Ymwadiad meddygol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am yr wybodaeth iechyd sy'n cael ei darparu gan FTWW ar ei wefan a gohebiaeth gysylltiedig.
Gwybodaeth ar ein gwefan a gohebiaeth gysylltiedig
Mae'r wybodaeth a ddarperir gan FTWW ar ftww.org.uk a gohebiaeth arall i'w ddefnyddio at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Mae'r holl wybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth iechyd) yn cael ei darparu'n ddidwyll, ond nid ydym yn rhoi sicrwydd mewn unrhyw fodd fod unrhyw wybodaeth sydd ar y wefan yn gywir, digonol, ar gael nac yn gyflawn.
Gwybodaeth ar wefannau allanol
Gallai'r wefan gynnwys dolenni (neu fe allech eu cael drwy'r wefan) at wefannau eraill neu gynnwys sy'n perthyn neu'n deillio o drydydd partïon neu ddolenni i wefannau a allai gynnwys gwybodaeth iechyd. Mae'r dolenni hyn hefyd yn cael eu darparu'n ddidwyll ond nid ydym yn ymchwilio, monitro nac yn gwirio dolenni allanol o'r fath o ran ydyn nhw'n gywir, digonol, dilys, dibynadwy, ar gael nac yn gyflawn.
Gwybodaeth iechyd
Nid yw'r wefan a gohebiaeth arall gan FTWW yn cynnwys gwybodaeth feddygol/iechyd. Caiff yr wybodaeth iechyd ei darparu at ddibenion gwybodaeth gyffredinol ac addysgol yn unig, ac ni ddylai gymryd lle cyngor proffesiynol. Felly, os byddwch chi'n dewis gweithredu ar sail gwybodaeth o'r fath, neu ddefnyddio syniadau sydd yn y wefan hon a gohebiaeth arall, deunyddiau a/neu gynnyrch, rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb lwyr dros eich gweithredoedd.
Nid yw'r awdur a'r cyhoeddwr (FTWW) yn weithwyr meddygol proffesiynol ac nid ydym yn darparu cyngor meddygol nac yn diagnosio unrhyw gyflyrau a allai fod gennych. Nid ydym yn darparu unrhyw fath o gyngor meddygol/iechyd. Holwch eich meddyg teulu am eich iechyd a'ch materion meddygol personol bob amser.
Storïau am iechyd
Gallai'r wefan hon gynnwys storïau am iechyd. Mae'r storïau hyn yn adlewyrchu profiadau bywyd go iawn a barn cleifion yng Nghymru. Serch hynny, mae'r profiadau hyn yn bersonol i'r cleifion hynny, ac efallai nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli pob claf sy'n byw â chyflwr iechyd. Nid ydym yn honni, ac ni ddylech chi gymryd, y bydd pob claf yn cael yr un profiadau.
Mae'r storïau ar y wefan yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol ffurfiau, megis testun, sain a/neu fideo, ac maen nhw'n cael eu hadolygu gennym ni cyn cael eu gosod. Maen nhw'n ymddangos ar y wefan air am air fel y dywedodd y defnyddwyr, heblaw am gywiro gwallau gramadeg a theipio. Mae rhai storïau wedi cael eu cwtogi er mwyn bod yn gryno pan oedd y stori lawn yn cynnwys gwybodaeth nad oedd yn berthnasol i'r cyhoedd.
Mae'r safbwyntiau sydd yn storïau hyn yn perthyn i'r defnyddiwr unigol yn unig, ac nid ydynt yn adlewyrchu ein safbwyntiau ni.
Nid oes bwriad i'r storïau ar y wefan gael eu defnyddio i ddiagnosio, trin, lleddfu, iachau, atal na'u defnyddio ar gyfer unrhyw glefyd neu gyflwr iechyd. Nid oes yr un o'r storïau wedi cael eu profi na'u gwerthuso'n glinigol.
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar 08/11/2024.