Mis Mawrth yw Mis Gweithredu Endometriosis, ac ochr yn ochr â’n ffrindiau yn Endometriosis UK – byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad sy’n canolbwyntio ar gost economaidd a dynol byw gyda’r cyflwr; yn ogystal â’r effaith ar bob agwedd ar fywyd y rhai sy’n byw gydag endometriosis, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, addysg a gwaith, a pherthnasoedd. Mae adroddiad Economeg Iechyd Menywod 2024 Cydffederasiwn y GIG yn amcangyfrif bod cost economaidd absenoldeb oherwydd poen mislif difrifol ynghyd ag endometriosis, adenomyosis, ffibroidau a chodennau ofarïaidd, bron yn £11 biliwn y flwyddyn.
Noddir y digwyddiad cyntaf diolch i Sioned Williams AS, ac mae’n alwad i weithredu yn unswydd ar gyfer Aelodau o’r Senedd, cydweithwyr y Senedd a Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag Aelodau Senedd y DU sy’n cynrychioli Cymru. Cynhelir y digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth 11 Mawrth – os hoffech chi ysgrifennu at eich Aelod lleol neu ranbarthol o’r Senedd neu Aelod Seneddol lleol a gofyn iddyn nhw a/neu eu timau fod yn bresennol, gallwch ddod o hyd i’n llythyr templed fan hyn. local or regional MS or local MP and ask them and / or their teams to attend, you can find our template letter (versions in English and Welsh) here:
Senedd Endo 2025 – Llythyr Templed i Aelodau FTWW – Saesneg
Senedd Endo 2025 – Llythyr Templed i Aelodau FTWW – Cymraeg
Cynhelir yr ail ddigwyddiad ar-lein ddydd Mawrth 25 Mawrth. Mae’n agored i bawb sydd eisiau mynychu, a gallwch gael gwybod mwy a chofrestru fan hyn..