Cefndir gwyrdd gyda llusernau aur yn hongian uwchben lleuad gilgant addurniadol, sêr, anrhegion wedi’u lapio, a blodau gwyn. Mae’r geiriau ‘Ramadan Mubarak’ yn ymddangos ar y dde.
Hoffem ddymuno Ramadan Mubarak (Ramadan bendithiol) i Fwslimiaid ledled Cymru a thu hwnt. Fel sefydliad pobl anabl, rydyn ni’n anfon ein cofion cynnes a’n dymuniadau gorau i’r holl bobl sy’n anabl a / neu sydd â salwch cronig ledled y byd ac sy’n cadw Ramadan yn ystod y cyfnod hwn.

Mae llawer o bobl anabl a phobl â salwch cronig yn methu ymprydio neu weddïo’n gorfforol oherwydd eu salwch neu eu hamhariadau, ond mae’n bosibl y byddant yn dewis cadw’r mis sanctaidd mewn ffyrdd eraill.

Isod ceir rhai adnoddau a fydd, gobeithio, yn cyfeirio at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth, nid dim ond ar gyfer ein cymuned Fwslimaidd sy’n cadw Ramadan, ond ar gyfer rhwydweithiau ehangach hefyd – gan gynnwys cyflogwyr, cydweithwyr, ffrindiau, a chymunedau.

Hoffem ddiolch i Naheed ac Azra, Sylfaenwyr Active Lives yng Nghasnewydd, a Harriet Martin-Jones, sy’n gwirfoddoli gyda FTWW, am eu cyfraniadau at y casgliad hwn o adnoddau.

Os hoffech ychwanegu unrhyw adnoddau, neu siarad â ni am yr hyn rydyn ni’n ei wneud, cysylltwch â ni! Gallwch anfon ebost at admin@ftww.org.uk.

cyCymraeg