The bilingual TNL Community Fund logoRydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod FTWW wedi llwyddo i sicrhau grant Arian i Bawb y Loteri i ddiweddaru ein gwefan a chreu adnoddau newydd y gellir eu lawrlwytho ar gyfer ein cymuned.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod y wefan yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio, gyda chynnwys newydd yn Gymraeg a Saesneg yn cael ei ychwanegu ar yr amrywiol gyflyrau iechyd a materion y mae cynifer o bobl ledled Cymru yn eu hadrodd i ni. Bydd mwy o straeon gan gleifion, gwybodaeth ymarferol am gael mynediad at wasanaethau a chyfle i gael llais, ac amrywiaeth ehangach o daflenni y gall defnyddwyr y wefan eu lawrlwytho a’u hargraffu.

Cadwch lygad am ddiweddariadau!

cyCymraeg