael yng Nghymru, ni chefais ganlyniad da, ac rydw i wedi cael fy ngadael yn anabl. Rydw i bellach yn aros i’m coluddyn mawr cyfan gael ei dynnu ac i gael stoma, yn ogystal â gorfod cael yr hyn maen nhw'n ei alw'n 'Ben Ôl Barbie'. Dyma pan maen nhw'n tynnu ac yn cau’r rectwm oherwydd difrod neu glefyd.

Mae cael fy ngadael yn anabl gan lawdriniaeth a ddisgrifiwyd i mi fel 'Safon Aur' wedi difetha fy mywyd. Roeddwn i'n fam i 3 o blant, yn 37 oed pan gafodd ei wneud, felly gwnaeth fy atal rhag bod y fam a'r wraig roeddwn i eisiau bod.

Nid oes llawer o driniaethau arbenigol ar gyfer anafiadau sy'n gysylltiedig â rhwyll ar gael yng Nghymru, os o gwbl. Mae hyn yn golygu bod menywod fel fi yn agored i loteri cod post ar gyfer llawdriniaeth oherwydd, yn aml, nid oes gan feddygon ymgynghorol lleol unrhyw brofiad o reoli ein hanghenion cymhleth.

Mae fy stori i’n un o nifer. Mae llawer o gleifion fel fi yn dal i geisio cael mynediad at gymorth ond yn dod ar draws rhwystrau ers blynyddoedd, heb fawr ddim help neu ddulliau rheoli poen. Mae angen mwy o wasanaethau arbenigol i fenywod ag anafiadau rhwyll yng Nghymru ac, ochr yn ochr â hynny, mae angen gwneud iawn am y difrod a wnaed i ddioddefwyr rhwyll, fel sy'n cael ei drafod yn Lloegr.

Rydw i wedi rhannu fy stori gyda FTWW am fod cymaint o fenywod yn dal i gael eu heffeithio gan rwyllau yma, ac rydw i am iddyn nhw wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod cefnogaeth ar gael. Diolch am ddarllen.

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Y Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg