Enw: Willow H
Lleoliad:
"Mae fy nghyflyrau'n gallu ymddangos yn wahanol oherwydd y gwahanol ffyrdd sydd gennyf o brosesu gwybodaeth synhwyraidd a phoen. Mae hyn wedi arwain at anwybyddu llawer o fy nghyflyrau ac oedi cyn cael triniaeth."

Helo bawb, Willow ydw i. Rwy'n un o hyrwyddwyr Awtistiaeth a Niwroamrywiaeth yma yn FTWW.

Rwy'n fenyw sydd wedi cael diagnosis hwyr o awtistiaeth ac rwyf wedi gweithio gyda phobl awtistig mewn gofal preswyl yn y gorffennol. Rwyf wedi defnyddio fy mhrofiad bywyd yn dilyn diagnosis i gynyddu'r ddealltwriaeth o fywydau pobl awtistig.

Fe wnes i sefydlu'r Prosiect Grymuso Menywod Awtistig yn 2014 fel prosiect i godi ymwybyddiaeth, ac ers hynny mae fy rolau personol a'r Prosiect Grymuso Menywod Awtistig wedi esblygu y tu hwnt i bob disgwyl. I ddechrau roeddwn i'n meddwl mai tudalen ar y cyfryngau cymdeithasol fyddai hynny ond mae wedi arwain at wneud i mi ymgyrch dros gydnabod, derbyn a chydraddoldeb i fenywod a merched awtistig ledled Cymru.

Mae gen i sawl het erbyn hyn ac rwy'n gweithio gyda llawer o sefydliadau yma yng Nghymru. Mae pob rôl sydd gen i yn canolbwyntio'n fawr ar ddatblygiad strategol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chynrychioli.

Rwyf hefyd yn cynghori ar lefel genedlaethol fel rhywun sydd â phrofiad bywyd, gan weithio'n rheolaidd â Llywodraeth Cymru drwy'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Niwrwahaniaeth, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, a'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.

Ymunais ag FTWW ychydig ar ôl iddo gael ei ffurfio, gan fod ein sylfaenydd Debbie Shaffer yn cefnogi fy ymgyrchoedd. Fe wnaethom ni gydnabod mor bwysig oedd gwneud FTWW yn hygyrch a chynhwysol i bobl awtistig a niwrowahanol a deall yn well beth yw profiadau menywod a merched awtistig o ofal iechyd.

Fel llawer o fenywod awtistig, mae gen i hefyd sawl cyflwr iechyd cronig ac rwyf wedi wynebu llawer o anawsterau wrth gael gofal iechyd oherwydd diffyg dealltwriaeth o fy anghenion fel menyw awtistig. Gall fy nghyflyau gyflwyno'n wahanol oherwydd bod gen i sawl ffordd wahanol o brosesu gwybodaeth synhwyraidd a phoen. Mae hyn wedi arwain at anwybyddu llawer o fy nghyflyrau ac oedi cyn cael triniaeth.

Rwyf wedi dod yn hyrwyddwr cryf iawn dros y Model Cymdeithasol o Anabledd, cyd-gynhyrchu, a chynnwys pobl niwrowahanol ac anabl ymhob penderfyniad sy'n effeithio ar eu bywydau. Rwy'n teimlo ei bod yn hanfodol i wasanaethau fod yn hygyrch i bawb ac er mwyn i hyn ddigwydd mae angen i ni glywed lleisiau'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau er mwyn deall y rhwystrau sy'n eu hwynebu.

Mae fy ngwaith yn canolbwyntio'n fawr ar iechyd a llesiant. Fe wnes i gyd-ysgrifennu adran ar gyfer y Datganiad Ansawdd Iechyd Menywod gyda fy nghydweithiwr Kat Williams. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ddefnyddio fy mhrofiad bywyd i helpu i weithredu'r Cod Ymarfer ar ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth ac rwyf wedi gweithio'n agos â Thîm Cydraddoldeb BWPBC yn datblygu bagiau synhwyraidd i blant mewn adrannau gofal brys a chanllaw synhwyraidd ar gyfer uned damweiniau ac argyfwng Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Does gen i ddim ofn mynd i'r afael â phynciau anodd sy'n aml yn cael eu hanwybyddu, ac ar hyn o bryd rwyf ar baneli ymchwil a strategaeth sy'n trafod atal hunanladdiad, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.

Rwyf hefyd yn falch iawn o fod yn chwarae rhan flaenllaw yn datblygu dulliau newydd o gyd-gynhyrchu ymchwil drwy fy rôl fel Arweinydd Cymunedol ar yr Astudiaeth Awtistiaeth o'r Mislif i'r Menopos ym Mhrifysgol Abertawe.

Eisiau gwybod rhagor am awtistiaeth a niwrowahaniaethau eraill a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg