This is a default profile image - a silhouette of a person
Enw: Sherry W
Lleoliad:
"Mae hyn yn gadael menywod fel fi yn chwilio am wybodaeth drwy'r amser"

Mae fy mhrofiad i o gymhlethdodau gyda ffrwythlondeb yn mynd yn ôl at gael diagnosis o endometriosis a syst mawr pan oeddwn i'n 16 oed. Y flwyddyn wedyn fe wnaeth y syst rwygo, a dyna pryd dechreuodd popeth.

Pan oeddwn i'n 18 oed, cefais fy mhlentyn cyntaf, yna pedwar camesgoriad, diagnosis o PCOS ac yna 18 mis arall ar BV Lomid, 6 mis ar Tamoxifen (mewn cyfnod cyn y canllawiau) ac yna llawdriniaeth ar gyfer ceudod pelfig ac adlyniadau ac anatomeg yn y lle anghywir.

Yn yr un mis â'r llawdriniaeth roeddwn i'n ddigon ffodus i ddisgwyl fy ail blentyn. Cefais ambell gamesgoriad arall a mwy o Clomid i gael fy nhrydydd plentyn, a daeth fy mhedwerydd yn annisgwyl. Yn fwy diweddar rwyf wedi cael 6 rownd o IVF gyda fy wyau fy hun a chylch gydag wy gan roddwr, roedd tri o'r rhain wedi digwydd yn ystod cyfyngiadau Covid. Doeddwn i ddim yn gymwys i gael triniaeth ar y GIG, fel y mae llawer wedi gweld neu brofi mae'n siŵr, gan nad oes llawer o ddewisiadau o driniaethau i gynnal eich ffrwythlondeb gydag endometriosis a PCOS, felly rwyf wedi talu am y cyfan fy hun.

I weithio eich ffordd drwy faterion ffrwythlondeb o ystyried y costau, mae'n rhaid i chi weld beth sydd o werth a ble mae tystiolaeth o arferion da gyda chanlyniadau cadarnhaol. Yn anffodus, mae popeth rwyf wedi'i ddarllen yn dangos mai'r gwerth gorau fyddai mynd dramor.

Un o'r rhesymau dros fy mhroblemau gyda ffrwythlondeb o bosibl yw bod gen i adenomyosis heb ei ddiagnosio. Byddwn i'n gwaedu'n drwm yn ystod fy mislif ac roeddwn i wedi gwneud hynny ers blynyddoedd, roedd sawl uwchsain gan y GIG wedi dangos bod gen i wterws trwchus ac roedd rhywbeth yn cuddio o leiaf un ofari.

Chefais i erioed ddiagnosis, gwybod beth oedd ei faint, na beth oedd ystyr 'trwchus'.

Yn ystod cyfnodau cynnar IVF, es i gael uwchsain preifat lle dywedwyd mai adenomyosis oedd yr wterws trwchus, gyda myometriwm yn mesur 32mm a'r wterws yn 20cm o hyd. O ran adenomyosis, mae hyn yn dipyn o faint.

Doedd dim llawer o wybodaeth ar gael am adenomyosis gan mai dim ond ar ôl hysterectomi y mae'n bosibl cael diagnosis eglurhaol. Mae hyn yn golygu bod menywod fel fi yn wastad yn chwilio am wybodaeth i'w helpu i leddfu eu poen, eu gofal ffrwythlondeb, eu gofal beichiogrwydd a'u cymhlethdodau iechyd eraill sy'n ymddangos yn sgil pethau fel gwaedu, fel anaemia. Mae menywod yn aml yn cael eu diystyru drwy droi triniaeth hormonaidd neu'n cael clywed nad oes modd eu trin gan eu bod hefyd yn ceisio delio á cheisio beichiogi.

Eisiau gwybod mwy am ffrwythlondeb a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg