Illustration of diverse women in front of the Disability Pride flag with the FTWW logo above text reading 'Disability Pride & Women's Health.'Mae hi’n Fis Balchder Anabledd ym mis Gorffennaf, ac yma yn FTWW rydyn ni wir yn credu bod anabledd yn rhywbeth i fod yn ‘falch’ ohono. Os nad ydych chi wedi darllen ein blog blaenorol am hyn, byddem yn argymell eich bod chi’n gwneud hynny cyn i chi ddarllen hwn!

Nid dathliad yn unig yw Mis Balchder Anabledd, mae hefyd yn brotest, ac mae hyn wedi cael ei ddangos ledled y DU dros y misoedd diwethaf i wrthwynebu Cynigion Diwygio Lles Llywodraeth y DU. Rydyn ni eisiau defnyddio'r blog hwn i dynnu sylw at rai o'r rhwystrau anablu sy’n wynebu’r rhai yn ein cymuned – yn enwedig o ran iechyd – yn ogystal â'r camau rydyn ni'n eu cymryd gyda'n cymuned a'n gwasanaethau iechyd i helpu i wella pethau ar gyfer 'iechyd menywod' ledled Cymru.

Fel aelod o sefydliad pobl anabl Anabledd Cymru, fe wnaethom gyfrannu at eu hymateb i ymgynghoriad diwygio lles Llywodraeth y DU – a oedd hefyd yn tynnu sylw at yr angen brys am gydgynhyrchu*; pe bai pobl anabl wedi bod yn bartneriaid cyfartal wrth ddylunio'r diwygiadau o'r cychwyn cyntaf, mae'n debygol iawn na fyddai'r cynigion wedi wynebu'r trallod a'r gwrthwynebiad a fynegwyd gan gynifer ar draws sawl rhan o gymdeithas. Fel eiriolwyr hirsefydlog dros gyd-gynhyrchu, rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn dysgu o hyn ac yn ymrwymo i gyd-gynhyrchu go iawn yn y dyfodol.

Rydyn ni’n arbennig o bryderus ynghylch yr effaith y gallai newidiadau arfaethedig i gymhwysedd yn y dyfodol ar gyfer Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), ac elfen iechyd y Credyd Cynhwysol, ei chael ar fenywod a phobl a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni (AFAB)**.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae menywod yn debygol o brofi llai o flynyddoedd o fod ‘heb anabledd' na dynion, yn fwy tebygol o fod yn byw gyda phroblem iechyd, ac yn fwy tebygol o gael eu cyfyngu o ran gweithgareddau o ganlyniad.

Bydd llawer o fenywod anabl yn dibynnu ar gymorth ychwanegol gan y wladwriaeth, fel Taliadau Annibyniaeth Personol, i helpu i dalu am y costau ychwanegol sy'n deillio o fod yn anabl; mae canfyddiadau diweddaraf Scope yn dangos bod angen £1,095 yn ychwanegol ar “aelwydydd anabl” bob mis. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr aelwydydd hyn yn cael yr un safon byw ag aelwydydd nad ydynt yn anabl. Dros y pum mlynedd nesaf, disgwylir gweld cynnydd mewn chwyddiant a’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag anabledd, gan gyrraedd £1,224 y mis erbyn blwyddyn ariannol 2029-2030.”

Gall rhai o'r costau ychwanegol hyn fod ar ffurf ymyriadau therapiwtig (nad ydynt ar gael yn aml drwy’r GIG) i alluogi pobl i aros yn ddigon iach i aros mewn gwaith. Mae llawer o'n haelodau'n gorfod talu’n breifat am gwnsela, atchwanegiadau, ffisiotherapi a dyfeisiau fel peiriannau TENS, felly rydyn ni’n ei chael hi'n anodd gweld sut y gall y newidiadau arfaethedig i gymhwysedd fod yn gymhelliant i weithio, pan fydd yn fudd sydd eisoes yn gwneud yr union beth y bwriadwyd iddo ei wneud: helpu menywod i gadw eu hannibyniaeth a, lle bo'n bosibl, aros mewn gwaith, neu i gael gwaith.

Nid oes amheuaeth y bydd toriadau arfaethedig i fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd yn cael effaith anghymesur ar fenywod, ond maen nhw'n wynebu rhwystrau ychwanegol o ran eu gofal iechyd hefyd – a dyna pam mae FTWW yn bodoli.

Rydyn ni’n cydnabod y gellid dadlau mai'r rhwystr mwyaf sy'n anablu pobl yn ein cymuned yw diffyg ymwybyddiaeth; gan nad yw cynifer o fenywod sy’n byw gyda phroblemau iechyd hirdymor - sy’n aml yn rhai cronig ac anweladwy - yn ystyried eu hunain fel pobl anabl ‘nodweddiadol’, a heb fod yn wybodol o'r hawliau cysylltiedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae hyn yn golygu nad ydynt yn gallu cael gafael ar y cyngor a’r cymorth y mae ganddynt hawl iddynt, sy’n cynnwys addasiadau rhesymol yn y gweithle a gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Mae FTWW yn wir yn cefnogi'r model cymdeithasol o anabledd, sy’n canolbwyntio ar sut mae rhwystrau cymdeithasol (fel trafnidiaeth gyhoeddus anhygyrch, oedi cyn cael diagnosis, rhestr aros hir y GIG, ac adeiladau cyhoeddus anhygyrch) yn ein 'anablu’ ni. Mae’r model yn wahanol i'r model meddygol o anabledd, sy’n tueddu i ystyried pobl yn anabl oherwydd eu salwch neu amhariad/amhariadau, yn hytrach nag oherwydd agweddau hanesyddol a chymdeithasol.

Wrth gwrs, mae'n werth nodi, yn ogystal â'r rhwystrau cymdeithasol, bod llawer o bobl â salwch cronig yn anabl oherwydd eu problemau a'u symptomau iechyd, ac felly o bosibl yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y model cymdeithasol – rhywbeth mae pob un ohonom yn FTWW yn gallu uniaethu ag ef oherwydd ein profiadau bywyd ein hunain. O ganlyniad, ein nod yw sicrhau bod profiadau'r rhai sydd â salwch cronig a / neu salwch hirdymor yn cael eu cynnwys a'u clywed ym mudiad y model cymdeithasol.

Fel llawer yn ein cymuned, rwy'n teimlo fy mod i'n 'casglu' amhariadau a phroblemau iechyd cronig; cefais fy ngeni gydag un, daeth un arall ar ôl i mi gael anaf i'r pen, ac mae’r gweddill wedi dod yn ddiweddarach mewn bywyd. Er bod fy iechyd yn fy anablu'n fawr, rwy’n cefnogi'r model cymdeithasol oherwydd bod llawer o’m problemau iechyd wedi'u hachosi gan oedi hir cyn cael diagnosis, diffyg mynediad at y gofal sydd ei angen arnaf, a’r ffaith nad oes gwasanaethau iechyd yn bodoli ar gyfer ambell salwch sydd gennyf.

Yn ogystal â'r holl rwystrau a grybwyllwyd yn flaenorol, rwyf wedi cael fy anablu ymhellach gan ragfarn feddygol; lle tybiwyd, gan nad ydw i’n berson strêt ac felly’n berson anfoesol, bod fy symptomau parhaus ‘yn gysylltiedig ag STD’; diffyg mynediad at y system iechyd; rhagfarn systemig sydd yn rhy aml yn gweld problemau gynaecolegol yn cael eu priodoli’n anghywir fel stereoteipiau rhywedd (‘menyw ydych chi, felly mae’n rhaid eich chi’n dioddef o bryder / straen’); gwahaniaethu (gan gynnwys mewn gweithleoedd a lleoliadau gofal iechyd blaenorol lle gwrthodwyd addasiadau rhesymol ar fy nghyfer), ac agweddau negyddol yn gyffredinol tuag at bobl anabl a’r hyn y gallwn ei wneud: yn syml, pe bai’r gwasanaethau iechyd wedi diwallu fy anghenion pan ddechreuais i chwilio am ofal am y tro cyntaf yn 1999, a phe bai’r rhwystrau cymdetihasol yn cael eu chwalu, mae’n bosibl na fyddwn i wedi bod mor anabl ag ydw i nawr. Mae fy mhrofiad i’n debyg iawn i brofiadau menywod eraill ledled Cymru.

Gofynnwyd i mi'n ddiweddar pam nad ydw i'n postio rhyw lawer am un o’m problemau iechyd yn ystod ei fis ymwybyddiaeth. Mae yna nifer o resymau dros hyn: Rwy'n credu y dylai codi ymwybyddiaeth, gweithredu ac eirioli fod yn bethau y dylem ni fod yn eu gwneud drwy gydol y flwyddyn; dydw i ddim eisiau ail-drawmateiddio fy hun, a sylweddolais y byddai’n rhaid i mi neilltuo pedwar mis cyfan yn olynol ar gyfer misoedd ymwybyddiaeth dim ond rhai o'm problemau iechyd. Nid yw hyn yn bosibl i rywun fel fi sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu ar eich egni, gorfod cadw swydd ran-amser, mwynhau hobïau, a ‘byw’ yn gyffredinol! Ond y rheswm mwyaf yw'r ffaith nad yw llawer o'r rhwystrau rydyn ni’n eu hwynebu yn ein gofal iechyd yn gyfyngedig i un broblem iechyd.

Roedd adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru yn y trydydd sector, a gafodd ei gydgynhyrchu a'i gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Iechyd Menywod yn ôl yn 2022, yn tynnu sylw at bedair thema allweddol sy'n cael effaith niweidiol ar iechyd menywod:

  1. Diffyg mynediad at wasanaethau arbenigol
  2. Yr angen i wella’r dull o gasglu data
  3. Cymorth ar gyfer cydgynhyrchu cynaliadwy
  4. Gwell hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal

Llwyddodd y Gynghrair i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i Gynllun deng mlynedd GIG Cymru ar gyfer Iechyd Menywod, ac mae’r gwaith bellach yn mynd rhagddo. Fel Cadeirydd y Gynghrair, mae FTWW yn gweithio gyda'r Llywodraeth a GIG Cymru i sicrhau bod cydgynhyrchu wrth galon y gwaith o ddylunio a chyflawni'r cynllun.

Ond nid dyna’i diwedd hi. Fel elusen sy'n cael ei harwain gan gleifion, roedden ni’n falch iawn o gyhoeddi 'Ein Hawl Menywod i Iechyd a Llesiant yng Nghymru', sef ein maniffesto ar gyfer 2026-2030, a gafodd ei gydgynhyrchu’n llawn â’n haelodau ym mis Mai eleni.

Mae'r maniffesto yn nodi'r materion presennol sy'n wynebu gofal iechyd menywod yng Nghymru, ynghyd â'n galwadau i Lywodraeth nesaf Cymru ar sut i fynd i'r afael â nhw, gan dynnu sylw at chwe ffordd o wireddu hawl menywod i iechyd a llesiant yng Nghymru:

  • Buddsoddiad parhaus mewn ymchwil i faterion a chyflyrau iechyd sy'n effeithio ar fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod adeg eu geni
  • Iechyd mislif, cyflyrau gynaecolegol, a'r menopos fel blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi a gwella ansawdd mewn gofal sylfaenol yng Nghymru
  • Lleihau rhestrau aros GIG Cymru
  • Hyfforddiant a buddsoddiad mewn nyrsys arbenigol a gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd ar gyfer cyflyrau ‘iechyd menywod’ mewn gofal sylfaenol ac eilaidd
  • Gwreiddio arweinyddiaeth iechyd menywod a chydgynhyrchu gyda chleifion a'r trydydd sector ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru
  • Siarter Cleifion GIG Cymru wedi'i chydgynhyrchu

Os gall Llywodraeth nesaf Cymru weithredu'r cynigion hyn, gyda chydgynhyrchu yn ganolog iddynt, rydyn ni’n sicr y gall profiadau llawer o fenywod o gael eu hanablu gan wasanaethau iechyd droi’n rhywbeth sy’n perthyn i'r gorffennol.

Pan ystyriwn fod 77% o weithlu'r GIG yng Nghymru yn fenywod, mae’n amlwg nad cleifion yn unig fyddai’n elwa o wasanaethau iechyd gwell, ond staff gwerthfawr y GIG hefyd. Dim ond drwy gydweithio fel partneriaid go iawn y gallwn wneud pethau'n well i bawb.

Wrth i Fis Balchder Anabledd ddirwyn ddod i ben, hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad a'n balchder diffuant yn ein cymuned am eu heiriolaeth, eu cefnogaeth i'w gilydd, a'u cymhelliant i wneud pethau'n well i bawb. Rydyn ni hefyd yn annog eraill i ymuno â ni a sicrhau bod hawliau anabledd a gwelliannau i ofal iechyd yn cael eu hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn.

Os hoffech chi gymryd rhan yng ngwaith FTWW, mae croeso i chi gysylltu â ni. Os ydych chi’n glaf, rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â’n grŵp Facebook and / ac / neu i gysylltu â ni am wirfoddoli.

*Cydgynhyrchu: Partneriaeth gyfartal lle mae pobl sydd â phrofiad bywyd (fel cleifion) a phrofiad a gafwyd drwy addysg (fel meddygon a nyrsys) yn gweithio gyda’i gilydd o'r dechrau i'r diwedd.

**Dylid ystyried bod cyfeiriadau yn ein henw ac ar ein gwefan at ‘fenywod’ yn cynnwys merched a phobl sydd wedi'u cofrestru'n fenywod ar adeg eu geni, gan gynnwys pobl draws, anneuaidd a rhyngrywiol – mae FTWW yn eu cefnogi nhw i gyd.

cyCymraeg