Stori Rachel P
Roeddwn i'n dioddef mislif trwm, afreolaidd a phoenus o'r adeg yr oeddwn i'n 12 oed a phan oeddwn i'n 19, cefais fy atgyfeirio at Gynecoleg. Er llawer o brofion ac ymchwiliadau, doeddwn i byth yn cael atebion.
O'r diwedd, pan oeddwn i'n 27 oed, cefais ddiagnosis o PCOS ar ôl cael trafferth gyda materion ffrwythlondeb a methu beichiogi. Nid oeddwn erioed wedi cael triniaeth ac ar ôl blynyddoedd o ddioddef cymhlethdodau hormonaidd sy'n cyd-fynd â PCOS, roedd hyn wedi effeithio ar fy ngallu i gael plant.
Yn 2017, yn dilyn triniaeth aflwyddiannus o'r enw 'Drilio Ofarïaidd' a threialu meddyginiaeth i reoli fy PCOS, cefais fy atgyfeirio at Ysbyty Menywod Lerpwl lle dechreuais driniaeth ar gyfer materion ffrwythlondeb yn gysylltiedig â PCOS. Dechreuais arddangos arwyddion o syndrom hyperefelychu ofarïaidd (OHSS), sy'n gallu bod yn fwy cyffredin os ydy PCOS arnoch chi.
Cefais driniaeth i adfer wyau, a arweiniodd at 8 embryo. Oherwydd y ffactorau risg yn gysylltiedig ag OHSS, roedd fy nhriniaeth ffrwythlondeb yn fwy cymhleth na'r arfer mae'n siŵr, ond yn y diwedd trosglwyddwyd embryo ac fe wnaethom groesawu ein merch brydferth i'r byd yn 2018.
Yn anffodus, gwaethygodd fy materion iechyd ar ôl iddi gael ei geni, gan arwain at hysterectomi a menopos cynnar.
Mae hi wedi bod yn daith hir ac yn rhywbeth rwy'n dal i weithio arno. Weithiau, mae'r symptomau'n anodd eu rheoli ochr yn ochr â bod yn fam i blentyn ifanc a gweithio'n llawn amser.
Cyrraedd diagnosis yn 2016 oedd y profiad mwyaf heriol a blinedig i mi fynd drwyddo. Cefais fy ngweld gan lawer o feddygon ymgynghorol, cael pob prawf dan hawl, a daeth popeth yn ôl yn 'normal'.
Mae angen cefnogaeth well i unigolion sy'n dioddef materion fel PCOS, gan eu bod yn aml yn gymhleth a gwanychol ac yn cael effaith enfawr ar fywyd pob dydd. I mi, y trobwynt oedd canfod y meddyg ymgynghorol iawn, rhywun oedd yn deall o'r diwedd sut roeddwn i'n teimlo ac nid oedd yn diystyru fy symptomau ac yn dweud eu bod yn normal.
Mae'n hanfodol fod y driniaeth yn iawn er mwyn sicrhau bod eich corff yn cael beth sydd ei angen arno, i atal cyflyrau iechyd eraill rhag digwydd ac i'ch helpu chi i barhau i fyw eich bywyd heb gael eich llethu gan y symptomau.
Rwy'n gwirfoddoli gydag FTWW oherwydd eu bod nhw, fel fi, yn creu bod angen datblygu ac ehangu gwasanaethau cymorth ledled Cymru fel eu bod yn fwy hygyrch i'r rhai sydd eu hangen, a hynny o fewn amser rhesymol.