An illustration of a uterus, with text reading breaking the silence on gynaecological cancers - and beyond! FTWW statementDatganiad FTWW ar Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i Ganser Gynaecolegol a dadl yn y Cyfarfod Llawn (15/05/24)

Rhoi Sylw i Ganserau Gynaecolegol - a mwy!

Ar ôl cyfrannu’n helaeth at yr ymchwiliad diweddar i ganserau gynaecolegol a gynhaliwyd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, roedd FTWW yn awyddus i ddarllen ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad dilynol y Pwyllgor, Heb lais: Taith Menywod Trwy Ganser Gynaecolegol.

Er bod mwyafrif helaeth ei argymhellion wedi’u derbyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, gwrthodwyd rhai – ac, felly, roedd y ddadl yn y sesiwn lawn ddoe yn y Senedd yn hanfodol i esbonio’r penderfyniadau hynny, yn anad dim, oherwydd, fel y dywedodd Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor, ‘y dystiolaeth oedd y mwyaf pwerus ac emosiynol yr wyf wedi dod ar ei thraws’.

Efallai mai’r hyn oedd angen ei egluro fwyaf oedd honiad Llywodraeth Cymru fod,mwyafrif helaeth y rhai sy’n derbyn gofal canser ar gyfer canser gynaecolegol yn adrodd yn gyson am lefelau uchel o fodlonrwydd cleifion â gwasanaethau’r GIG‘, er bod y rhai a roddodd dystiolaeth bersonol i’r ymchwiliad yn dweud i’r gwrthwyneb – nad oeddent erioed wedi cael eu holi am eu lefelau bodlonrwydd. Yn wir, roedd y dystiolaeth ddirdynnol a rannwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cyfleu cryn anfodlonrwydd. Mae clywed yr hyn sydd gan gleifion i’w ddweud yn gam cyntaf hanfodol wrth greu gwasanaethau iechyd sy’n gweithio i gleifion, felly mae’n rhaid i’r casgliad, y dadansoddiad a’r dysgu arferol sy’n deillio o PREMs a PROMs (Mesur Profiadau a Gofnodwyd gan Gleifion a Mesurau Canlyniadau) gael eu blaenoriaethu gan GIG Cymru wrth symud ymlaen, rhywbeth y mae FTWW yn parhau i ddadlau’n gryf drosto.

Roeddem hefyd yn gwybod y byddai’r Cynllun Iechyd Menywod yr ydym ni – a Chlymblaid Iechyd Menywod Cymru sy’n cael ei gadeirio gennym – wedi bod yn galw amdano ers 2021, yn cael ei ddyfynnu fel dogfen allweddol sy’n sbarduno gwelliannau i’r profiadau a adroddwyd gan y rhai yr effeithiwyd arnynt gan ganserau gynaecolegol, ac ni chawsom ein siomi. Cafodd y Cynllun – nad yw wedi’i gyhoeddi eto, er bod gwaith yn dechrau’n arno’n fuan – ei grybwyll gan bob Aelod o’r Senedd a gymerodd ran yn y ddadl. Yn olaf – ac nid cyn pryd – mae’n edrych fel petai iechyd menywod wedi cyrraedd yr agenda fel mater sy’n mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid, rhywbeth sy’n cyffwrdd â phob dinesydd yng Nghymru a phob unigolyn ar draws y byd.

Er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn honni na fydd canserau gynaecolegol o reidrwydd yn cael eu cynnwys yn benodol yng Nghynllun Iechyd Menywod, y mae hi wedi ymrwymo’r GIG iddo (mae hyn oherwydd bod rhwydwaith clinigol a chynllun gwella ar wahân ar gyfer canser), byddem yn dadlau bod yna gysylltiad anochel, felly mae angen i’r Cynllun Iechyd Menywod egluro ei gysylltiadau â’r gwaith sydd ar y gweill ar ganser, gan gynnwys camau i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r gweithlu a chapasiti mewn lleoliadau gynaecoleg. Nid yn unig hyn, fodd bynnag, – mae agweddau sy’n unigryw i brofiadau menywod o ofal iechyd y mae’n rhaid eu cydnabod a’u herio yn uniongyrchol os ydym am wella’r gwasanaethu a gynigir i gleifion, p’un a oes ganddynt symptomau canser gynaecolegol neu gyflwr iechyd arall.

Efallai mai’r mwyaf arwyddocaol o’r rhain sydd wedi arwain at deitl adroddiad y Pwyllgor – ‘Heb lais’ – ac a arweiniodd at greu FTWW dros ddeng mlynedd yn ôl: y ffaith bod menywod bron i gyd yn dweud bod y symptomau a adroddir ganddynt yn cael eu hanwybyddu, eu diystyru a’u cam-briodoli i ffactorau emosiynol neu seicolegol, bod eu lleisiau ddim yn cael eu clywed oherwydd y sylw sylweddol i agweddau cymdeithasol sy’n deillio o fil o flynyddoedd o ragfarn ar sail rhyw, lle’r oedd cysylltiad annatod rhwng y ‘groth’ (wandering womb) â meddyliau gwan ac annibynadwy merched, cyflwr yr arferid cyfeirio ato yn y gorffennol fel ‘hysteria’. Mae’n gysyniad sy’n parhau i daflu cysgod hir a pharhaus dros ein profiadau gofal iechyd ac mae’n rhaid ei ddileu os ydym am weld pethau’n newid er gwell.

Mae cynnwys pobl sydd â phrofiad personol o gynllunio, cyflwyno ac asesu addysg feddygol yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau bod lleisiau cleifion yn cael eu cymryd o ddifrif a’u gwreiddio’n briodol yn yr hyfforddiant y mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei dderbyn a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu – ac mae hyn yn rhywbeth y bydd FTWW yn parhau i ymgyrchu drosto. Mae angen i ni hefyd weld addysg lles mislifol yn cael ei chyflwyno’n gyson ac yn dda mewn ysgolion, fel nad yw’r mislif a symptomau cysylltiedig yn ormod o dabŵ i’w crybwyll, neu wedi’u normaleiddio i’r graddau y caiff merched eu gwneud i feddwl eu bod yn gwneud ffwdan am ddim byd, canfyddiad a all amharu ar eu rhagolygon addysgol, eu gyrfaoedd, eu bywydau a’u lles ymhell i’r dyfodol.

Yn raddol, mae pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, gyda phrosiectau ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel SPPINN (Dydi Poen Mislif Difrifol Ddim yn Normal) yn archwilio’r heriau a’r bylchau wrth reoli’r mater hwn sy’n rhy aml yn cael ei gamddeall a’i ddiystyru, a rhwydwaith clinigol cenedlaethol ar gyfer gynaecoleg sy’n datblygu llwybrau Cymru gyfan ar gyfer cleifion mewn gofal eilaidd. Fodd bynnag, er bod y pethau hyn yn hanfodol, ac rydym yn rhagweld y byddant yn ymddangos yng ngwaith Llywodraeth Cymru ar urddas mislif, polisi iechyd menywod, a Chynllun Iechyd Menywod y GIG, mae anwyliaid yn cael eu colli yn sgil canser gynaecolegol bob dydd – a’r hyn sy’n frawychus yw bod cyfradd marwolaethau yn uwch yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU.

It doesn’t take a Women’s Health Plan to know that, now, more than ever, things must change. Let’s start by recognising that gynaecological cancers aren’t ‘silent killers’ – women have been asking, begging, shouting to be heard for far too long. Now is the time to start listening.

cyCymraeg