Efallai eich bod yn cofio i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd lansio eu hymchwiliad y llynedd i gefnogi pobl â chyflyrau cronig. Dangosodd y cam ymgynghori neges gyffredinol glir ynghylch yr angen i wella gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a rhoi’r gorau i ganolbwyntio ar gyflyrau unigol ar eu pen eu hunain.
Mae cam dau yr ymchwiliad yn cynnwys casglu tystiolaeth, a’r mis hwn, aeth aelodau grŵp cymorth FTWW i ddau grŵp ffocws gyda thîm ymgysylltu â dinasyddion y Senedd, lle darparwyd tystiolaeth bwerus ynghylch eu profiadau bywyd – a’r hyn maen nhw’n credu y mae angen ei wneud i wella iechyd a gofal i bobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor.
Hoffem ddiolch o galon i’n haelodau ac i dîm y Senedd. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, ewch i wefan y Senedd..