Blog FTWWA graphic highlighting the importance of the UK General Election for women's health equality, particularly in Wales. The text directs to ftwww.org.uk for more information. Icons include a ballot box and megaphone.

A hithau bron yn ddiwrnod Etholiad Cyffredinol y DU, efallai fod llawer o ddilynwyr FTWW yn meddwl, gan fod y GIG wedi’i ddatganoli yng Nghymru, na all unrhyw lywodraeth newydd yn San Steffan wneud llawer i fynd i’r afael â’r annhegwch iechyd sy’n wynebu’r rhai rydyn ni’n eu cefnogi. Maen nhw’n iawn i raddau wrth gwrs – mae etholiadau’r Senedd yn eithriadol o bwysig i ni fel sefydliad sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb iechyd menywod yng Nghymru. Ond nid yw hynny’n golygu nad oes gan Lywodraeth y DU ddylanwad mawr iawn ar ein profiadau iechyd yn fwy cyffredinol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod menywod yn gallu byw’n hirach na dynion ond eu bod yn cael llai o flynyddoedd o iechyd da[1]. Mae menywod yn aros yn hirach am ddiagnosis ac yn fwy tebygol o gael diagnosis anghywir neu o gael eu diystyru wrth roi gwybod am symptomau[2]. I raddau helaeth, mae hyn oherwydd, yn hanesyddol, nid ydym wedi cael ein cynrychioli’n ddigonol mewn treialon clinigol ac felly nid oes cystal dealltwriaeth o’r materion iechyd sy’n effeithio arnom. Mae llawer o’r ymchwil sy’n llywio triniaethau, ymyriadau a gwasanaethau iechyd ar draws GIG Cymru yn seiliedig ar ymchwil a ariennir gan Lywodraeth y DU, felly mae angen iddi wneud ‘iechyd menywod’ yn flaenoriaeth ar frys ar gyfer buddsoddi, yn enwedig er mwyn lleihau’r baich economaidd a achosir gan gyflyrau iechyd sy’n cael eu diagnosio’n hwyr ac sy’n cael eu rheoli’n wael ac sy’n cael effaith anghymesur neu wahanol ar gyrff menywod.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod menywod yn gallu byw’n hirach na dynion ond eu bod yn cael llai o flynyddoedd o iechyd da[1]. Mae menywod yn aros yn hirach am ddiagnosis ac yn fwy tebygol o gael diagnosis anghywir neu o gael eu diystyru wrth roi gwybod am symptomau[2]. I raddau helaeth, mae hyn oherwydd, yn hanesyddol, nid ydym wedi cael ein cynrychioli’n ddigonol mewn treialon clinigol ac felly nid oes cystal dealltwriaeth o’r materion iechyd sy’n effeithio arnom. Mae llawer o’r ymchwil sy’n llywio triniaethau, ymyriadau a gwasanaethau iechyd ar draws GIG Cymru yn seiliedig ar ymchwil a ariennir gan Lywodraeth y DU, felly mae angen iddi wneud ‘iechyd menywod’ yn flaenoriaeth ar frys ar gyfer buddsoddi, yn enwedig er mwyn lleihau’r baich economaidd a achosir gan gyflyrau iechyd sy’n cael eu diagnosio’n hwyr ac sy’n cael eu rheoli’n wael ac sy’n cael effaith anghymesur neu wahanol ar gyrff menywod.

Mae POB llywodraeth yn sôn bod ‘atal’ ac ‘ymyrryd yn gynnar’ yn hanfodol i wella iechyd a bywydau pobl, ac eto, o ran iechyd menywod a phobl sydd wedi’u cofrestru’n fenywod adeg eu geni, pobl draws, anneuaidd, a rhyngrywiol, mae diffyg ymwybyddiaeth, diffyg gwybodaeth neu arweiniad, rhagfarnau a stereoteipiau i gyd yn gallu chwarae rhan bwysig o ran oedi mynediad at y gofal iechyd gorau posibl, gan ei gwneud yn anoddach o lawer sicrhau canlyniadau da i gleifion. Cyfeirir yn aml at well hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fel ffordd allweddol o fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau hyn – a dyma lle mae gan Lywodraeth y DU gymaint o rôl i’w chwarae â Llywodraeth Cymru: mae llawer iawn o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru wedi cael eu hyfforddi yn Lloegr, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid i gleifion sy’n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, neu sydd angen triniaeth arbenigol, adael Cymru i gael gafael ar wasanaethau.

Rydyn ni hefyd yn gwybod bod llawer o’r annhegwch iechyd mwyaf niweidiol yn cael ei sbarduno gan anfantais economaidd-gymdeithasol[6], sy’n arbennig o amlwg yng Nghymru lle mae cyfran uwch o bobl hŷn[7] a phobl anabl yn y boblogaeth (17.7% o’i gymharu â 21.1%)[8]. Fodd bynnag, mae llawer o’r ffactorau ysgogi i fynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol yn nwylo Llywodraeth y DU, gan gynnwys y system les, y dylid eu hailwerthuso drwy lens rhywedd. A dweud y gwir, mae menywod mewn perygl arbennig o ran tlodi, yn enwedig oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod yn byw gyda salwch corfforol a meddyliol cronig sy’n ei gwneud yn anoddach, os nad yn amhosibl, iddynt gael gwaith.

Felly, byddem yn annog Llywodraeth newydd y DU i fod yn flaengar o ran ‘iechyd menywod’, yn enwedig oherwydd ei bod yn gwneud synnwyr economaidd: buddsoddi mewn ymchwil glinigol berthnasol; buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; buddsoddi mewn darparu gwasanaethau gwell…Byddai’r cyfan yn galluogi’r DU i fabwysiadu’r dull ‘ataliol’ sy’n aml yn cael ei annog, gan wella llesiant ariannol y DU yn y pen draw, ac iechyd a ffyniant ei dinasyddion.

A ninnau yn aelodau o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, rydyn ni wedi cefnogi gofynion ei faniffesto ar anghydraddoldeb iechyd, gan gynnwys:

  • Yr angen i flaenoriaethu mynediad teg ac amserol at wasanaethau iechyd i fenywod
  • Buddsoddi mewn ymchwil o ansawdd uchel i iechyd ac i driniaethau menywod, gan gynnwys dadgyfuno treialon clinigol yn deg
  • Pob ymarferydd gofal iechyd sy’n delio â chleifion i gael hyfforddiant gorfodol sy’n ymwneud ag anghenion iechyd menywod a grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig
  • Cyflwyno rhwymedigaeth gyfreithiol i gyflogwyr gynnig cymorth ac addasiadau rhesymol i’r rhai y mae symptomau cyflyrau iechyd neu menopos yn effeithio arnynt, ac i’r rhai sy’n mynd drwy driniaeth ffrwythlondeb
  • Cyflwyno absenoldeb â thâl i’r rhai sy’n profi camesgoriad yn ystod 24 wythnos gyntaf eu beichiogrwydd
  • Ymrwymiad i fynd i’r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol fel sbardun allweddol i anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Byddem yn mynd ymhellach ac yn ychwanegu at y rhestr hon yr angen i flaenoriaethu llesiant a hawliau pobl anabl, llawer ohonynt yn fenywod ac yn bobl sydd wedi’u cofrestru’n fenywod adeg eu geni.

Mae diffyg addysg am anabledd wedi galluogi rhagfarnau a chamsyniadau i ffynnu ar draws cymdeithas, ac mae llawer o’n cymuned yn anymwybodol, fel pobl sy’n byw gyda symptomau parhaus sy’n effeithio ar fywyd (hyd yn oed os nad ydynt wedi cael diagnosis ffurfiol eto), eu bod yn ‘cael’ galw eu hunain yn anabl. Yn rhy aml, nid oes gan y rhai yr effeithir arnynt unrhyw syniad bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi’r hawl iddynt ofyn am addasiadau rhesymol yn y gwaith, neu gael eu trin ag urddas a pharch, heb wahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth. Fel dywed ein Swyddog Ymgysylltu, Dee, ‘efallai nad yw’r rheini sy’n ystyried eu hunain yn anabl wedi ei chael hi’n hawdd derbyn hyn, yn enwedig oherwydd y cywilydd, y stigma, y tabŵ a’r ableddiaeth (gan eraill neu’n fewnol) mae cynifer ohonom yn ei brofi’.

Yn anad dim arall, un o nodau sylfaenol FTWW yw rhoi’r hyder i’w aelodau sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed o ran eu hiechyd a’u llesiant. Mae Etholiad y DU yn gyfle hollbwysig i wneud hynny. Rydyn ni’n annog pawb sy’n darllen i ymarfer eich hawl i bleidleisio ddydd Iau 4 Gorffennaf, hawl y bu brwydr galed i’w hennill. Rydyn ni hefyd yn annog pawb i’n dilyn ni ac ymgysylltu â’ch Aelodau Seneddol ar ôl iddynt gael eu hethol i sicrhau eu bod yn cyflawni’r holl ofynion uchod – cofiwch, maen nhw’n gweithio i chi, i ni.

Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol os nad ydych chi’n siŵr am unrhyw beth, a chysylltwch â’ch awdurdod lleol os oes gennych chi gwestiwn am hygyrchedd yn eich gorsaf bleidleisio. Byddwch chi angen ID ffotograffig i bleidleisio – gallwch weld beth sy’n cael ei dderbyn yma.

[1] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/healthandsocialcare/healthandlifeexpectancies/bulletins/healthstatelifeexpectanciesuk/between2011to2013and2020to2022

[2] https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/hormonaidd-emosiynol-ac-afresymol-a-yw-n-wir-nad-yw-iechyd-menywod-yn-cael-ei-ystyried-yr-un-mor-ddifrifol-ag-iechyd-dynion/

[3] https://publications.parliament.uk/pa/cm5803/cmselect/cmwomeq/94/report.html

[4] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/articles/coronaviruscovid19relateddeathsbydisabilitystatusenglandandwales/24januaryto20november2020

[5] https://www.thelancet.com/journals/lanepe/article/PIIS2666-7762(21)00228-3/fulltext

[6] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/healthandsocialcare/disability/articles/disabilitybyagesexanddeprivationenglandandwales/census2021#disability-and-deprivation-england-2021

[7] https://www.llyw.cymru/amcangyfrifon-poblogaeth-ac-aelwydydd-cymru-cyfrifiad-2021-html

[8] https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/healthandsocialcare/healthandwellbeing/bulletins/disabilityenglandandwales/census2021

cyCymraeg