Isabel, FTWW's Charity Coordinator
Enw: Isabel
Lleoliad: Gogledd Cymru
"Roeddwn i drwy'r amser yn gweld delweddau o theatr y llawdriniaeth, ac roedd goleuadau llachar a thrafodaethau am eni babi yn arwain at deimladau o banig."

Rhybudd am y cynnwys: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at brofiadau trawmatig o eni babi, gwaed, ofn marw, trawma meddygol, a'r canlyniadau i iechyd meddwl

Roeddwn i'n ffodus fy mod wedi cael beichiogrwydd cymharol iach ond cefais ddiagnosis o ddiabetes beichiogrwydd yn wythnos 29. Er ei fod yn cael ei reoli gan ddeiet, cefais fy nghynghori i gael ysgogi'r esgor ar wythnos 38+5 oherwydd bod twf y babi yn gyfyngedig.

Er i'r esgor gael ei ysgogi, wnaeth hynny ddim dechrau'n iawn am bedwar diwrnod. Wrth i bethau fynd yn eu blaenau, cefais epidwral a rhoddwyd monitor ar ben fy merch, ac roeddwn i'n wastad wedi bod eisiau osgoi hynny. Yn anffodus, fe wnaeth curiad calon fy merch ostwng, a dywedodd y meddyg ymgynghorol fod angen gefeiliau ac episiotomi, a doeddwn i ddim eisiau hynny chwaith ond doedd gen i mo'r gallu i feddwl am ddewis arall.

Rhoddwyd fy merch i mi, a mi ddes yn rhyw fath o ymwybodol fod anhrefn sydyn o fy nghwmpas i.

Roeddwn i wedi cael rhwyg 3B ac yn colli gwaed. Ar ôl gafael yn sydyn yn fy merch, roedd rhaid i mi ei rhoi hi'n ôl i fy ngŵr a rhoddwyd ffurflen felen i mi yn ei lle. Ar yr adeg hon doeddwn i ddim yn gallu gweld na gafael mewn beiro, ond rwy'n cofio'r ffurflen o lawdriniaethau o'r blaen ac roeddwn i'n gwybod fy mod i'n llofnodi dogfen oedd yn dweud y gallwn i farw.

Cefais fy ngludo ar olwynion drwy'r coridor o'r theatr, gyda fy nghoesau mewn gwartholion, ac am fod yr epidwral yn anwastad, roedd rhaid i mi gael anesthetig cyffredinol.

Wrth gofio am y ffurflen felen, roeddwn i'n siŵr fy mod am farw.

Yn ystod y cyfnod hwn, aeth fy ngŵr a fy maban oddi yno. Roedd o'n gallu gweld yn union lle oedd fy ngwely'n arfer fod oherwydd dyna'r unig sgwâr o lawr oedd heb fy ngwaed arno. Aeth neb ato i ddweud sut oeddwn i am 45 munud, a'r unig berson welodd o oedd glanhawr wedi dod i lanhau.

Cefais sawl problem ar ôl geni, gan gynnwys trafferth sefydlu patrwm bwydo ar y fron. Roeddwn i'n rhwystredig ac yn flin pan ges fy nghynghori i newid i'r botel, felly fe wnaethom ni fwydo drwy'r ddau ddull nes i mi dalu am gymorth preifat i fwydo ar y fron yn unig.

Cefais weld ffisiotherapydd o'r GIG ar gyfer y rhwyg, ond cyfyngedig oedd y cymorth y gallai ei roi. Rhoddodd y meddyg ymgynghorol gynecoleg feddyginiaeth ar bresgripsiwn i mi, ac roedd allan o stoc yn rheolaidd, a gwaethygu wnaeth fy nghyflwr.

Ar ôl 18 mis cefais fy atgyfeirio at y tîm colorefrol. Cefais wybod nad oeddwn yn flaenoriaeth uchel oherwydd roedd cleifion canser o fy mlaen ac fe wnaeth hynny i mi deimlo'n euog ofnadwy.

Yn y diwedd, cefais apwyntiad ar gyfer llawdriniaeth, ac yn yr wythnos cyn hynny roeddwn i'n siŵr y byddwn i'n marw o'r anesthetig. Roedd atgofion am y geni yn codi ofn arnaf, ac roeddwn i'n bwriadu ysgrifennu llythyrau ffarwél at fy nheulu. Ond wnes i ddim gwneud am nad oeddwn i eisiau i fy ngŵr eu gweld cyn i mi farw.

Yn gorfforo, fe wnes i wella'n dda, ond roeddwn i drwy'r amser yn gweld delweddau o theatr y llawdriniaeth, ac roedd goleuadau llachar a thrafodaethau am eni babi yn arwain at deimladau o banig.

Atgyfeiriodd fy meddyg teulu fi am asesiad seiciatryddol, lle cefais ddiagnosis o PTSD. Yna, cefais gynnig CBT drwy'r 'Spring Platform', sef cymysgedd o apwyntiadau wyneb yn wyneb a thasgau ar-lein i'w gwneud bob dydd yn fy amser fy hun. Roedd hi'n broses anodd, gan fy mod i'n gorfod ystyried y teimladau oedd gen i am fy mhrofiad, ond cefais fy nghefnogi gan seicolegydd rhagorol.

Erbyn hyn, rwyf wedi dod oddi ar y llwyfan ond byddwn yn gallu mynd yn ôl arno petai angen.

Eisiau gwybod mwy am iechyd meddwl mamau a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg