Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Maniffesto Cynghrair Iechyd Menywod Cymru y trydydd sector ar gyfer 2026-2030, sef Canolbwyntio ar y 51%.

Wrth i ni nesáu at Etholiadau’r Senedd yn 2026, Canolbwyntio ar y 51% yn amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol lle mae llesiant menywod, teuluoedd, a’r gymdeithas yn ehangach yn cael ei sicrhau. Mae’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu iechyd menywod ar draws pob maes polisi, ac mae’n galw ar GIG Cymru i sicrhau bod y Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd, a gyhoeddwyd yn 2024, yn cael ei roi ar waith.

Mae Cynghrair Iechyd Menywod Cymru, dan gadeiryddiaeth Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW), yn cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion sy’n cael eu huno gan ymrwymiad ar y cyd i wella iechyd a llesiant menywod, merched, a phobl a bennwyd yn fenywod adeg eu geni sy’n byw a / neu’n cael gofal iechyd yng Nghymru. Gyda chyfraniadau gan 25 o’r sefydliadau hyn a chymeradwyaeth gan 7 o rai eraill, mae Canolbwyntio ar y 51% yn cywain cyfoeth o wybodaeth arbenigol a phrofiadau bywyd o Gymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn galw am roi terfyn ar wahaniaethau parhaus mewn profiadau a chanlyniadau iechyd menywod o’u cymharu â dynion.

Canolbwyntio ar y 51% yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru, sy’n addo sefydlu Canolfannau Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd, a buddsoddi mewn ymchwil i iechyd menywod. Rydyn ni’n croesawu’r mentrau hyn, ond i gyd-fynd â hwy rhaid cael camau gweithredu pendant, buddsoddiad, ac atebolrwydd tra bo menywod yng Nghymru yn parhau i wynebu oedi annerbyniol cyn cael diagnosis, mynediad anghyfartal at wasanaethau, a rhwystrau systemig sy’n peryglu eu hiechyd a’u llesiant o fewn iechyd a gofal a’r tu hwnt i hynny.

Dywed Jill Rundle, FfCSYM - Cymru:

"Mae rhoi Cynllun Iechyd Menywod Cymru ar waith yn hanfodol. Rhaid iddo wneud gwir wahaniaeth i fywydau menywod a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli ar hyn o bryd."

Yn gryno, mae Canolbwyntio ar y 51% yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i

  • Roi ystyriaeth lwyr i iechyd a llesiant menywod ar draws holl feysydd polisi’r llywodraeth
  • Rhoi’r Cynllun Iechyd Menywod ar waith yn llwyr, gydag adroddiadau cynnydd blynyddol gan y byrddau iechyd
  • Lleihau oedi diagnostig ar gyfer cyflyrau iechyd sydd ddim ond yn effeithio ar fenywod a phobl a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni, neu sy’n effeithio arnynt yn anghymesur neu’n wahanol
  • Pennu a monitro targedau cenedlaethol ar gyfer diogelwch mamolaeth, gan gynnwys lleihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol
  • Gwarantu mynediad teg at ofal iechyd i bob menyw drwy gydgynhyrchu a chyhoeddi Siarter Cleifion GIG Cymru
  • Buddsoddi i ddatblygu’r gweithlu a buddsoddi mewn hyfforddiant ar anghenion iechyd menywod
  • Gwella’r broses o gasglu data yn systemau iechyd a gofal Cymru i sicrhau bod modd dadansoddi anghenion amrywiol, mynd i’r afael â’r anghenion hynny, a thargedu gwasanaethau’n briodol
  • Parhau i fuddsoddi mwy mewn ymchwil i iechyd menywod
  • Buddsoddi yn y trydydd sector yng Nghymru, gan gydnabod y cymorth a’r eiriolaeth eang a ddarperir i fenywod a chleifion.

A wnewch chi ymuno â ni yn y galwadau hyn? I addo eich cefnogaeth, rhannwch Canolbwyntio ar y 51% yn eang a gadewch inni godi ein lleisiau ar y cyd i hyrwyddo iechyd a llesiant pob menyw yng Nghymru. Heb os, bydd Llywodraeth yng Nghymru sy’n gwrando ar y galwadau hyn yn helpu i sicrhau iechyd a ffyniant ein holl ddinasyddion yn y dyfodol.

Maniffesto Cynghrair Iechyd Menywod Cymru

cyCymraeg