An image of Nia F - FTWW champion for Maternal Mental Health
Enw: Nia F
Lleoliad: Gogledd Cymru
"Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n ymdopi'n iawn, ond gan fod y staff oedd yn fy adnabod i ffwrdd o'r gwaith ac nad oedd fy nghynllun gofal wedi cael ei ddilyn, mi es i'n sál iawn."

Ym mis Mai 2019, rhoddais enedigaeth i fy mab. Cyn geni roeddwn i dan law'r tím gofal amenedigol gan fod gen i Anhwylder Deubegynnol. Roedd cynllun yn bodoli gan fy mod yn risg uchel am gymlethdodau iechyd meddwl.

Aeth y beichiogrwydd yn dda ac roeddwn i'n teimlo'n hyderus y byddai popeth yn mynd yn iawn. Tuag at ddiwedd y beichiogrwydd mi ges i gymhlethdodau gyda diabetes beichiogrwydd a chyneclampsia, a arweiniodd at orfod aros yn y ward mamolaeth.

Mi ges i doriad Cesaraidd dewisol gan fy mod ar feddyginiaeth lithiwm. Ar ôl i fy mab gael ei eni aeth ei dymheredd yn isel a doedd o ddim yn bwydo, felly aethpwyd á fo i'r gofal arbennig.

Roeddwn i'n meddwl fy mod yn ymdopi'n iawn, oherwydd gan nad oedd y staff oedd yn fy adnabod i ffwrdd o'r gwaith ac nad oedd fy nghynllun gofal wedi cael ei ddilyn, mi es i'n sâl iawn.

Mi es i'n gatatonaidd a chael fy nerbyn i'r Uned Gofal Dwys ym Manceinion.

Yn y pen draw mi wnes i wella gyda chyrsiau o ECT (Therapi Electrogynhyrfol) ac mi ges i fynd i'r Uned Mam a'i Baban gyda fy mab. Mi wnes i wella'n dda a thrwy fynd adref ar ymweliad ac aros yn raddol gartref, mi ges fy rhyddhau yn Hydref 2019.

Ar cael ôl amser i ddod ataf fy hun, roeddwn i'n teimlo bod angen Uned Mam a'i Baban yng Ngogledd Cymru am nad oedd ond un yng Nghymru, a hynny yn y De. Mi wnes i arwain deiseb i Senedd Cymru yn 2022, a chafodd bron i 8,000 o enwau.

Eisiau gwybod mwy am iechyd meddwl mamau a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg