Gydag etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal mewn llai na blwyddyn, dewiswyd y diwrnod arbennig hwn i iechyd menywod, Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol dros Iechyd Menywod, i lansio ein Maniffesto ar gyfer tymor y Senedd 2026-2030.
Ein Hawl Menywod i Iechyd a Llesiant yng Nghymru ei gyd-baratoi gydag aelodau FTWW, ac mae'n cynnwys materion cyfredol sy'n wynebu gofal iechyd menywod yng Nghymru a'n galwadau i Lywodraeth nesaf Cymru ar sut i fynd i'r afael â nhw.
Chwe Ffordd o Wireddu Hawl Menywod i Iechyd a Llesiant yng Nghymru
- Buddsoddiad parhaus mewn ymchwil i faterion a chyflyrau iechyd sy'n effeithio ar fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod adeg eu geni
- Iechyd mislif, cyflyrau gynaecolegol, a'r menopos fel blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi a gwella ansawdd mewn gofal sylfaenol yng Nghymru
- Lleihau rhestrau aros GIG Cymru
- Hyfforddiant a buddsoddiad mewn nyrsys arbenigol a gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd ar gyfer cyflyrau ‘iechyd menywod’ mewn gofal sylfaenol ac eilaidd
- Gwreiddio arweinyddiaeth iechyd menywod a chydgynhyrchu gyda chleifion a'r trydydd sector ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru
- Siarter Cleifion GIG Cymru wedi'i chydgynhyrchu
Read Our Right to Health and Wellbeing in Wales in English
Darllenwch Ein Hawl Ni i Iechyd a Llesiant yng Nghymru yn Gymraeg