Stori Laura

An image of FTWW's PMDD champion, Laura T. A woman with short brown hair
Enw: Laura T
Lleoliad: Gogledd Cymru
"Roeddwn i'n aml yn fy meio fy hun ac yn teimlo euogrwydd, yn meddwl mai fi oedd ar fai nad oeddwn yn gallu rhwystro'r cyfnodau hyn o iselder"

Dechreuodd fy mislif pan oeddwn i'n 14 oed, ac ar yr wyneb roedd popeth yn normal – roedden nhw'n digwydd bob 28 diwrnod ac roedden nhw'n normal. Ond cyn gynted ag y dechreuodd fy mislif fe wnes i sylwi ar deimladau llethol o hwyliau isel a thristwch, yn aml am ddigwyddiadau a oedd yn ymddangos yn fach. Dim ond nawr, wrth edrych yn ôl, yr wyf yn sylweddoli bod y teimladau hyn, ochr yn ochr â symptomau o iselder amlwg, yn ymddangos ac yn cilio ar adegau penodol o fy nghylch misol.

Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o'i le gyda fy iechyd meddwl, ond roeddwn i'n fy meio fy hun. Roeddwn i'n aml yn rhoi bai arnaf fy hun ac yn teimlo euogrwydd, yn meddwl mai fi oedd ar fai nad oeddwn i'n gallu rhwystro'r cyfnodau hyn o iselder. Roeddwn i'n credu nad oeddwn i'n gwneud digon i ofalu amdanaf fy hun – mae siarad negyddol wrthoch chi eich hun yn gyffredin i bobl â PMDD. Fe wnes i fy argyhoeddi fy hun mai bod yn ddramatig oeddwn i – doedd pobl eraill ddim yn teimlo fel hyn, felly pam oeddwn i? Doedd gen i ddim rheswm i deimlo'n drist, ac roedd hyn yn gwneud i mi deimlo'n anniolchgar, gan wneud fy euogrwydd, a'r canfyddiad oedd gen i ohonof fi fy hun, yn waeth.

Pan oeddwn i'n 15 oed, es at fy meddyg teulu am y tro cyntaf. Cefais daflen gyda rhestr o fwydydd iach a chael gwybod y byddai bwyta'n well yn datrys fy mhroblemau. Fe wnaeth hyn atgyfnerthu fy nghred mai fy mai i oedd fy symptomau. Am y 14 mlynedd nesaf, pan fyddai fy symptomau'n ymddangos, byddwn i'n dweud wrthyf fy hun fy mod heb fwyta'n iach, gwneud digon o ymarfer corff, na gofalu amdanaf fy hun.

Pan fyddai fy hwyliau'n codi eto, roeddwn i'n meddwl mai'r rheswm am hynny oedd fy mod i wedi bod yn "dda" am ofalu amdanaf fy hun, ond mewn gwirionedd, roeddwn i'n fy nghosbi fy hun a fy nghorff gydag ymddygiadau nad oedd yn iach yn ystod y cyfnod lwteol.

Pan oeddwn i'n 28 oed y cefais wybod o'r diwedd am PMDD – a digwyddodd hynny ar hap. Gwelais neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan ffrind i ffrind yn rhestru symptomau PMDD, gan gynnwys y ffaith eu bod yn gylchol, ac roeddwn i'n uniaethu â phob un. Y cyngor oedd dechrau olrhain y symptomau. Roeddwn i wedi dechrau gwneud hyn yn barod, gan fy mod yn olrhain fy symptomau yn unol â sut roeddwn i'n ymddwyn a beth oeddwn i'n ei wneud, er mwyn "monitro fy nghynnydd".
Ond dyma'r adeg pan wnaethpwyd cysylltiad rhwng fy symptomau a fy mislif, a phan edrychais ar fy nyddiadur roeddwn i'n gallu gweld natur gylchol y newidiadau yn fy hwyliau. O'r adeg honno fe wnes i ddechrau olrhain fy nghylch misol hefyd a chysylltu ag FTWW a hefyd yr IAPMD (y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn y Mislif) i gael cymorth.

O'r diwedd, roedd gen i ddigon o hyder i fynd yn ôl at fy meddyg teulu ac eiriol drostof fy hun. Es â'r dyddiadau symptomau a thudalennau gwybodaeth gan yr IAPMD, a yna pryd cefais ddiagnosis ffurfiol o PMDD.

Cefais bresgripsiwn o SSRIs dyddiol fel triniaeth, ond o'u cymryd fel hyn doedd y feddyginiaeth ddim yn effeithiol. Ar ôl ymchwil pellach, fe wnes i ddarganfod y manteision posibl o ddosau lwteol a thrafod hynny gyda fy meddyg teulu, a oedd yn cefnogi fy mhenderfyniad i roi cynnig ar hyn. Yn ffodus, mae hyn wedi gweithio i mi ac mae'n parhau i ddarparu ansawdd bywyd llawer gwell.

Mae diagnosis o PMDD wedi golygu fy mod wedi gorfod dysgu – a dad-ddysgu – llawer amdanaf fi fy hun, y cylch misol ac iechyd meddwl. Gobeithio y gallwn ni, gyda'n gilydd, normaleiddio sgyrsiau am y mislif ac iechyd meddwl er mwyn i eraill fod yn gallu adnabod beth sy'n "normal" a beth sydd ddim, eu bod yn gallu chwilio am gymorth, ac na fydd rhaid iddyn nhw ddioddef ar eu pen eu hunain fel cynifer ohonom ni.

Pob stori gysylltiedig

Eisiau gwybod mwy am PMDD (Anhwylder Disfforig Cyn Mislif) a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg