Grymuso
Drwy gymorth gan gymheiriaid rydym ni'n grymuso ein haelodau i fagu hyder a gallu delio'n well â'u gofal iechyd.
Dechreuodd FTWW fel grŵp Facebook, ond erbyn hyn mae gennym ni bresenoldeb ar Facebook, Instagram, Twitter ac LinkedIn, lle rydym ni'n rhannu gwybodaeth ac yn dod â phobl at ei gilydd.
Yn ein cymuned ar-lein, rydym ni'n lleihau'r teimlad o fod wedi ynysu ac rydym ni'n darparu lle diogel i aelodau rannu eu profiadau a'u doethineb er mwyn helpu eraill. Mae ein cymuned yn meithrin hyder yn ei haelodau, gan eu grymuso i herio'r rhwystrau sy'n eu gwneud yn anabl – gan gynnwys gofal iechyd sy'n aneffeithiol.
Rydym ni'n helpu ein haelodau i gael gwared ar y cywilydd a'r tabŵ sy'n aml yn gysylltiedig â'r cyflyrau iechyd y maen nhw'n gorfod byw â nhw, gan eu helpu i deimlo'n hyderus i siarad yn agored am eu symptomau yn eu gweithleoedd, eu mannau addysgol ac ymysg teulu a ffrindiau.
Rydym ni hefyd yn annog ein haelodau i gymryd rhan mewn prosesau gwleidyddol; ymateb i ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru a'r GIG, a chysylltu â'u swyddogion etholedig i godi ymwybyddiaeth am y materion sy'n effeithio arnynt.
Gwybodaeth
Rydym ni'n sicrhau bod y bobl sy'n cael cymorth gennym yn gallu cael gwybodaeth er mwyn iddynt ddeall eu cyflwr yn well a gwybod pa wasanaethau sydd angen.
Eiriolaeth
Rydym ni'n trefnu i'r rhai sy'n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau ac arbenigwyr drwy brofiad ddod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a'u bod yn gallu dylanwadu ar newid cadarnhaol pan fydd gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu.